Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 7 Mawrth 2018.
Nid y blaid Dorïaidd yn unig sy'n arddel polisïau poblyddol yn hytrach na pholisïau cosbi effeithiol. Yn ystod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, roeddwn yn gweithio yng ngharchar Holloway a chofiaf yn glir yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd yn canslo parti Nadolig i blant mewn ymateb i benawdau papur newydd erchyll a oedd yn anwybyddu anghenion plant yn llwyr. Yn gyson, byddai'n rhaid inni atgoffa ein hunain nad oedd y mantra fod 'pob plentyn yn bwysig', a oedd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i sgandal Victoria Climbié, yn berthnasol i blentyn carcharor.
Ni cheir cofnod swyddogol o faint o blant carcharorion a geir, ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyfaddef bod amcangyfrifon oddeutu 200,000. Rhaid inni gofio na fydd rhai carcharorion yn datgelu bod ganddynt blant pan gânt eu carcharu. Mae Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion (FFOP) yma yng Nghymru yn amcangyfrif bod 12,000 o blant carcharorion yn byw yn ne Cymru yn unig. Canfuwyd bod 95 y cant o'r plant hyn wedi gorfod symud cartref pan aeth eu rhiant i'r carchar, sydd hefyd yn golygu symud ysgol a cholli eu ffrindiau. Nid yw'n syndod fod y tryblith hwn ym mywyd y plentyn yn arwain at iselder a phroblemau ymddygiad yn yr ysgol.
Mae'r prosiect Ymweld â Mam a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT) yn galluogi plant Cymru i ymweld â'u mamau yn Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw unwaith y mis. I rai plant, mae hyn 150 o filltiroedd i ffwrdd o ble maent yn byw. Dengys gwerthusiad o'r cyswllt byr hwn hyd yn oed fod yna leihad mewn pryder, ymddygiad gwell yn y cartref ac yn yr ysgol, a llai o hunan-niweidio ymhlith mamau.
Felly, mae'r gwaith mae sefydliadau gwirfoddol megis PACT a FFOP yn parhau i'w wneud yn werthfawr dros ben, ond ni all gelu'r ffaith bod cael rhiant yn y carchar yn treblu'r perygl y daw'r plentyn hwnnw ei hun yn garcharor yn ddiweddarach mewn bywyd. I fechgyn, mae'r canlyniad hyd yn oed yn fwy digalon: bydd dwy ran o dair yn dilyn llwybr eu rhiant i'r carchar.
Bellach mae'n 11 mlynedd ers i adroddiad Corston, a gafodd ganmoliaeth eang, argymell yr angen i ystyried buddiannau gorau plant mewn polisi dedfrydu, a chael canolfannau gwarchodol bach i fenywod yn lle carchardai i fenywod. Yn anffodus, ychydig sydd wedi newid. Mae menywod yn dal i gael eu trin yn fwy llym na throseddwyr gwrywaidd, a bellach mae gennym dros 13,000 o fenywod yn mynd i mewn i'r system garchardai bob blwyddyn. Mae bron hanner y rhain ar remánd—niferoedd llawer mwy ohonynt na dynion—a cheir llai na hanner y menywod hynny'n euog yn y llys—neu caiff llai na hanner y menywod a geir yn euog ddedfryd o garchar pan gaiff yr achos ei glywed. Felly, gallent fod wedi osgoi mynd i'r carchar yn y lle cyntaf. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hanfon i'r carchar am drosedd gyntaf. Canlyniad lladrata yw'r mwyafrif llethol o garchariadau yn hytrach na thrais neu droseddau difrifol eraill. Mae 80 y cant o'r lladradau'n ymwneud â dwyn o siopau. Yn aml maent yn dwyn i fwydo eu plant neu i gynnal dibyniaeth eu partner ar gyffuriau. Mae oddeutu hanner y menywod hyn wedi dioddef troseddau mwy difrifol o lawer na'r rhai y cânt eu carcharu amdanynt.
Mae llawer o ddynion yn mynd i'r carchar am droseddau di-drais hefyd, ac o ystyried nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith carcharorion, mae'n hynod o siomedig nad yw'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio'r gofyniad i gael triniaeth iechyd meddwl sydd ar gael fel opsiwn dedfrydu ers 2003. Mae'n cyfarwyddo'r troseddwr i gael triniaeth iechyd meddwl fel rhan o ddedfryd gymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig. Mae ganddynt botensial i leihau poblogaeth y carchardai yn sylweddol, ond mae eu niferoedd wedi gostwng yn y naw mlynedd diwethaf ac maent bellach ar eu lefel isaf mewn degawd. Yn y pum mlynedd diwethaf, fe'u defnyddiwyd mewn llai nag 1 y cant o'r holl orchmynion cymunedol neu ddedfrydau gohiriedig, ac mae hyn yn dangos methiant i fynd i wraidd y broblem, sef y rheswm pam fod pobl yn mynd i'r carchar o gwbl, a pham y mae'r gyfradd aildroseddu mor uchel. Yn wir, mae'n uwch na'r lefel ymhlith troseddwyr tebyg sy'n bwrw dedfryd gymunedol. Felly, mae bod yn y carchar yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn aildroseddu.
Nododd Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin fod cyfradd ail euogfarnau ymhlith carcharorion sy'n treulio llai na blwyddyn yn y carchar yn 70 y cant yn 2008, o'i gymharu â 38 y cant ymhlith y rhai a gafodd eu dedfrydu i gyflawni gwaith di-dâl neu ddedfrydau cymunedol eraill. Mae'r cylch hwn o aildroseddu yn costio rhwng £9.5 biliwn a £15 biliwn y flwyddyn i'n heconomi. Mae gwledydd eraill yn rheoli pethau'n llawer gwell. Mae Sweden yn cau carchardai yn hytrach na gwario £200 miliwn ar adeiladu rhai newydd. Eglurodd cyfarwyddwr cyffredinol Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Sweden yn 2014,
Nid ein rôl yw cosbi. Y gosb yw'r ddedfryd o garchar: cânt eu hamddifadu o'u rhyddid. Y gosb yw eu bod gyda ni.
Felly, wrth edrych ar anghenion eu carcharorion, mae'n egluro,
Nid un broblem y mae ein cleientiaid yn ei hwynebu, ond dwy neu fwy, weithiau cymaint â saith neu wyth… gan gynnwys cyffuriau, alcohol a phroblemau seiciatrig efallai. Ac nid yw'r problemau hyn yn ymddangos dros nos. Dyma bethau sydd wedi datblygu dros flynyddoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r dedfrydau... yn gymharol fyr. Mae'r cyfle... ar gyfer newid yn fach iawn, felly mae angen inni ddechrau o'r diwrnod cyntaf un. Ein strategaeth yw cwmpasu'r holl amrywiaeth o broblemau, nid un broblem yn unig.
Bellach, mae gan yr Iseldiroedd hefyd argyfwng yn eu system gosbi, ond y gwrthwyneb i'n problem ni—mae ganddynt brinder o garcharorion. Maent eisoes wedi cau 19 o garchardai ac maent yn bwriadu cau rhagor eto oni bai eu bod yn gallu darbwyllo gwledydd eraill i anfon carcharorion atynt. Meddai dirprwy lywodraethwr Norgerhaven, carchar diogel,
Os oes gan rywun broblem cyffuriau rydym yn trin eu dibyniaeth, os ydynt yn ymosodol rydym yn darparu hyfforddiant rheoli dicter, os oes ganddynt broblemau ariannol rydym yn rhoi cyngor rheoli dyledion iddynt. Felly rydym yn ceisio dileu beth bynnag a achosodd y drosedd. Rhaid i'r carcharor ei hun fod yn barod i newid ond mae ein dull wedi bod yn effeithiol iawn. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae ein gwaith wedi gwella mwy a mwy.
Mae troseddwyr cyson—a elwir yn 'droseddwyr drws troi'—yn cael dedfrydau dwy flynedd o hyd yn y pen draw a rhaglenni adsefydlu pwrpasol.
Felly, ddegawd yn ôl roedd gan yr Iseldiroedd un o'r cyfraddau carcharu uchaf yn Ewrop, ond erbyn hyn, mae llai na 10 y cant ohonynt yn dychwelyd i'r carchar ar ôl eu rhyddhau. Mae hon yn stori lwyddiant wych. Cymharwch hynny â Chymru a Lloegr, lle mae oddeutu hanner y rhai sy'n bwrw dedfrydau byr yn aildroseddu o fewn dwy flynedd, ac mae'r ffigur yn uwch byth ymhlith oedolion ifanc. O gymharu, mae'r boblogaeth garchar yn yr Iseldiroedd dair gwaith yn is na'r hyn ydyw yng Nghymru a Lloegr a byddant yn arbed llawer iawn o arian yn peidio ag anfon pobl i—. Mae hyd yn oed y carchardai mwyaf gorlawn yma yn costio mwy i ni na lle yn Eton.
Felly, a ydym yn gallu newid ac a oes gennym ewyllys wleidyddol i newid? Gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros gyfiawnder araith ddoe a oedd yn cynnwys rhai pwyntiau defnyddiol am ddyheadau i ostwng poblogaeth y carchardai, a bod angen i'r system garchardai anelu at alluogi pobl i fynd i leoedd sy'n dangos dyngarwch, gobaith a dyhead. Felly, gobeithio y gallwn ddarbwyllo Llywodraeth y DU y gellir caniatáu inni dreialu ffyrdd newydd o weithio ar ddedfrydau cymunedol, canolfannau neu leoliadau gwarchodol bach i fenywod, a gweithio ar achosion y rhesymau pam y mae pobl wedi troseddu yn y lle cyntaf, fel nad ydym yn eu gweld yn dychwelyd dro ar ôl tro.