Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod, ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd y Llywydd, arweinwyr grwpiau'r pleidiau a minnau, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ddatganiad ar y cyd. Rydym wedi nodi ymrwymiad i sicrhau nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac awydd i roi sicrwydd i bawb sy'n gweithio yma, a'r rhai sy'n ymweld â ni, y byddant yn rhydd rhag unrhyw fath o aflonyddu. Boed yma yn y Senedd, mewn swyddfa etholaeth, neu allan yn y gymuned, dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu trin â pharch wrth iddynt ddod i gysylltiad â chynrychiolwyr y sefydliad hwn.
Roedd y datganiad ar y cyd yn nodi nifer o gamau gweithredu a fwriadwyd i sicrhau bod y Cynulliad yn sefydliad cynhwysol, sy'n rhydd rhag bygythiadau ac aflonyddu. Roedd y camau hyn yn cynnwys datblygu polisi urddas a pharch, sefydlu gwasanaeth atgyfeirio cwynion cyfrinachol, a sicrhau bod y weithdrefn gwyno'n glir ac yn gyson. Mae gwaith yn mynd rhagddo, a disgwylir y bydd polisi urddas a pharch yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad fis nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnal ymchwiliad mwy eang i'r broses o sicrhau'r diwylliant cywir yn y Cynulliad. Rydym yn credu bod yn rhaid i'r Cynulliad osod esiampl a darparu arweinyddiaeth gref a chlir ar y math o ddiwylliant yr hoffem ei weld yn y gweithle yng Nghymru. Rydym yn ystyried gweithdrefnau cyfredol mewn perthynas â chwynion sy'n ymwneud ag Aelodau Cynulliad i sicrhau eu bod yn briodol ac yn glir. Mae'n rhaid i unigolion deimlo eu bod yn gallu siarad yn hyderus am unrhyw bryder mewn perthynas ag ymddygiad amhriodol.
Rydym wedi cynnal ymgynghoriad agored, gyda'r nod o ddarganfod a yw'r weithdrefn gwyno gyfredol yn hawdd ei deall ac yn hygyrch, ac a oes unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag mynegi pryderon am ymddygiad unrhyw un sy'n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod yr ymgynghoriad bellach wedi dod i ben yn ffurfiol, rydym bob amser yn annog pobl i gynnig awgrymiadau mewn perthynas â sut y gellir gwella'r broses neu i fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd tystiolaeth gan grwpiau ac unigolion sydd wedi cytuno i siarad â'r pwyllgor am eu profiadau. A hoffwn gofnodi fy niolch i'r rhai sydd wedi cynnig eu safbwyntiau i'r pwyllgor dros y misoedd diwethaf. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r rheini sydd wedi cytuno i siarad â ni. Heb ddeall profiadau pobl eraill, mae'n anodd iawn adnabod yr heriau o fewn y Cynulliad a chanfod sut yn union y gellir gwella'r diwylliant. Fel pwyllgor, rydym yn benderfynol o weld y safbwyntiau hyn yn cael eu parchu ac yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfnod adrodd.
Wrth inni barhau i gynnal ein hymchwiliad, un o'r negeseuon rydym wedi eu clywed hyd yn hyn yw y byddai gwell cyfathrebu ac eglurder ynghylch y weithdrefn gwyno yn helpu i gynyddu hyder yn y system. Gan adeiladu ar y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yng nghod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad, bydd y polisi urddas a pharch newydd yn helpu i'w gwneud yn gwbl glir nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad hwn. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at ymddygiad amhriodol. Mae sicrhau nad ydym yn sefyll o'r neilltu ac yn gadael i bethau ddigwydd yn gyfrifoldeb i bawb ohonom.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ailbwysleisio bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gomisiynydd safonau cwbl annibynnol, sy'n archwilio unrhyw bryder neu gŵyn a gaiff eu dwyn i'w sylw yn gwbl ddiduedd. Gellir cysylltu ag ef dros y ffôn, neu drwy anfon e-bost neu lythyr a bydd bob amser yn ceisio helpu, naill ai drwy ymdrin yn uniongyrchol â phryderon neu gyfeirio pobl i'r cyfeiriad cywir. Sefydlwyd llinell gymorth i rai sy'n ansicr ai'r comisiynydd yw'r llwybr mwyaf priodol ar gyfer cwyno. Mae'r rhif ffôn ar wefan y Cynulliad ac ar bosteri o amgylch yr ystâd. Os bydd Aelodau a staff eisiau trafod unrhyw fater yn ymwneud â'r weithdrefn gwyno gyda'r comisiynydd, bydd ar gael yn y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf. Yn ychwanegol at y comisiynydd, mae aelodau o'r pwyllgor safonau hefyd ar gael i drafod unrhyw bryderon a allai fod gennych mewn perthynas â'r weithdrefn gwyno, a bydd aelod o'r pwyllgor hefyd ar gael yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf.
Mae angen llawer iawn o ymrwymiad, amser a dyfalbarhad i sicrhau newid diwylliannol ystyrlon. Heddiw, rwyf wedi nodi camau cyntaf y broses, gan sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflawni ei nod o fod yn sefydliad sy'n galluogi ac yn grymuso pobl. Rwy'n hyderus fod pawb ohonom yma yn Siambr yn rhannu'r nod hwn ac y bydd pawb yn barod i chwarae eu rhan i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni. Diolch.