– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 7 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar gyfiawnder troseddol, ac rydw i'n galw ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6665 Jenny Rathbone, Jane Hutt, Bethan Sayed, Dai Lloyd, David Melding, Julie Morgan
Cefnogwyd gan David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith:
a) bod polisïau cyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi methu ag atal y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu carcharu;
b) nad yw amodau'r carchardai lle y mae gormod o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn ffafriol i adsefydlu, fel yr amlygwyd gan adroddiadau arolygu diweddar ar CEM Abertawe a CEM Lerpwl;
c) bod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn blwyddyn;
d) nad yw'r rhan fwyaf o argymhellion adroddiad Corston o 2007 am drin troseddwyr sy'n fenywod wedi'u gweithredu eto, gan anwybyddu'r dystiolaeth bod carcharu menywod am droseddau cymharol ddibwys yn amharu ar fywydau eu plant mewn ffordd sylweddol, costus ac na ellir ei chyfiawnhau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i:
a) treialu modelau amgen o gosbi troseddwyr di-drais o Gymru yng Nghymru er mwyn osgoi amharu ar y teulu, tai a chysylltiadau cyflogaeth sy'n elfennau hanfodol i adsefydlu llwyddiannus;
b) hyrwyddo gwaith cydgysylltiedig gwell rhwng gwasanaethau iechyd, tai a chyfiawnder troseddol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn digartrefedd a salwch meddwl ymysg pobl sy'n gadael carchar;
c) datblygu polisi cosbi Cymreig penodol ar sail y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio;
3. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y pen draw, ynghyd â'r adnoddau i adsefydlu troseddwyr mewn modd ataliol ac adferol, gan roi terfyn ar y drws troi rhwng y carchar ac ail-droseddu.
Diolch, Lywydd. Rydym yn carcharu mwy o bobl yng Nghymru a Lloegr nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop. Os daliwn ati i wneud hynny, byddwn gyn waethed â'r Unol Daleithiau, sydd ar hyn o bryd yn gwario mwy ar eu system garcharu, sydd yr un mor aneffeithiol, nag a wnânt ar addysg eu plant. Aneffeithiol, oherwydd nad yw'n arwain at newid ymddygiad pobl. Yn ôl cyfaddefiad Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed, mae dwy ran o dair o'r carchardai'n orlawn; mae pobl dan glo am y rhan fwyaf o'r dydd; mae cyfraddau hunan-niwed, hunanladdiad a llofruddiaeth yn uwch nag erioed. Nid oes unrhyw fodd y gellir ystyried bod yr amgylchiadau yng Ngharchar ei Mawrhydi Abertawe neu Garchar ei Mawrhydi Lerpwl—a ddisgrifir mewn manylder echrydus gan Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi—yn adsefydlu pobl. Nid y bwriad yw diystyru ymdrechion arwrol unigolion sy'n gweithio gyda charcharorion mewn amgylchiadau gwarthus, ond rhaid inni gydnabod nad yw'r system yn ei chyfanrwydd yn gweithio ac mae angen newid agwedd. Yn rhy hir o lawer, cafodd polisi cosbi ei arwain gan benawdau swnllyd y papurau tabloid. Tan yn ddiweddar, credai'r gwleidydd uchaf a oedd yn gyfrifol am y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel y'i gelwir fod amddifadu carcharorion o lyfrau yn syniad penigamp nes i'r Uchel Lys ddyfarnu, diolch byth, fod hynny'n anghyfreithlon.
Nid y blaid Dorïaidd yn unig sy'n arddel polisïau poblyddol yn hytrach na pholisïau cosbi effeithiol. Yn ystod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, roeddwn yn gweithio yng ngharchar Holloway a chofiaf yn glir yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd yn canslo parti Nadolig i blant mewn ymateb i benawdau papur newydd erchyll a oedd yn anwybyddu anghenion plant yn llwyr. Yn gyson, byddai'n rhaid inni atgoffa ein hunain nad oedd y mantra fod 'pob plentyn yn bwysig', a oedd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i sgandal Victoria Climbié, yn berthnasol i blentyn carcharor.
Ni cheir cofnod swyddogol o faint o blant carcharorion a geir, ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyfaddef bod amcangyfrifon oddeutu 200,000. Rhaid inni gofio na fydd rhai carcharorion yn datgelu bod ganddynt blant pan gânt eu carcharu. Mae Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion (FFOP) yma yng Nghymru yn amcangyfrif bod 12,000 o blant carcharorion yn byw yn ne Cymru yn unig. Canfuwyd bod 95 y cant o'r plant hyn wedi gorfod symud cartref pan aeth eu rhiant i'r carchar, sydd hefyd yn golygu symud ysgol a cholli eu ffrindiau. Nid yw'n syndod fod y tryblith hwn ym mywyd y plentyn yn arwain at iselder a phroblemau ymddygiad yn yr ysgol.
Mae'r prosiect Ymweld â Mam a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT) yn galluogi plant Cymru i ymweld â'u mamau yn Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw unwaith y mis. I rai plant, mae hyn 150 o filltiroedd i ffwrdd o ble maent yn byw. Dengys gwerthusiad o'r cyswllt byr hwn hyd yn oed fod yna leihad mewn pryder, ymddygiad gwell yn y cartref ac yn yr ysgol, a llai o hunan-niweidio ymhlith mamau.
Felly, mae'r gwaith mae sefydliadau gwirfoddol megis PACT a FFOP yn parhau i'w wneud yn werthfawr dros ben, ond ni all gelu'r ffaith bod cael rhiant yn y carchar yn treblu'r perygl y daw'r plentyn hwnnw ei hun yn garcharor yn ddiweddarach mewn bywyd. I fechgyn, mae'r canlyniad hyd yn oed yn fwy digalon: bydd dwy ran o dair yn dilyn llwybr eu rhiant i'r carchar.
Bellach mae'n 11 mlynedd ers i adroddiad Corston, a gafodd ganmoliaeth eang, argymell yr angen i ystyried buddiannau gorau plant mewn polisi dedfrydu, a chael canolfannau gwarchodol bach i fenywod yn lle carchardai i fenywod. Yn anffodus, ychydig sydd wedi newid. Mae menywod yn dal i gael eu trin yn fwy llym na throseddwyr gwrywaidd, a bellach mae gennym dros 13,000 o fenywod yn mynd i mewn i'r system garchardai bob blwyddyn. Mae bron hanner y rhain ar remánd—niferoedd llawer mwy ohonynt na dynion—a cheir llai na hanner y menywod hynny'n euog yn y llys—neu caiff llai na hanner y menywod a geir yn euog ddedfryd o garchar pan gaiff yr achos ei glywed. Felly, gallent fod wedi osgoi mynd i'r carchar yn y lle cyntaf. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hanfon i'r carchar am drosedd gyntaf. Canlyniad lladrata yw'r mwyafrif llethol o garchariadau yn hytrach na thrais neu droseddau difrifol eraill. Mae 80 y cant o'r lladradau'n ymwneud â dwyn o siopau. Yn aml maent yn dwyn i fwydo eu plant neu i gynnal dibyniaeth eu partner ar gyffuriau. Mae oddeutu hanner y menywod hyn wedi dioddef troseddau mwy difrifol o lawer na'r rhai y cânt eu carcharu amdanynt.
Mae llawer o ddynion yn mynd i'r carchar am droseddau di-drais hefyd, ac o ystyried nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ymhlith carcharorion, mae'n hynod o siomedig nad yw'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio'r gofyniad i gael triniaeth iechyd meddwl sydd ar gael fel opsiwn dedfrydu ers 2003. Mae'n cyfarwyddo'r troseddwr i gael triniaeth iechyd meddwl fel rhan o ddedfryd gymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig. Mae ganddynt botensial i leihau poblogaeth y carchardai yn sylweddol, ond mae eu niferoedd wedi gostwng yn y naw mlynedd diwethaf ac maent bellach ar eu lefel isaf mewn degawd. Yn y pum mlynedd diwethaf, fe'u defnyddiwyd mewn llai nag 1 y cant o'r holl orchmynion cymunedol neu ddedfrydau gohiriedig, ac mae hyn yn dangos methiant i fynd i wraidd y broblem, sef y rheswm pam fod pobl yn mynd i'r carchar o gwbl, a pham y mae'r gyfradd aildroseddu mor uchel. Yn wir, mae'n uwch na'r lefel ymhlith troseddwyr tebyg sy'n bwrw dedfryd gymunedol. Felly, mae bod yn y carchar yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn aildroseddu.
Nododd Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin fod cyfradd ail euogfarnau ymhlith carcharorion sy'n treulio llai na blwyddyn yn y carchar yn 70 y cant yn 2008, o'i gymharu â 38 y cant ymhlith y rhai a gafodd eu dedfrydu i gyflawni gwaith di-dâl neu ddedfrydau cymunedol eraill. Mae'r cylch hwn o aildroseddu yn costio rhwng £9.5 biliwn a £15 biliwn y flwyddyn i'n heconomi. Mae gwledydd eraill yn rheoli pethau'n llawer gwell. Mae Sweden yn cau carchardai yn hytrach na gwario £200 miliwn ar adeiladu rhai newydd. Eglurodd cyfarwyddwr cyffredinol Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth Sweden yn 2014,
Nid ein rôl yw cosbi. Y gosb yw'r ddedfryd o garchar: cânt eu hamddifadu o'u rhyddid. Y gosb yw eu bod gyda ni.
Felly, wrth edrych ar anghenion eu carcharorion, mae'n egluro,
Nid un broblem y mae ein cleientiaid yn ei hwynebu, ond dwy neu fwy, weithiau cymaint â saith neu wyth… gan gynnwys cyffuriau, alcohol a phroblemau seiciatrig efallai. Ac nid yw'r problemau hyn yn ymddangos dros nos. Dyma bethau sydd wedi datblygu dros flynyddoedd. Mae'r rhan fwyaf o'r dedfrydau... yn gymharol fyr. Mae'r cyfle... ar gyfer newid yn fach iawn, felly mae angen inni ddechrau o'r diwrnod cyntaf un. Ein strategaeth yw cwmpasu'r holl amrywiaeth o broblemau, nid un broblem yn unig.
Bellach, mae gan yr Iseldiroedd hefyd argyfwng yn eu system gosbi, ond y gwrthwyneb i'n problem ni—mae ganddynt brinder o garcharorion. Maent eisoes wedi cau 19 o garchardai ac maent yn bwriadu cau rhagor eto oni bai eu bod yn gallu darbwyllo gwledydd eraill i anfon carcharorion atynt. Meddai dirprwy lywodraethwr Norgerhaven, carchar diogel,
Os oes gan rywun broblem cyffuriau rydym yn trin eu dibyniaeth, os ydynt yn ymosodol rydym yn darparu hyfforddiant rheoli dicter, os oes ganddynt broblemau ariannol rydym yn rhoi cyngor rheoli dyledion iddynt. Felly rydym yn ceisio dileu beth bynnag a achosodd y drosedd. Rhaid i'r carcharor ei hun fod yn barod i newid ond mae ein dull wedi bod yn effeithiol iawn. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae ein gwaith wedi gwella mwy a mwy.
Mae troseddwyr cyson—a elwir yn 'droseddwyr drws troi'—yn cael dedfrydau dwy flynedd o hyd yn y pen draw a rhaglenni adsefydlu pwrpasol.
Felly, ddegawd yn ôl roedd gan yr Iseldiroedd un o'r cyfraddau carcharu uchaf yn Ewrop, ond erbyn hyn, mae llai na 10 y cant ohonynt yn dychwelyd i'r carchar ar ôl eu rhyddhau. Mae hon yn stori lwyddiant wych. Cymharwch hynny â Chymru a Lloegr, lle mae oddeutu hanner y rhai sy'n bwrw dedfrydau byr yn aildroseddu o fewn dwy flynedd, ac mae'r ffigur yn uwch byth ymhlith oedolion ifanc. O gymharu, mae'r boblogaeth garchar yn yr Iseldiroedd dair gwaith yn is na'r hyn ydyw yng Nghymru a Lloegr a byddant yn arbed llawer iawn o arian yn peidio ag anfon pobl i—. Mae hyd yn oed y carchardai mwyaf gorlawn yma yn costio mwy i ni na lle yn Eton.
Felly, a ydym yn gallu newid ac a oes gennym ewyllys wleidyddol i newid? Gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros gyfiawnder araith ddoe a oedd yn cynnwys rhai pwyntiau defnyddiol am ddyheadau i ostwng poblogaeth y carchardai, a bod angen i'r system garchardai anelu at alluogi pobl i fynd i leoedd sy'n dangos dyngarwch, gobaith a dyhead. Felly, gobeithio y gallwn ddarbwyllo Llywodraeth y DU y gellir caniatáu inni dreialu ffyrdd newydd o weithio ar ddedfrydau cymunedol, canolfannau neu leoliadau gwarchodol bach i fenywod, a gweithio ar achosion y rhesymau pam y mae pobl wedi troseddu yn y lle cyntaf, fel nad ydym yn eu gweld yn dychwelyd dro ar ôl tro.
Yn 1920, roedd 11,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr. Yn 1980, roedd 42,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr. Heddiw, mae yna 85,500 carcharorion yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn anfon llawer mwy o bobl i'r carchar nag a wnâi ein cyndadau Edwardaidd. Mae hynny'n frawychus iawn, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni edrych yn ddifrifol iawn arno yn fy marn i.
Credaf fod carcharu yn gosb briodol a difrifol i'r rhai sy'n ei haeddu. Mae angen iddo fod yn ateb pan fetho popeth arall i'r rhai sy'n cyflawni troseddau difrifol iawn, a dylai'r rhai sy'n cyflawni troseddau treisgar, troseddau difrifol yn erbyn eiddo, ddisgwyl dedfryd o garchar. Ond y gwir amdani yw bod gennym ddegau o filoedd o bobl yn y carchar nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hynny ar gyfer carcharu fel cosb, ac fel y nododd Jenny Rathbone yn huawdl, mae effeithiolrwydd yr hyn a wnawn i'r bobl hynny yn amheus tu hwnt.
Rwy'n arbennig o bryderus, wrth i'r ffigurau gynyddu, fod y ffocws wedi symud lawer mwy at gadw dan glo yn hytrach na hyfforddi ac adsefydlu, oherwydd fel arfer bydd troseddwyr treisgar yn dod allan ar ryw adeg, ac mae gwaith mawr yno i sicrhau nad ydynt yn parhau'n fygythiad i gymdeithas. Maent angen eu trin yn ddifrifol iawn a'u hadsefydlu.
Credaf y dylem edrych ar yr holl beth o safbwynt y gwahanol awdurdodaethau ar hyn o bryd, felly yr awdurdodaethau sydd â pholisïau'n ymwneud â charchardai—polisi cosbi—yw Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Er bod gan yr Alban batrwm tebyg o garcharu i'r hyn a geir yng Nghymru a Lloegr, er ei fod dipyn yn is, mae'r patrwm yng Ngogledd Iwerddon yn llawer is. Mae'n llawer tebycach i'r arferion gorau a geir yng ngwledydd gorllewin Ewrop. Yn fy marn i, pe baem yn mabwysiadu cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol, a'r rheswm rwyf wedi dadlau dros y blynyddoedd dros gael polisi cyfiawnder troseddol yw y byddai'n caniatáu inni wneud y peth pwysicaf, byddai'n caniatáu inni osod polisi dedfrydu a rheoli ein carchardai. Os edrychwch ar systemau ffederal o gwmpas y byd, mae'n gyffredin iawn i blismona ar lefel gymunedol a'r rhan fwyaf o faterion sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol a'r system garchardai fod ar lefel yr uned ffederal, a bod y Llywodraeth ganolog yn cadw'r cyfrifoldeb am droseddau a chamymddwyn difrifol iawn, tebyg i derfysgaeth a charchardai diogel. Mae'r rhaniad hwnnw i'w weld yn un rhesymegol iawn i mi.
Rwy'n bryderus iawn nad ydym bob amser yn sylweddoli pa mor wael yw'r sefyllfa yn y carchardai yng Nghymru y mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau addysg a gwasanaethau iechyd ar eu cyfer. Mae carchardai Abertawe a Chaerdydd yn orlawn iawn. Rwy'n credu bod y ddau garchar ymhlith y 10 carchar mwyaf gorlawn; golyga hynny dros 150 y cant o'r capasiti. Mae hyn yn destun pryder difrifol i ni.
Mae Jenny wedi cyfeirio at gymariaethau rhyngwladol, ac yn sicr mae'r ystadegyn mai gennym ni y mae'r lefel uchaf o garchariadau yng ngorllewin Ewrop yn fy ngwneud yn anghyfforddus. Pe bai'n gweithio, mae'n debyg y gallech gael sail i ddadl, 'Wel, wyddoch chi, mae rheswm da iawn pam rydym yn fwy llym,' ond rhaid i mi ddweud fod yna ddadl dde-ganol dros ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a garcharwn. Hoffwn fynd yn ôl, os nad i'r 1920au, pan oedd poblogaeth gyfartalog y carchardai yn amrywio rhwng 10,000 a 14,000, o leiaf i'r 1980au, oes Thatcher, pan oedd poblogaeth y carchardai yn hofran o gwmpas tua 45,000. Bu cynnydd mawr yn y 1990au o dan y ddwy Lywodraeth—mae'n ddrwg gennyf, cafodd y patrwm hwn ei barhau gan Lywodraeth Geidwadol a Llywodraeth Lafur wedyn. Rydym wedi mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir.
Ceir rhai categorïau o'r cwestiwn hwn y credaf eu bod yn galw am ystyriaeth arbennig hefyd: mae nifer y rhai sy'n gadael gofal sydd yn y carchar yn rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohono. Roedd adroddiad yr Arglwydd Laming y llynedd, neu'r flwyddyn cyn hynny, ar nifer y plant sy'n derbyn gofal sy'n cael eu dwyn i mewn i'r system cyfiawnder troseddol oherwydd patrymau nad ydynt wedi'u cymhwyso i'w grŵp cyfoedion, ond sy'n cael eu cymhwyso iddynt am eu bod, a dweud y gwir, yn cael eu gweld fel rhai sy'n dueddol o fod yn droseddwyr posibl, yn fy mhoeni'n fawr.
Ond nid wyf yn credu bod hwn yn fater sy'n dilyn rhaniadau pleidiol amlwg. Ceir dadleuon cadarn iawn ar y chwith ac ar y dde dros weld polisi carcharu gwell na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ar sail dyngarwch, ond hefyd o ran effeithiolrwydd yr hyn rydym yn ei wneud. Ar hyn o bryd, mae'r system yn methu, ac mae angen ei newid.
Gyda llawer o'r pwyntiau ar y cynnig hwn, cred Plaid Cymru yn y pen draw na fydd unrhyw obaith realistig o'u cyflwyno hyd nes y gwelir datganoli cyfiawnder troseddol priodol ac y gallwn ddatblygu awdurdodaeth droseddol neilltuol Gymreig. Buaswn yn dadlau bod hyn yn dod yn gynyddol hanfodol, yn rhannol oherwydd, wrth i ni basio mwy a mwy o ddeddfau neilltuol Gymreig—yn enwedig ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar adsefydlu troseddol, megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai—daw'n fwy angenrheidiol fel cam naturiol i'w gymryd. Mae gennym y pwerau hynny eisoes, fel a grybwyllwyd yn gynharach. Pam, felly, nad oes gennym ddeddfwriaeth i weinyddu cyfiawnder troseddol? Ond fy mhryder i yw nad yw'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru y tân yn ei bol i frwydro dros y mater hwn mewn gwirionedd, ac nid ydynt yn gwneud ymdrech ddigonol i hyrwyddo'r sector cyfreithiol yng Nghymru chwaith, er mwyn iddynt allu ymdopi ag unrhyw newidiadau wrth ddatganoli cyfiawnder troseddol.
Mae datganoli hefyd yn dod yn fwy anodd os derbyniwn sefydliadau carchar mwy a mwy o faint yng Nghymru, sy'n cael eu cynllunio ar gyfer gormodedd o garcharorion yn Lloegr. Os caiff y carchar arfaethedig ym Mhort Talbot ei adeiladu, bydd oddeutu 2,300 yn ormod o leoedd carchar yng Nghymru, o'i gymharu â chyfanswm nifer y carcharorion o Gymru ar draws y DU gyfan. Mae'n amlwg nad yw unrhyw garchar newydd yng Nghymru yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion Cymru, oherwydd mae gennym y capasiti hwnnw eisoes. Po fwyaf o garcharorion o Loegr sy'n cael eu dedfrydu i garchardai yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb, y mwyaf anodd fydd hi i wneud y pethau y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn eu cefnogi. Ddoe ddiwethaf, lleisiodd Carwyn Jones ei gefnogaeth i'r cysyniad o edrych ar bolisi cosbi ar wahân ar gyfer Cymru, ac eto mae'n codi ei ysgwyddau yn achos carchar newydd enfawr yn yr etholaeth sy'n ffinio â'i etholaeth ef. Mae angen safbwynt clir gan Lywodraeth Cymru, un nad yw'n gwrthddweud ei hun, i fod yn rhan o'r ddadl hon a gawn yma fel Senedd, ac yn fwy cyffredinol, fel gwlad.
O ran adsefydlu, rhaid inni ddechrau symud oddi wrth y syniad y gallwn gludo carcharorion ar draws y wlad a disgwyl adsefydlu effeithiol ar ddiwedd dedfryd. Geilw'r arolwg carchardai gan yr Arglwydd Michael Farmer y llynedd berthnasoedd teuluol yn 'edau aur' i helpu i leihau aildroseddu, ac mae ymchwil yn dangos bod carcharorion sy'n cael ymweliadau gan aelod o'r teulu 39 y cant yn llai tebygol o aildroseddu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae gennyf bryderon penodol ynghylch y cwestiwn hwn oherwydd nad oes unrhyw gyfleusterau yng Nghymru i garcharu troseddwyr benywaidd. Yn gyffredinol, rwy'n credu y dylai fod llawer llai o fenywod yn y carchar, ond beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad oes raid inni anfon menywod sy'n gorfod mynd i'r carchar mor bell oddi wrth eu teuluoedd—hyd yn oed i wlad arall?
A buaswn yn cytuno â chi ar hynny, a chredaf mai dyna beth roeddwn yn dod ato, fel y soniodd Jenny yn gynharach: ceisio rhoi polisïau ar waith, lle y gallwn, fel na chânt eu rhoi mewn carchardai, ac mae cael gwahanol fathau o ganolfannau ar eu cyfer a ddatblygir yma yng Nghymru yn rhywbeth y gwn eich bod chi ac eraill—ym Mhlaid Cymru yn arbennig—wedi bod yn dadlau drosto ers blynyddoedd lawer, ac yn arbennig mewn perthynas â pherthnasoedd teuluol. Mae'n aml yn wir, er nad ym mhob amgylchiad, mai'r fam yw prif ofalwr y plentyn, ac os cânt eu hanfon mor bell ag y bo modd o'r Rhondda, dyweder, i rywle yng nghanol Lloegr, wel, nid yw hynny'n mynd i hwyluso'r berthynas sydd ganddynt gyda'r plentyn. Ac felly credaf mai dyna pam y mae'n hanfodol inni edrych ar y problemau sy'n ymwneud â menywod a'r gefnogaeth a roddwn i fenywod.
Roeddwn eisiau ychwanegu ychydig at yr araith hon nad wyf wedi'i hysgrifennu heddiw, o ran fy mod wedi cael profiad personol yn ddiweddar o fod—. Torrodd rhywun i mewn i fflat fy ngŵr y llynedd, ac mae ar fin cael dyddiad llys. Mae gennyf farn wahanol iddo ef ynglŷn â sut y dylid ei gosbi. A'r hyn rwy'n credu sy'n bwysig—mae'r person hwn, rwy'n meddwl, yn droseddwr mynych—yw sut y gall unigolyn sylweddoli beth y mae'n ei wneud, a sut y caiff lleisiau dioddefwyr eu clywed. Credaf fod y gost ariannol i ni wedi bod yn enfawr, ond mae'r gost emosiynol yn enfawr. Pan ydych yn sylweddoli bod rhywun wedi dod i mewn i'ch cartref am 2 o'r gloch yn y bore i ddwyn eich eiddo ac i ddwyn eich car, mae'n rhywbeth na allwch ei ddirnad yn iawn oni bai eich bod wedi bod drwyddo. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig, o bosibl, yw bod mwy o gynlluniau i droseddwyr gyfarfod â dioddefwyr, fel sy'n digwydd, o bosibl, mewn amgylchiadau eraill, iddynt ddeall o ddifrif mewn gwirionedd, sut nad yw'r darn hwnnw o emwaith neu'r oriawr honno'n golygu unrhyw beth iddynt hwy o bosibl, ond gallai olygu rhywbeth sentimental i'r person y maent wedi dwyn oddi wrthynt. Felly, nid wyf yn argymell taflu'r allwedd ymaith, ond rwy'n argymell, fel y soniodd Jenny yn gynharach, edrych ar adsefydlu, ceisio gwneud i bobl ddeall bod beth y maent yn ei wneud yw mynd i drawsnewid bywydau a cheisio eu hannog i ddilyn gwell llwybr yn y dyfodol.
Rwy'n cloi drwy atgoffa'r Aelodau fod Cymru wedi'i bendithio â chyfle unigryw yma—â llechen wag, mewn sawl ffordd. Yn yr un modd ag y trafodwyd diwygio lles gennym a'r ffyrdd angenrheidiol y dylai fod gennym rywfaint o reolaeth dros ddiwygio lles, gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Nid yw'r ffaith fod Lloegr eisiau adeiladu carchardai mawr yn golygu bod yn rhaid i Gymru ddilyn yr un llwybr. Gallwn arwain ar yr agenda hon. Gallwn ddangos ein bod yn gallu gwneud pethau'n well ac mewn ffordd wahanol. Mae llawer o hyn yn ymwneud â 'n hamgylchedd cymdeithasol, tlodi. Os gallwn edrych ar fentrau gwrthdlodi, os gallwn gael pobl allan o'r sefyllfaoedd y maent ynddynt, o'r cychwyn cyntaf, efallai na fyddant wedyn yn ymroi i gyflawni'r mathau hyn o droseddau, ac felly ni fyddant yn effeithio ar bobl fel fi, neu rywun i lawr y ffordd a fydd heno'n profi'r un peth ag a brofais innau y llynedd, a wynebu'r pryder hwnnw. Gallwn fod yn gadarnhaol am yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn gallu adlewyrchu hynny yn ei ymateb.
Credaf fod Bethan yn hollol iawn: rydym yn wahanol, gallwn wneud pethau'n wahanol ac rydym yn arwain y ffordd mewn llawer o bethau—trais domestig, caethwasiaeth fodern, ailgylchu; rydym yn gwneud llawer o bethau. Rydym yn genedl ffyniannus gyda'r gallu i rymuso pobl a gwasanaethu ein pobl, ond rydym yn methu yn y maes hwn. Rydym yn gwneud cam â'r dinasyddion sy'n gorfod mynd drwy'r system honno a'u canlyniadau. Efallai mai'r broblem yw nad yw'r system dan ein rheolaeth ni. Dyma'r system sy'n bodoli ar hyn o bryd, mae'n system gosbi sydd wedi ei gorfodi arnom, ac mae'n system sy'n rhoi ein dinasyddion ni—a rhai o'r gwledydd cyfagos, a bod yn deg; mae'n effeithio ar garcharorion o Loegr yn ogystal—mewn perygl difrifol. Mae'n methu sicrhau gwelliant o ran lleihau aildroseddu, ac mae'n methu rheoli carcharorion yn ddiogel yn y system.
Nawr, crybwyllwyd tystiolaeth o amrywiol adroddiadau o'r blaen, gan gynnwys Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi, ac yn eu hadroddiad blynyddol diwethaf gan y Prif Arolygydd, Peter Clarke, nodwyd bod sawl sefydliad yn wael. Ni chânt eu hystyried yn addas at y diben. Maent yn gwneud cam â charcharorion, maent yn gwneud cam â theuluoedd carcharorion. Pwysleisia fod gormod o'n carchardai wedi dod yn lleoedd annerbyniol o dreisgar a pheryglus. Mae cyfran y carchardai yr ystyriwyd eu bod yn dda neu'n well, yn dilyn arolygiad, wedi gostwng o 76 y cant i 49 y cant mewn un flwyddyn yn unig. Nawr, adleisir y methiant hwn gan gynrychiolwyr Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchar a Chymdeithas y Swyddogion Carchar, sy'n gyson yn lleisio eu pryderon mawr ynghylch yr effaith a gafodd cyllidebau llai ar y gwasanaeth a'i allu i wella'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn erbyn y targedau a osodwyd.
Mae'r adroddiad diweddar ar garchar Abertawe yn dangos bod y gwasanaeth dan bwysau ac yn cael trafferth i ateb y galwadau arno i reoli'r system gosbi a sicrhau ei fod yn gallu helpu carcharorion i adsefydlu er mwyn dychwelyd i'w cymunedau, gan leihau cyfraddau aildroseddu yng Nghymru. Nawr, er y gellir defnyddio hyn fel dadl i—. Wel, yn y bôn, oherwydd mai Abertawe mewn gwirionedd, fel y dywedoch, yw'r carchar mwyaf gorlawn o ran canran yn y DU—. Oherwydd bod gennych fwy o leoedd, nid yw'n golygu bod y system yn gweithio. Felly, dylai fod yn canu larymau, mewn gwirionedd, i siarad am ganllawiau dedfrydu ac a ydynt yn addas ar gyfer yr oes fodern ac uchelgais y Llywodraeth i ostwng cyfraddau aildroseddu.
Mae'r anawsterau a wynebir gan garchardai ledled Cymru a Lloegr wedi'u cofnodi'n dda, gyda llawer o achosion o aflonyddwch mewn sefydliadau, gyda rhai yn galw am dimau arbenigol i adfer trefn; ymosodiadau difrifol—cynnydd o dros 200 y cant ers 2013, yn ôl ffigurau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei hun; anafiadau i staff carchar a chynnydd yng nghyfraddau hunan-niwed ymhlith carcharorion, gan gynnwys achosion o hunanladdiad. Mae'r rhain i gyd yn dangos angen i roi camau mwy radical ar waith i wella'r gwasanaeth presennol ac edrych ar nifer o agweddau, a allai fod y tu allan i gylch gwaith y gwahanol agweddau. Ar hyn o bryd, mae hyn y tu allan i'n cylch gwaith ni, mewn un ystyr, ond dylem gael hynny, ac efallai y down yn ôl at y pwynt hwnnw yn nes ymlaen.
Y cyn Ysgrifennydd Gwladol—. Fe soniasom am yr Ysgrifennydd Gwladol presennol—David Gauke rwy'n credu. Nododd y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, David Lidington, ei resymau fis Awst diwethaf pam fod angen camau i leihau poblogaeth y carchardai—ie, lleihau poblogaeth y carchardai—ond wedyn maent yn gwario £1.3 biliwn—nid £200 miliwn, ond £1.3 biliwn—ar gynyddu poblogaeth y carchardai. Felly, nid yw'n ymddangos yn gyson o gwbl. Mae angen inni ddiwygio'r system gosbi, diwygio'r canllawiau dedfrydu, ac ystyried ffyrdd amgen yn lle carcharu, a fyddai'n lleihau nifer yr unigolion sy'n cael dedfryd o garchar. Mae'n hen bryd gwneud hynny, ac efallai y dylai'r newidiadau hyn gael eu rhoi i ni yng Nghymru bellach oherwydd gallwn weithredu arnynt, ac oherwydd nad ydym yn mynd i adael iddo barhau.
Ddoe, gofynnais gwestiwn i'r Prif Weinidog yn seiliedig ar gasgliadau ymchwil i faint carchardai fod carchardai llai o faint yn arwain at well canlyniadau na rhai mwy o faint i garcharorion a'r cymunedau. Yn aml caiff carchardai bach eu rhedeg yn fwy effeithiol. Mae ganddynt lefelau is o drais, gwell perthynas rhwng staff a charcharorion, mwy o ffocws ar ailsefydlu, gwell cyfleusterau ar gyfer cyswllt rhwng carcharorion a'u teuluoedd, ac fel y soniodd rhywun eisoes, amlygodd adroddiad yr Arglwydd Farmer yr agweddau hyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A ydych yn cydnabod hefyd fod gwell canlyniadau mewn carchardai cyhoeddus o'u cymharu â charchardai preifat?
Credaf ei fod yn ymwneud â'r ffordd y caiff carchardai eu gweithredu yn y carchardai preifat. Nid wyf yn cefnogi gwasanaeth carchardai preifat. Credaf mai'r broblem sydd ganddynt yw'r cyllid i sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu cyflawni. Os ceir cyfyngiadau cyllidebol ac mae gennym y mesurau cyni yn awr—[Torri ar draws.] Wel, maent yn cael cyflogau ac maent yn darparu elw i'r perchnogion preifat, onid ydynt?
Ond yn y pen draw, rydym eisiau gallu gweld amryw o bethau, a gorau po leiaf o bobl sydd yn y carchar—bydd mecanweithiau amgen yn ateb gwell. Rydym yn gwybod—gŵyr pawb yn y Siambr hon fod gennyf wrthwynebiad cryf i garchardai mawr, yn enwedig un yn fy nhref. Rwy'n credu—yn wir, mae'r dystiolaeth yn cefnogi—nad yw carchardai mawr yn gweithio. Mae Berwyn yn enghraifft. Ewch i Berwyn. Dywedais ddoe: 15 o danau, ni ellir defnyddio 46 o gelloedd oherwydd y difrod. Tair galwad i'r grŵp ymateb tactegol cenedlaethol. A hynny mewn chwe mis, ac nid yw'n hanner llawn hyd yn oed. Nid yw'n gweithio.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen oherwydd gallaf weld bod fy amser yn dirwyn i ben. Gwelsom ystadegau fod 47 y cant o garcharorion yn aildroseddu o fewn un flwyddyn. Rydym yn paratoi pobl i fethu yn y system bresennol. Mae'r cyfraddau aildroseddu yn Nenmarc yn amrywio oddeutu 27 y cant—20 y cant yn is na ni. Pam? Oherwydd bod carcharorion yn cael eu trin ag urddas ac fel pe bai ganddynt allu i newid, ond mae ein carcharorion ni'n cael eu cadw dan glo. Nid oes ganddynt hwy system garchardai sy'n ddiraddiol ac yn foesol warthus.
Rydym yn gorddefnyddio'r carchar am droseddau dibwys a pharhaus. Gennym ni y mae'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop—mae wedi'i grybwyll. Caiff pobl eu carcharu lle na ddylid gwneud hynny a'u gosod mewn system ar gyfradd a fydd yn goddiweddyd y capasiti. Mae angen inni ddysgu gwersi. Mewn gwirionedd gall ein cymdogion Ewropeaidd ddangos y ffordd i ni, ac nid drwy gynyddu capasiti carchardai y gwneir hynny, ond drwy roi systemau amgen ar waith.
Cyn dechrau, Ddirprwy Lywydd, credaf y dylwn ddatgan buddiant am fy mod wedi bod yn ynad, yn ynad heddwch, am 15 mlynedd, ac rwy'n dal i fod, yn dechnegol, yn ynad heddwch. Rwy'n dymuno cyfrannu at y ddadl hon er mwyn amddiffyn rhai agweddau ar system farnwrol Prydain a'r rhai sy'n ei gweinyddu, ac i dawelu meddwl y cyhoedd yn gyffredinol a allai glywed y ddadl hon, yn yr holl amser y bûm yn gweithredu fel ynad, gan gynnwys nifer o flynyddoedd fel cadeirydd y fainc, na welais unrhyw un yn cael ei garcharu oni bai bod yr holl ymyriadau amgen wedi'u harchwilio'n llawn ac yn ddigamsyniol. Yn wir, drwy gydol fy mlynyddoedd fel ynad, câi ei bwysleisio i bawb a oedd yn rhan o'r system farnwrol—. Ie, mae'n ddrwg gennyf, Jenny, wrth gwrs.
Tybed felly a allwch egluro pam ein bod yn dal i garcharu menywod am beidio â thalu trwydded deledu. Nid wyf yn awgrymu na ddylent dalu eu trwydded teledu, ond rhaid cael ffyrdd amgen o wneud iddynt gydymffurfio.
Wel, yn wir. Drwy gydol fy mlynyddoedd fel ynad câi ei bwysleisio i bawb a oedd yn rhan o'r system farnwrol—ynadon, barnwyr ac wrth gwrs, y gwasanaeth prawf—mai carcharu oedd y ffurf derfynol ac eithaf ar gosb. Mae'n wir y câi camgymeriadau eu gwneud ar achlysuron prin, ond mae hynny'n wir am unrhyw sefydliad, yn enwedig un fel y farnwriaeth, sy'n ymdrin â phroblemau bron yn anorchfygol yn gysylltiedig â chynnydd mawr mewn troseddau difrifol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Clywsom yn gynharach sut y cynyddodd poblogaeth y carchardai o dan Michael Howard pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref o 45,000 i 80,000 mewn pump i chwe blynedd. Sut y gallai hynny fod wedi digwydd os yw'r hyn rydych yn ei ddweud yn gywir?
Esgusodwch fi, rwy'n egluro hynny. Rwy'n dweud ei fod yn ymdrin â phroblemau bron yn anorchfygol yn gysylltiedig â chynnydd mawr mewn troseddau difrifol. Mae'r gyfradd droseddu gynyddol hon yn cynnwys trais yn erbyn yr unigolyn, troseddau rhywiol a masnachu cyffuriau eang, fel y cydnabu'r adroddiad hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2013. Gallwn ychwanegu at hyn y mathau newydd o droseddu cynyddol sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, megis camfanteisio ar blant a thwyll. Eto i gyd, ymddengys bod eitem 1(a) yn y ddadl hon yn awgrymu mai polisïau cyfiawnder troseddol sydd wedi achosi'r cynnydd hwn ym mhoblogaeth y carchardai ac nad oes ganddo ddim oll i'w wneud â'r cynnydd mewn troseddu ynddo'i hun. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad, ac rwy'n ildio i'w brofiad fel ynad. Ond y cwestiwn yw'r canllawiau dedfrydu a'r mecanweithiau amgen y gallem edrych arnynt, lle y gallwn weithio gydag unigolion a geir yn euog o drosedd. A ydych yn cytuno, felly, fod angen inni adnewyddu'r canllawiau dedfrydu hynny, oherwydd bod yna bobl yn cael eu carcharu na ddylent gael eu carcharu? Mae yna ffyrdd gwahanol o gosbi'r unigolyn heb eu carcharu.
Wel, mae'n ddrwg gennyf, David, rwy'n gyfarwydd iawn â'r canllawiau dedfrydu a gallaf eich sicrhau nad ydynt yno i anfon pobl i garchar.
Hoffwn ddweud yma fod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â'r safbwyntiau a fynegir yn eitemau 1(b) a 2(b). Credaf y dylid ehangu cyfleusterau iechyd meddwl diogel yn sylweddol fel dewis amgen yn lle carchardai arferol a bod rhai o'n carchardai, er nad pob un o bell ffordd, heb y cyfleusterau sydd eu hangen i adsefydlu carcharorion. Fe nodaf yma, David, ac rwy'n datgan nad oes gennyf ragfarn y naill ffordd neu'r llall, fod llawer yn y Siambr hon wedi gwrthwynebu carchar ym Margam a fyddai'n gallu cynnig llawer o'r cyfleusterau i garcharorion o Gymru.
Hoffwn droi yn awr at eitem 1(d) ac eitem 2(a) a restrir yn y ddadl hon. Mae'r eitem gyntaf unwaith eto yn awgrymu bod menywod yn yr achos hwn yn cael eu hanfon i'r carchar am fân droseddau. Yn amlwg nid yw hyn yn wir, oni bai bod yna fân droseddau lluosog. Ac unwaith eto, pwysleisiaf y byddai'r holl ymyriadau eraill wedi cael eu hystyried mewn ffordd gynhwysfawr. Ni chaiff yr opsiwn o garchar ei ystyried hyd yn oed oni bai bod y person a geir yn euog o drosedd yn gwrthod derbyn neu ymwneud â'r dewisiadau amgen.
Mae eitem 2(a) yn awgrymu naill ai nad oes dulliau amgen o gosbi ar gael neu nad ydynt yn cael eu defnyddio. Unwaith eto, camsyniad llwyr yw hyn. Caiff dirwyon, profiannaeth, gorchmynion cymunedol gan gynnwys gwaith yn y gymuned, cyrffyw a thagio electronig eu hystyried a'u defnyddio'n helaeth cyn y rhoddir dedfryd o garchar i unrhyw un. Un canlyniad i'r ddau gymal sy'n peri pryder mawr yw'r awgrym y dylid trin troseddwr sy'n fam yn wahanol i unrhyw berson arall sy'n cyflawni troseddau tebyg, boed yn fân droseddau neu fel arall. Pa arwydd y mae hynny'n ei anfon i'r cannoedd o filoedd o famau yn ein cymdeithas nad ydynt yn cyflawni troseddau, er y gallai eu hamgylchiadau eu gwneud yn agored i droi at y dewis arall hwn?
Rwyf am ychwanegu nad yw methiant i dalu dirwyon yn fân drosedd: mae'n golygu mai'r aelodau da, gonest, gweithgar, a thlotach yn aml, o gymdeithas—[Torri ar draws.] na, David, rhaid i mi orffen yn awr, mae'n ddrwg gennyf—sy'n cael eu gadael i dalu'r bil.
Yn olaf, er y credaf fod y cynigion yn y ddadl hon yn llawn bwriadau da a bod y rhai sy'n cynnig ei gynnwys yn meddwl yn dda wrth ei gyflwyno, rwy'n dadlau ei fod yn gyfeiliornus, yn naïf ac nid yw'n adlewyrchiad cywir o system farnwrol Prydain. Hoffwn ddweud hefyd y byddaf yn cytuno â'r holl sylwadau a wnaed yn y Siambr hon gan y rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon i ddweud, ar ôl dedfrydu, fod gennym sefyllfa erchyll yn ein holl garchardai a dylai ymyriadau ar ôl dedfrydu fod yn flaenoriaeth lwyr i ni.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, a gychwynnwyd gan fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone. Hoffwn ailadrodd ei sylwadau a'r sylwadau a wnaed gan y rhan fwyaf o'r bobl a siaradodd yma heddiw ein bod yn carcharu llawer gormod o bobl ac y dylem fod yn cael newid radical yn ein hagwedd tuag at garcharu pobl. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ein bod wedi clywed yn llawer rhy aml gan Weinidogion cyfiawnder gwahanol o San Steffan yn dweud, 'Iawn, rydym yn mynd i roi'r gorau i garcharu pobl, rydym yn mynd i weithio yn y gymuned', ond nid yw byth yn digwydd. Rwy'n sicr yn cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol i roi cyfle i ni geisio cael system fwy effeithiol, oherwydd mae'n amlwg, beth bynnag y mae David Rowlands yn ei ddweud, nad yw'r system y mae ef yn ei disgrifio yn gweithio. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw llunio polisi'n seiliedig ar dystiolaeth.
Felly, rwyf am ailadrodd llawer o'r pwyntiau a wnaed yma gan fy nghyd-Aelodau heddiw. Ond yn benodol, bythefnos yn ôl—credaf mai tua phythefnos yn ôl oedd hi—soniodd David Ramsbotham, y cyn-brif arolygydd carchardai, am y mater hwn ar Sunday Supplement. Rwy'n credu bod David Rees ar yr un rhaglen. Yn anffodus, cafodd ei sylwadau eu camddehongli gan y cyfryngau, a dywedwyd eu bod yn dweud mai galwad oedd hi am garchar i fenywod yma yng Nghymru, sef y gwrthwyneb llwyr i'r hyn a ddywedodd. Yn sicr, y peth olaf a ddymunwn yw carchar i fenywod yma yng Nghymru, oherwydd yn ddiamau, nid yw nifer y menywod sy'n creu'r fath berygl i'r cyhoedd fel bod angen iddynt fod dan glo, gyda'r holl drawma i'w teuluoedd o ganlyniad i hynny, yn ddigon i gyfiawnhau carchar i fenywod yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'r nifer sy'n berygl i gymdeithas yn un neu ddwy yn ôl pob tebyg.
Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn symud oddi wrth y camsyniad hwn y byddai cael carchar i fenywod yma yng Nghymru yn beth da i fenywod, oherwydd yn fy marn i, byddai'n atal y broses o ddiwygio'r system gosbi yn helaeth pe bai gennym garchar i fenywod yma yng Nghymru, a byddai'n rhaid ei lenwi â menywod o Loegr mewn ffordd a fyddai'n sicr yn golygu na fyddai unrhyw obaith iddynt hwy gael cysylltiad agos â'u teuluoedd. Yr hyn y galwodd David Ramsbotham amdano mewn gwirionedd oedd canolfannau i fenywod, sydd wedi'u crybwyll yma gan nifer o gyfranwyr heddiw. Ni chawsom ganolfan i fenywod o'r math arbennig hwn yng Nghymru erioed, ond gwelwyd nifer ohonynt yn Lloegr. Maent wedi cael eu gwerthuso, ymddengys eu bod yn gweithio, a byddai datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth yn golygu y byddem yn datblygu'r canolfannau menywod hyn yng Nghymru. Hoffwn weld cyfle i hynny ddigwydd.
Mae'n werth ailddatgan, mewn gwirionedd, mai 5 y cant yn unig o holl boblogaeth y carchardai sy'n fenywod, ac nid yw'r mwyafrif helaeth ond yn bwrw dedfryd fer iawn. Mae mater carcharorion benywaidd yn bolisi sydd o fewn gafael. Nid yw'r niferoedd mor fawr fel eich bod yn cael trafferth i newid. Mae'n bosibl newid y polisi ar gyfer carcharorion benywaidd, ac mae llawer o'r materion sy'n berthnasol i garcharorion benywaidd hefyd yn berthnasol i garcharorion gwrywaidd. Pe gallem sicrhau newid gyda charchardai i fenywod, rwy'n credu y byddai hynny'n ein harwain i wneud yr un peth gyda charchardai i ddynion, oherwydd hoffwn ailadrodd y ffaith am broblemau iechyd meddwl, oherwydd rwy'n credu ei fod mor bwysig. Gwyddom fod gan y mwyafrif helaeth o garcharorion broblemau iechyd meddwl sy'n rhaid rhoi sylw iddynt.
Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni ddychwelyd at yr effaith ar blant. Dywedodd Jenny Rathbone wrthym am y miloedd o blant—gwn fod Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai wedi cyflwyno ffigur o filoedd o blant yr effeithir arnynt gan ddedfrydau o garchar—ac mae 95 y cant ohonynt yn gorfod gadael eu cartrefi os yw carchariad eu mam yn eu gadael heb oedolyn i ofalu amdanynt. Felly, ceir amharu enfawr ar fywyd y teulu. Nid wyf yn credu y gallwn ailadrodd hynny ddigon.
Yn fy marn i, mae'r dystiolaeth ynghylch canolfannau menywod yn glir ac yn rymus. Maent yn bwysig ar gyfer cynnal cysylltiadau teuluol, gwyddom fod y gyfradd aildroseddu'n is, ac yn wir, maent yn costio llai na'r opsiwn drud iawn o adeiladu carchardai. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli i Gymru. Argymhellwyd hynny yn adroddiad Silk, ac nid ydym wedi gweld llawer o arwydd o hynny'n digwydd ers hynny, ond mae'n rhywbeth y gallem fynd i'r afael ag ef ac yn rhywbeth lle y gallem sicrhau newid go iawn.
Soniodd Jenny am y prosiect Ymweld â Mam, a hoffwn orffen yn fyr drwy ddweud fy mod wedi cymryd rhan yn un o'r ymweliadau i Eastwood Park. Euthum gyda gwirfoddolwyr Ymweld â Mam sy'n mynd â'r plant i Eastwood Park, ac ni allaf ddweud wrthych pa mor dorcalonnus oedd gweld y plant hynny'n cael eu haduno gyda'u mamau mewn ystafell nad oedd fel carchar, lle roedd ganddynt deganau, lle roedd ganddynt fwyd, lle y gwnaed pob ymdrech gan y prosiect i sicrhau bod yna ddwy awr pan allent gael perthynas normal gyda'u mam. Ond wrth weld hynny, roeddwn yn meddwl na all dim gyfiawnhau hyn mewn gwirionedd. Pan welech y rhesymau pam roedd y menywod hynny yn y carchar, ni ellir cyfiawnhau eu bod yno o gwbl.
Cytunaf â nifer o'r siaradwyr heddiw mai hanes o bolisïau anflaengar ac anghynhyrchiol sydd i gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Byddem yn gwneud lawer yn well, rwy'n siŵr, pe bai cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol yma yng Nghymru wedi'i ddatganoli. Fel y mae llawer wedi dweud, gennym ni yng Nghymru a Lloegr y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop—dyna ystadegau trosedd blynyddol Cyngor Ewrop. Mae'r ganran o'r boblogaeth—fesul 100,000 o'r boblogaeth—a garcharir yng Nghymru a Lloegr yn 148.3 o'i gymharu â 77.4 yn yr Almaen, 86.4 yn yr Eidal a 98.3 yn Ffrainc. Felly, os nad yw hynny'n fater o bolisïau cyfiawnder troseddol gwahanol yn y gwledydd hynny, yna buaswn yn dweud wrth David Rowlands: beth sydd? A ydych yn dweud bod pobl—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. Tybed a ydych yn dweud bod pobl yng Nghymru a Lloegr yn meddwl yn llawer mwy troseddol, a throseddol eu hymddygiad a'u natur na phoblogaeth y gwledydd eraill hyn?
Diolch i chi am gytuno i ymyriad, John. Mewn gwirionedd, yr hyn rwy'n ei ddweud yw ei fod yn ymwneud â'r holl garcharorion sy'n dychwelyd—. Ac rwy'n llwyr gytuno â phawb o'r rheini yn y Siambr hon. Soniodd Jenny Rathbone am yr Iseldiroedd a'r ffordd y maent yn trin eu carcharorion. Y ffordd rydym yn trin ein carcharorion sy'n golygu eu bod yn dychwelyd i'r carchar pan na ddylent fod yn gwneud hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â phawb yma fod yn rhaid inni wneud rhywbeth sylfaenol a radical am y ffordd rydym yn trin ein carcharorion pan gânt eu hanfon i'r carchar. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
Os yw'r carchardai'n orlawn iawn, fel y maent, a bod llawer o bobl yno na ddylent fod yno yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei fod yn gwneud adsefydlu yn llawer mwy anodd. Ceir llawer gwell ffyrdd o ymdrin â'r bobl anffodus hyn mewn llawer o ffyrdd, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau—mae'n bosibl iawn eu bod yn anllythrennog neu'n anrhifog neu'n meddu ar sgiliau gwael iawn. Ceir llawer o ffyrdd gwell o ymdrin â hwy y tu allan i'r carchar na'u rhoi dan glo a'u carcharu. Ac wrth gwrs, mae'r effaith ar deuluoedd a charcharorion eu hunain o fynd i'r carchar yn amlwg yn ddifrifol, ond mae'r effaith ar gymunedau yn negyddol iawn oherwydd mae cyfraddau aildroseddu mewn gwirionedd yn llawer uwch oherwydd anawsterau gydag adsefydlu am na ddylai pobl fod yno yn y lle cyntaf. Mae'n creu mwy o ddioddefwyr troseddau nag a fyddai'n digwydd pe bai gennym ddedfrydu amgen yn y gymuned.
Mae llawer o adroddiadau, nifer o adroddiadau, wedi cyflwyno'r dadleuon hyn. Mae'r dystiolaeth yn pentyrru. Wyddoch chi, mae'r pellter rhwng carchardai a chymunedau cartref yn negyddol o ran aildroseddu ac adsefydlu. Mae'r ffaith bod menywod Cymru yn mynd i'r carchar yn Lloegr wedi cael effaith negyddol ar eu teuluoedd a'u plant. Mae arnom angen atebion cymunedol a chynlluniau dargyfeirio os ydym yn mynd i atal troseddau yn y dyfodol. Mae arnom angen unedau cymunedol llai. Rhaid inni ddiwallu'r anghenion cymhleth sydd gan garcharorion: llythrennedd, rhifedd, sgiliau, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd ac ni ddylai pobl sydd â phroblemau o'r fath fod yn y carchar yn y lle cyntaf oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
O ran bywyd ar ôl carchar, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwybod nad yw'r ddarpariaeth yr hyn y dylai fod o ran gofal iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn wir, ac mae hynny wedyn yn bwydo aildroseddu pellach. Os ystyriwn ddigartrefedd, er enghraifft, mae cael gwared ar angen blaenoriaethol awtomatig o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a basiwyd gennym yma wedi gwneud digartrefedd a chysgu ar y stryd yn fwy o broblem i bobl sy'n gadael carchar. Mae gennym lwybr ar waith, ond yn anffodus nid yw'n cael ei weithredu ac nid yw'n gweithio cystal ag sydd angen. Felly, mewn gwirionedd rydym wedi symud tuag yn ôl ac mae angen inni symud ymlaen o ran digartrefedd a chysgu ar y stryd mewn perthynas â phobl sy'n gadael carchar.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod yna gonsensws cryf yn y Siambr hon y gallem wneud yn well o lawer yng Nghymru a Lloegr o ran ein polisi cyfiawnder troseddol. Pe bai'r system cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, byddem yn gwneud yn well o lawer. Rydym wedi clywed llawer o dystiolaeth yma heddiw. Mae llawer o adroddiadau yn pwyntio i'r cyfeiriad yr hoffai'r Aelodau yma symud iddo os ydym yn mynd i leihau aildroseddu, lleihau'r nifer sy'n ddioddefwyr troseddau a bod llai o bobl yn cael eu carcharu gydag effeithiau ofnadwy arnynt hwy ac ar eu teuluoedd. Felly, rwy'n hyderus y bydd gennym system lawer mwy blaengar yma yng Nghymru, system lawer mwy cynhyrchiol, pe baem yn cael datganoli o'r fath, ac rwy'n credu'n gryf iawn fod angen inni symud tuag at hynny.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus? Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i raddau helaeth lle y gorffennodd John Griffiths ei gyfraniad ef, drwy gytuno'n gryf iawn â'r pwyntiau a wnaeth John yn ei gyfraniad, ond hefyd, rwy'n meddwl, gyda'r consensws cryf iawn ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma. Hoffwn ddweud, Ddirprwy Lywydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n mynd rywfaint o'r ffordd tuag at ateb cais Bethan Sayed am bolisi clir yn y maes hwn, a hoffwn ddweud wrth yr Aelodau fy mod yn cydnabod bod galw clir iawn am bolisi pellach ar hyn a byddaf yn ceisio gwneud datganiad i'r Siambr ar y materion hyn maes o law.
Hoffwn ddweud hyn hefyd: rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan lawer o'r Aelodau—credaf fod Julie Morgan wedi gwneud y pwyntiau'n glir iawn—fod y setliad presennol yn setliad toredig; nid yw'n cynhyrchu polisi cyfannol; mae'n dangos setliad cyfansoddiadol nad yw'n gweithio. Mae'n bwysig cydnabod nad yw hyn yn gweithio i unrhyw un. Nid yw'n caniatáu i'r Swyddfa Gartref na'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyflawni eu polisau'n hawdd yng Nghymru, ac nid yw'n caniatáu inni ddatblygu polisi chwaith. Felly, nid setliad nad yw'n gweithio i ni ac i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu'n unig yw hwn; nid yw'n gweithio i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Ac am y rheswm hwnnw rwy'n gobeithio y bydd y setliad yn cael ei ailystyried. Nid wyf eisiau achub y blaen ar faterion y comisiwn cyfiawnder a fydd yn edrych ar lawer o'r materion hyn, ond hoffwn ddweud, fel y Gweinidog sy'n weithredol yn y maes hwn, nad oes gennym fframwaith polisi, y pwerau na'r gallu i ddarparu polisi cyfannol, ac yn anffodus nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddu ar y rheini chwaith, felly ceir methiant gwirioneddol yn y maes hwn.
Amlinellodd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn dda iawn sut y mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr er mwyn hyrwyddo adsefydlu eu hunain wedi'u datganoli, ond nad oes gennym y pwerau sydd eu hangen. Roeddwn yn meddwl bod pwynt David Melding am Ogledd Iwerddon a'r Alban yn bwynt diddorol tu hwnt ac mae'n sicr yn un yr hoffwn fynd ar ei drywydd yn y dyfodol.
Hoffwn ddweud hefyd fod y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone yn ei haraith agoriadol, ac a ailadroddwyd hefyd gan David Rees, am gyflwr carchardai yng Nghymru, yn rhai da iawn. Ymwelais â Charchar ei Mawrhydi Abertawe ym mis Chwefror, a gwelais drosof fy hun yr amgylchiadau lle y cedwir gormod o ddynion Cymru. Hefyd rwyf wedi trafod ac wedi tynnu sylw at y pryderon yn adroddiad yr arolygiad gyda phrif arolygydd carchardai ei Mawrhydi pan gawsom gyfarfod y mis diwethaf, a rhaid imi ddweud ei fod yn gadarnhaol iawn yn ei ymateb i'r pwyntiau a wnawn a chydnabu'r anawsterau real iawn sy'n wynebu carcharorion mewn rhai rhannau o'r ystâd yng Nghymru. Nid yw'n iawn o gwbl fod gennym ddynion o Gymru yn cael eu cadw mewn amgylchiadau nad ydynt yn addas at y diben. Ni ddylai partneriaid a phlant carcharorion orfod ymweld â hwy mewn sefydliadau na all barchu urddas carcharorion a'u teuluoedd yn iawn.
Rwy'n bryderus nad oes gennym allu i gydgysylltu polisi yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth ei Mawrhydi yng Nghymru, ac rwy'n bryderus nad oes gennym allu i ddarparu ymatebion polisi cydlynol ar gyfer pobl. Fodd bynnag, rydym wedi ceisio datblygu fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru gyda'r gwasanaeth profiannaeth. Diben y fframwaith yw gwella gwasanaethau ar gyfer rhai sydd mewn perygl o fynd i mewn neu sydd eisoes yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd y fframwaith hefyd yn hyrwyddo cydweithredu parhaus er mwyn lleihau nifer y troseddwyr sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, cynorthwyo troseddwyr i beidio ag aildroseddu a chadw cymunedau'n ddiogel.
Cyfeiriodd nifer o'r Aelodau at adroddiad Corston ac at droseddu ymhlith menywod. Mae adroddiad Corston, a gyhoeddwyd dros ddegawd yn ôl, yn dadlau bod canlyniadau cyfartal i droseddwyr benywaidd yn golygu bod angen dull gwahanol i'r hyn sy'n bodoli ar gyfer eu cymheiriaid gwrywaidd. Cytunaf yn fawr iawn â'r pwyntiau a wnaed, gan Jenny Rathbone a Julie Morgan yn arbennig, o ran sicrhau nad ydym yn mynd ar hyd y ffordd o ddweud yn syml, 'Rydym eisiau carchar i fenywod yng Nghymru', ond mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw math gwahanol o gyfleuster sy'n cyflawni rôl wahanol mewn ffordd wahanol, ac mae hwnnw'n bolisi gwahanol iawn, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed. Ac rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed ynghylch carcharu menywod, gyda llawer o fenywod yn cael dedfrydau diannod am droseddau na fyddent, mewn llawer o achosion, yn arwain at garchar yn achos dynion yn rhai da iawn. Gall dedfrydau byrdymor o'r fath arwain at effeithiau hirdymor, ac arwain mewn llawer o achosion at fenyw'n colli ei thenantiaeth a gallai hynny arwain at osod plant mewn gofal preswyl. Mae hyn yn arwain at gymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau datganoledig, gan beri risg o ddod yn agored i brofiadau niweidiol pellach yn ystod plentyndod i blant troseddwyr.
Rwy'n deall y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi newidiadau i'r ffordd y rheolir troseddwyr benywaidd gan gynnwys, o bosibl, sefydliadau diogel gwahanol ar gyfer menywod. Nodwyd yn flaenorol fod angen newidiadau yn y gwasanaeth prawf ehangach. Rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau yng Nghymru ein bod yn gallu mabwysiadu'r dull o weithredu a amlinellwyd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn perthynas â throseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid, ac rydym wedi cytuno y dylai ein swyddogion weithio gyda'i gilydd i archwilio gwaith o'r fath er mwyn datblygu cynigion ar sut y byddai system gyfiawnder wahanol yn gweithredu yng Nghymru. Credaf fod angen inni ddechrau ateb y cwestiwn a gyflwynwyd i ni gan David Rees ynglŷn â sut beth fyddai polisi cosbi Cymreig yn ei hanfod. Gwnaeth bwynt da iawn i'r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn teimlo bod y Prif Weinidog wedi nodi yn ei ymateb ddoe ei fod eisiau edrych ar sut y byddem yn dechrau datblygu polisi cosbi ar gyfer Cymru.
I mi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn weld system yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal, gan ystyried sut y gallwn annog pobl i droi cefn ar droseddu yn y lle cyntaf, ond lle bydd yn rhaid inni weithio gyda throseddwyr, ein bod yn gwneud hynny mewn modd cyfannol sy'n canolbwyntio ar adsefydlu. Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth David Rees ar sefydliadau llai, ac yn sicr, rwy'n credu, os ydym yn mynd i edrych ar bolisi cosbi ar gyfer Cymru, y dylid canolbwyntio ar adsefydlu, ar sgiliau, ar hyfforddiant, ar alluogi pobl i chwarae rhan lawn yn ein cymunedau ac yn ein cymdeithas. Rydym yn deall yr angen, fel y dywedodd David Melding yn glir iawn, am elfen gosbol i garcharu; rydym yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, y diben felly yw peidio â mynd ar drywydd hynny, ond rhoi cyfle i bobl, wedyn, i chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas, a dyna pam rwy'n cynnig ein bod yn galluogi carcharorion sy'n bwrw dedfrydau byrdymor i bleidleisio yn ein hetholiadau. Byddant yn gallu parhau i chwarae rhan yn llunio'r polisi hwnnw—y cymunedau hynny.
Rydym wedi gwneud ein safbwynt fel Llywodraeth ar y mater hwn yn glir yn ein Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru drafft, ac nid yw ein safbwynt wedi newid. Roedd y Bil hwn yn darparu ar gyfer creu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol i Gymru ar unwaith, gyda Chymru a Lloegr yn rhannu gwasanaethau'r farnwriaeth a'r llysoedd a datganoli cyfraith sifil a chyfraith droseddol, a gweinyddu cyfiawnder o 2026 ymlaen. Methodd Bil Llywodraeth y DU, a ddaeth yn Ddeddf Cymru, ymateb i'n Bil ni ac ni aeth i'r afael â materion hanfodol awdurdodaeth a chyfiawnder, y credaf fod pawb ohonom o'r farn eu bod yn galw am sylw ar frys. Sefydlodd y Prif Weinidog gomisiwn cyfiawnder, a gadeirir gan yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, i gynnal adolygiad sylfaenol o'r system gyfiawnder yng Nghymru a sut i'w chryfhau yn y tymor hir.
Buaswn yn gwrthwynebu carcharu unrhyw un yn ddiangen. Yn yr un modd, fodd bynnag, mae angen inni warchod ein cymunedau rhag niwed, ac yn amlwg, mae gan garchardai rôl glir i'w chwarae yn hynny. Ni allaf achub y blaen ar gasgliadau'r pwyllgor cyfiawnder, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu polisi cyfiawnder.
A gaf fi ddweud, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, fod polisi cyfiawnder, i mi, yn rhan o'n hymagwedd gyffredinol at gymunedau mwy diogel a chydlynol? Mae polisi cyfiawnder sy'n gyfannol, sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd ac sy'n gwneud mwy na charcharu pobl yn unig—mae'n bolisi cyfiawnder sy'n seiliedig ar beth o'n gwaith ar gymunedau mwy diogel, ac mae angen inni gael trafodaeth onest ac agored gydag adrannau'r DU ynglŷn â beth y byddai dull gwahanol yng Nghymru yn ei olygu. Rydym wedi dechrau'r sgyrsiau hynny gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac edrychaf ymlaen at gwblhau'r sgyrsiau a datblygu polisi cosbi Cymreig sy'n gosod dyfodol a chydlyniant ein cymunedau wrth ei wraidd.
Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
A gaf fi gymeradwyo pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl Aelodau hon ar gyfiawnder troseddol? Cafwyd rhai cyfraniadau grymus iawn, ac yn amlwg, ymdriniwyd ag amrywiaeth eang o faterion, felly mae hi braidd yn anodd ceisio crynhoi popeth yn yr amser sydd gennyf ar ôl. Ond a gaf fi gymeradwyo Jenny Rathbone am agor yn rymus iawn, a gosod y cefndir yn dda iawn, a hefyd David Melding yn yr un modd? Pwysleisiodd Bethan Sayed y 2,300 o lefydd dros ben a fyddai gennym yn sgil adeiladu'r carchar mawr ym Maglan a hefyd ei phrofiad ei hun o'r gofynion ar gyfer cyfiawnder adferol fel ffordd, hefyd, o wneud i droseddwyr wynebu'r effeithiau a gânt ar bobl.
A gaf fi hefyd ganmol David Rees am ei gyfraniad, yn ogystal â David Rowlands mewn ffordd wahanol, ond gan gytuno, rwy'n credu, yn y diwedd ynghylch y ffaith bod angen inni fynd i'r afael ag aildroseddu? Julie Morgan—cyfraniad pwerus iawn ar ganolfannau menywod; roedd hwnnw'n bwynt dilys iawn hefyd. Nododd Jenny y pwynt hwnnw a John Griffiths yn ogystal. Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet, nid yn unig am gefnogi'r cynnig, ond hefyd am bwysleisio'r angen am bolisïau cyfannol? Ac a gaf fi ddymuno'n dda iddo ar y gwaith o ddatblygu polisi cosbi Cymreig? Edrychwn ymlaen at weld hwnnw'n dwyn ffrwyth.
Ers talwm, dros 35 mlynedd yn ôl erbyn hyn, roeddwn yn feddyg seiciatrig ym Mhen-y-bont ar Ogwr—uwch swyddog tŷ seiciatrig am chwe mis—ac roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr dri ysbyty seiciatrig ar y pryd: Glanrhyd, lle roeddwn i wedi fy lleoli, ysbyty Pen-y-fai ac ysbyty Parc. Maent oll wedi cau bellach, am resymau da iawn, a safle ysbyty Parc yw safle carchar preifat y Parc yn awr, ond mae'n dal i gadw llawer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl mawr, fel hen ysbyty Parc ar yr un safle. Weithiau rydym yn meddwl, 'Nid ydym wedi symud ymlaen llawer, mewn gwirionedd', gan mai mynd i'r afael ag aildroseddu yw'r her fawr i adsefydlu troseddwyr yn iawn er mwyn osgoi'r drws troi hwnnw o aildroseddu, fel y dywedodd Jenny ac eraill.
Mae'n wir, fel y dywedodd David Melding, fod angen carcharu pobl ddrwg, ond i lawer yn y carchar, mae ymdrin â'r achosion sylfaenol a galluogi adfer ac ailadeiladu bywyd a pherthynas ag eraill yn ganolog. Mynd i'r afael â materion iechyd meddwl yw un o'r pethau pwysicaf—soniodd nifer o bobl am hynny, ac mewn gwirionedd, rhaid inni fynd i'r afael â hynny—o fy hen wasanaeth seiciatrig ers talwm.
Yn yr un modd, mae iechyd corfforol, tai, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol—mae pob un o'r rhain yn wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae angen eu cydlynu ac mae angen inni sicrhau bod troseddwyr yn cael mynediad parod atynt. Ond rydym yn dioddef o ddiffyg cydlynu ar hyn o bryd oherwydd, fel rydym wedi clywed, mae carchardai, plismona, y llysoedd a'r gwasanaeth prawf yn parhau i fod heb eu datganoli. Felly, ceir diffyg cysylltiad sylfaenol, a thrwy hynny ceir her enfawr i fynd i'r afael â drws troi aildroseddu, ac mae angen datganoli plismona a chyfiawnder troseddol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yng Nghymru—a hynny yn awr—am bob un o'r rhesymau hyn, a hefyd gallwn osgoi cyhoeddiadau annisgwyl am garchar mawr ym Maglan. Yma yn y Cynulliad, ni fu modd inni ymateb nes ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud. Nid oes angen y warws enfawr hon o garcharorion, a bydd yn pentyrru pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig sydd eisoes dan straen: iechyd meddwl, tai, cyffuriau ac alcohol ac yn y blaen. Ychydig o gymorth ychwanegol a gaiff byrddau iechyd sydd â charchar ynddynt eisoes tuag at y pwysau ychwanegol ar wasanaethau tai, iechyd ac addysg lleol. Dyna pam yr ystyrir y posibilrwydd o carchar mawr ar orlifdir, ar dir Llywodraeth Cymru a ddynodwyd ar gyfer busnes a chyflogaeth, gyda'r fath ofid.
Felly, edrychaf ymlaen at weld Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno ac yn bwrw ati gyda'r weledigaeth falch honno o system gosbi Gymreig annibynnol. Dyna sy'n ofynnol ar gyfer holl bobl y wlad hon. Mwy o bŵer i Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.