Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Cafodd llawer ohonom y fraint yr wythnos ddiwethaf o groesawu 18 o fenywod ifanc i'r Senedd i gymryd rhan mewn digwyddiad arweinyddiaeth a drefnwyd gan Chwarae Teg—diwrnod o weithgareddau i roi cipolwg ar sut y mae'r Cynulliad yn gweithio a rôl Aelodau Cynulliad. Nawr, cafodd pob cyfranogwr eu partneru ag AC am y bore, a chymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yn ogystal â dadl ffug i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr ac yn arbennig o gadarnhaol, gan gydnabod bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cynnig cyfle pwysig i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o gwmpas y byd ar gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond bod angen i ni fod yn feiddgar wrth fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n dal i atal menywod rhag chwarae rhan mor llawn â dynion ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Yn ystod y ddadl, cyflwynwyd rhai negeseuon pwerus. Nododd un cyfranogwr 'Rydym yr un mor debygol â bechgyn o fynd i'r brifysgol, ond mae'r nenfwd gwydr sy'n ein hatal rhag cael swyddi lefel uchel wedi'i folltio yn ei le o hyd. Ni allwch ddyrnu'r nenfwd gwydr hwnnw ar eich pen eich hun fwy na hyn a hyn o weithiau. Ni allwch oddef ond hyn a hyn o waed ar eich migyrnau. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i bawb sy'n gwneud y gwaith hwn i sefyll gyda'i gilydd'. A nododd un arall, 'Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dangos ac yn dathlu undod a pharch tuag at fenywod, nid yn unig gan fenywod ond hefyd gan ddynion addysgedig. Mae'r diwrnod hwn yn dangos i'r byd nad ydym am fodloni ar unrhyw beth sy'n llai na'n gwerth. Dyma pam fod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dal i fod yn bwysig yn 2018.'
Hir oes i'r modd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn dangos arweinyddiaeth ac undod wrth sicrhau cydraddoldeb. Diolch yn fawr.