5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Urddas a Pharch yn y Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:49, 7 Mawrth 2018

A gaf innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad? Wrth wrando ar y datganiad, rwy'n meddwl ei bod yn dod yn glir bod yna dair tasg ymhlith y nifer fawr o dasgau sydd angen i ni eu cyflawni fan hyn y dylem ni fod yn ffocysu arnyn nhw. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae angen creu gwell dealltwriaeth o fewn y sefydliad yma o ddisgwyliadau y sefydliad o safbwynt ymddygiad ymhlith Aelodau a staff, a theulu ehangach y Cynulliad yma. Mae angen creu gwell eglurder hefyd, rwy'n meddwl, ymhlith y cyhoedd yn enwedig o beth rŷm ni'n credu sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol o safbwynt ymddygiad. Ac, wrth gwrs, mae angen job cwbl ymarferol o waith: mae angen codi llawer mwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â'r prosesau sy'n bodoli i fedru gwneud cwyn, i fedru sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, ac i fedru dal y rhai sy'n tramgwyddo i gyfrif. 

Ond mae yna un gwendid yn cael ei amlygu yn y ffaith fy mod i'n defnyddio'r gair 'prosesau'—yn y lluosog, wrth gwrs—ac mae hyn, yn amlwg, eisoes wedi codi ei ben yn yr un sesiwn dystiolaeth mae'r pwyllgor wedi ei chael yn yr ymchwiliad yma, sef bod gennym ni god ymddygiad i Aelodau Cynulliad, ond hefyd mae gennym ni god ymddygiad gwahanol ar gyfer Gweinidogion. Mae yna gwestiynau pwysig i'w gofyn yn hynny o beth. A ydy disgwyliadau y ddau god yna yn gyson â'i gilydd? A oes yna gysondeb o ran beth sydd yn dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol yng nghod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad a'r cod ymddygiad gweinidogol? Ac, wrth gwrs, mae yna ddwy broses wahanol o fynd ati i wneud cwyn. 

Nawr, efallai bod llawer o hyn yn weddol glir i ni oherwydd rŷm ni yn byw a bod yn y lle yma, ond rhowch eich hunain yn esgidiau aelod o'r cyhoedd ac nid wyf yn meddwl ei bod hi cweit mor glir ag efallai y byddem ni'n dymuno. Mi allai rhywun fynd at y comisiynydd safonau, a'r comisiynydd safonau yn esbonio, 'Na, mae'n rhaid i chi fynd â'ch cŵyn i swyddfa'r Prif Weinidog', ac mae gen i bob ffydd y byddai swyddfa'r comisiynydd yn gwneud hynny mewn modd sensitif ac addas. Ond, wrth gwrs, mae'n gam arall. Mae e yn hŵp arall i'r unigolyn yna orfod neidio drwyddo. Ffactorau fel hyn, wrth gwrs, sydd wedi ei gwneud hi yn anoddach i'r unigolion yma, ac yn llai tebygol y bydd yr unigolion yma yn mynd ymlaen â'u cwynion, ar adeg, wrth gwrs, pan maen nhw'n fregus, pan maen nhw'n ddihyder. Dyna pam fod rhaid i ni wneud y prosesau yma mor hygyrch ac mor syml ag sy'n bosibl.

Cofiwch, wrth gwrs, fod cod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad yn berthnasol i Aelodau Cynulliad nid yn unig yn ein bywyd proffesiynol, ond yn ein bywyd preifat hefyd. Felly, pam ddim, yn fy marn i, cwmpasu rôl gweinidogol hefyd o fewn yr un cod, a rhoi'r cyfrifoldeb i'r comisiynydd safonau annibynnol i graffu ar hynny, ond wedyn dod ag argymhellion yng nghyd-destun Aelodau Cynulliad i'r pwyllgor safonau, ond yng nghyd-destun y Gweinidogion wedyn i'r Prif Weinidog? Felly, a gaf i ofyn: oni fyddai'n well o ran cwrdd â'r nodau teilwng iawn rydych chi'n eu rhestru yn eich datganiad—o ran cael proses glir a chyson, ei fod yn hawdd i'w deall, ei fod yn hygyrch i bawb—oni fyddai cael un proses i bob Aelod Cynulliad ym mhob capasiti yn fwy triw i'r egwyddorion hynny, yn hytrach na chael dwy gyfundrefn fel sydd nawr, heb sôn, wrth gwrs, am gyfundrefnau y pleidiau gwleidyddol fel rydym ni eisoes wedi clywed cyfeiriad atyn nhw? 

Nawr, mae yna sawl cwestiwn arall wedi codi eu pennau yn barod. Mae yna nifer yn teimlo bod yna anghysondeb yn yr hawl i apelio o fewn y gyfundrefn bresennol, lle mae Aelod Cynulliad yn medru apelio yn erbyn dyfarniad, ond nid yw achwynydd. Mae'r terfyn o 12 mis i ddod â chŵyn gerbron hefyd yn rhywbeth rwy'n meddwl sydd angen ei gwestiynu, oherwydd nid yw nifer o bobl sydd yn dod â chŵyn yn teimlo eu bod nhw'n gallu gwneud hynny—ddim yn barod i wneud hynny am gyfnod hirach, o bosib, na 12 mis. Mae angen bod yn sensitif i hynny hefyd.  

Felly, mae yna lawer o ffactorau yn y pair sydd angen eu hystyried, ac rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor safonau yn edrych ar y rhain. Ond, wrth gwrs, mae hi i gyd yn dod at bwynt canolog y datganiad, sef bod angen newid diwylliant ehangach, fel rŷch chi'n ei ddweud. Daw hynny ddim o ganlyniad i un ymchwiliad, ac mae pawb yn cydnabod nad oes dim jest un ateb i hyn. Mae yna lawer iawn sy'n gorfod digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r holl faterion yma. Ac, wrth gwrs, mae angen sgyrsiau ehangach am rai o'r meysydd pwysig yma sydd dan sylw—sgyrsiau o fewn y sefydliad yma, ie, ond sgyrsiau ehangach drwy gymdeithas hefyd. Mi fyddwn i'n licio cloi drwy ofyn i'r Cadeirydd pa rôl mae hi yn teimlo sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad, a'r pwyllgor safonau yn benodol, efallai, i arwain y broses yna i sicrhau fod y sgyrsiau pwysig yma yn digwydd.