Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 7 Mawrth 2018.
Gyda llawer o'r pwyntiau ar y cynnig hwn, cred Plaid Cymru yn y pen draw na fydd unrhyw obaith realistig o'u cyflwyno hyd nes y gwelir datganoli cyfiawnder troseddol priodol ac y gallwn ddatblygu awdurdodaeth droseddol neilltuol Gymreig. Buaswn yn dadlau bod hyn yn dod yn gynyddol hanfodol, yn rhannol oherwydd, wrth i ni basio mwy a mwy o ddeddfau neilltuol Gymreig—yn enwedig ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar adsefydlu troseddol, megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai—daw'n fwy angenrheidiol fel cam naturiol i'w gymryd. Mae gennym y pwerau hynny eisoes, fel a grybwyllwyd yn gynharach. Pam, felly, nad oes gennym ddeddfwriaeth i weinyddu cyfiawnder troseddol? Ond fy mhryder i yw nad yw'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru y tân yn ei bol i frwydro dros y mater hwn mewn gwirionedd, ac nid ydynt yn gwneud ymdrech ddigonol i hyrwyddo'r sector cyfreithiol yng Nghymru chwaith, er mwyn iddynt allu ymdopi ag unrhyw newidiadau wrth ddatganoli cyfiawnder troseddol.
Mae datganoli hefyd yn dod yn fwy anodd os derbyniwn sefydliadau carchar mwy a mwy o faint yng Nghymru, sy'n cael eu cynllunio ar gyfer gormodedd o garcharorion yn Lloegr. Os caiff y carchar arfaethedig ym Mhort Talbot ei adeiladu, bydd oddeutu 2,300 yn ormod o leoedd carchar yng Nghymru, o'i gymharu â chyfanswm nifer y carcharorion o Gymru ar draws y DU gyfan. Mae'n amlwg nad yw unrhyw garchar newydd yng Nghymru yn cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion Cymru, oherwydd mae gennym y capasiti hwnnw eisoes. Po fwyaf o garcharorion o Loegr sy'n cael eu dedfrydu i garchardai yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb, y mwyaf anodd fydd hi i wneud y pethau y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn eu cefnogi. Ddoe ddiwethaf, lleisiodd Carwyn Jones ei gefnogaeth i'r cysyniad o edrych ar bolisi cosbi ar wahân ar gyfer Cymru, ac eto mae'n codi ei ysgwyddau yn achos carchar newydd enfawr yn yr etholaeth sy'n ffinio â'i etholaeth ef. Mae angen safbwynt clir gan Lywodraeth Cymru, un nad yw'n gwrthddweud ei hun, i fod yn rhan o'r ddadl hon a gawn yma fel Senedd, ac yn fwy cyffredinol, fel gwlad.
O ran adsefydlu, rhaid inni ddechrau symud oddi wrth y syniad y gallwn gludo carcharorion ar draws y wlad a disgwyl adsefydlu effeithiol ar ddiwedd dedfryd. Geilw'r arolwg carchardai gan yr Arglwydd Michael Farmer y llynedd berthnasoedd teuluol yn 'edau aur' i helpu i leihau aildroseddu, ac mae ymchwil yn dangos bod carcharorion sy'n cael ymweliadau gan aelod o'r teulu 39 y cant yn llai tebygol o aildroseddu.