Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 7 Mawrth 2018.
Felly, rwyf am ailadrodd llawer o'r pwyntiau a wnaed yma gan fy nghyd-Aelodau heddiw. Ond yn benodol, bythefnos yn ôl—credaf mai tua phythefnos yn ôl oedd hi—soniodd David Ramsbotham, y cyn-brif arolygydd carchardai, am y mater hwn ar Sunday Supplement. Rwy'n credu bod David Rees ar yr un rhaglen. Yn anffodus, cafodd ei sylwadau eu camddehongli gan y cyfryngau, a dywedwyd eu bod yn dweud mai galwad oedd hi am garchar i fenywod yma yng Nghymru, sef y gwrthwyneb llwyr i'r hyn a ddywedodd. Yn sicr, y peth olaf a ddymunwn yw carchar i fenywod yma yng Nghymru, oherwydd yn ddiamau, nid yw nifer y menywod sy'n creu'r fath berygl i'r cyhoedd fel bod angen iddynt fod dan glo, gyda'r holl drawma i'w teuluoedd o ganlyniad i hynny, yn ddigon i gyfiawnhau carchar i fenywod yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae'r nifer sy'n berygl i gymdeithas yn un neu ddwy yn ôl pob tebyg.
Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn symud oddi wrth y camsyniad hwn y byddai cael carchar i fenywod yma yng Nghymru yn beth da i fenywod, oherwydd yn fy marn i, byddai'n atal y broses o ddiwygio'r system gosbi yn helaeth pe bai gennym garchar i fenywod yma yng Nghymru, a byddai'n rhaid ei lenwi â menywod o Loegr mewn ffordd a fyddai'n sicr yn golygu na fyddai unrhyw obaith iddynt hwy gael cysylltiad agos â'u teuluoedd. Yr hyn y galwodd David Ramsbotham amdano mewn gwirionedd oedd canolfannau i fenywod, sydd wedi'u crybwyll yma gan nifer o gyfranwyr heddiw. Ni chawsom ganolfan i fenywod o'r math arbennig hwn yng Nghymru erioed, ond gwelwyd nifer ohonynt yn Lloegr. Maent wedi cael eu gwerthuso, ymddengys eu bod yn gweithio, a byddai datblygu polisi yn seiliedig ar dystiolaeth yn golygu y byddem yn datblygu'r canolfannau menywod hyn yng Nghymru. Hoffwn weld cyfle i hynny ddigwydd.
Mae'n werth ailddatgan, mewn gwirionedd, mai 5 y cant yn unig o holl boblogaeth y carchardai sy'n fenywod, ac nid yw'r mwyafrif helaeth ond yn bwrw dedfryd fer iawn. Mae mater carcharorion benywaidd yn bolisi sydd o fewn gafael. Nid yw'r niferoedd mor fawr fel eich bod yn cael trafferth i newid. Mae'n bosibl newid y polisi ar gyfer carcharorion benywaidd, ac mae llawer o'r materion sy'n berthnasol i garcharorion benywaidd hefyd yn berthnasol i garcharorion gwrywaidd. Pe gallem sicrhau newid gyda charchardai i fenywod, rwy'n credu y byddai hynny'n ein harwain i wneud yr un peth gyda charchardai i ddynion, oherwydd hoffwn ailadrodd y ffaith am broblemau iechyd meddwl, oherwydd rwy'n credu ei fod mor bwysig. Gwyddom fod gan y mwyafrif helaeth o garcharorion broblemau iechyd meddwl sy'n rhaid rhoi sylw iddynt.
Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni ddychwelyd at yr effaith ar blant. Dywedodd Jenny Rathbone wrthym am y miloedd o blant—gwn fod Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai wedi cyflwyno ffigur o filoedd o blant yr effeithir arnynt gan ddedfrydau o garchar—ac mae 95 y cant ohonynt yn gorfod gadael eu cartrefi os yw carchariad eu mam yn eu gadael heb oedolyn i ofalu amdanynt. Felly, ceir amharu enfawr ar fywyd y teulu. Nid wyf yn credu y gallwn ailadrodd hynny ddigon.
Yn fy marn i, mae'r dystiolaeth ynghylch canolfannau menywod yn glir ac yn rymus. Maent yn bwysig ar gyfer cynnal cysylltiadau teuluol, gwyddom fod y gyfradd aildroseddu'n is, ac yn wir, maent yn costio llai na'r opsiwn drud iawn o adeiladu carchardai. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli i Gymru. Argymhellwyd hynny yn adroddiad Silk, ac nid ydym wedi gweld llawer o arwydd o hynny'n digwydd ers hynny, ond mae'n rhywbeth y gallem fynd i'r afael ag ef ac yn rhywbeth lle y gallem sicrhau newid go iawn.
Soniodd Jenny am y prosiect Ymweld â Mam, a hoffwn orffen yn fyr drwy ddweud fy mod wedi cymryd rhan yn un o'r ymweliadau i Eastwood Park. Euthum gyda gwirfoddolwyr Ymweld â Mam sy'n mynd â'r plant i Eastwood Park, ac ni allaf ddweud wrthych pa mor dorcalonnus oedd gweld y plant hynny'n cael eu haduno gyda'u mamau mewn ystafell nad oedd fel carchar, lle roedd ganddynt deganau, lle roedd ganddynt fwyd, lle y gwnaed pob ymdrech gan y prosiect i sicrhau bod yna ddwy awr pan allent gael perthynas normal gyda'u mam. Ond wrth weld hynny, roeddwn yn meddwl na all dim gyfiawnhau hyn mewn gwirionedd. Pan welech y rhesymau pam roedd y menywod hynny yn y carchar, ni ellir cyfiawnhau eu bod yno o gwbl.