Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad i raddau helaeth lle y gorffennodd John Griffiths ei gyfraniad ef, drwy gytuno'n gryf iawn â'r pwyntiau a wnaeth John yn ei gyfraniad, ond hefyd, rwy'n meddwl, gyda'r consensws cryf iawn ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma. Hoffwn ddweud, Ddirprwy Lywydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n mynd rywfaint o'r ffordd tuag at ateb cais Bethan Sayed am bolisi clir yn y maes hwn, a hoffwn ddweud wrth yr Aelodau fy mod yn cydnabod bod galw clir iawn am bolisi pellach ar hyn a byddaf yn ceisio gwneud datganiad i'r Siambr ar y materion hyn maes o law.
Hoffwn ddweud hyn hefyd: rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan lawer o'r Aelodau—credaf fod Julie Morgan wedi gwneud y pwyntiau'n glir iawn—fod y setliad presennol yn setliad toredig; nid yw'n cynhyrchu polisi cyfannol; mae'n dangos setliad cyfansoddiadol nad yw'n gweithio. Mae'n bwysig cydnabod nad yw hyn yn gweithio i unrhyw un. Nid yw'n caniatáu i'r Swyddfa Gartref na'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyflawni eu polisau'n hawdd yng Nghymru, ac nid yw'n caniatáu inni ddatblygu polisi chwaith. Felly, nid setliad nad yw'n gweithio i ni ac i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu'n unig yw hwn; nid yw'n gweithio i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Ac am y rheswm hwnnw rwy'n gobeithio y bydd y setliad yn cael ei ailystyried. Nid wyf eisiau achub y blaen ar faterion y comisiwn cyfiawnder a fydd yn edrych ar lawer o'r materion hyn, ond hoffwn ddweud, fel y Gweinidog sy'n weithredol yn y maes hwn, nad oes gennym fframwaith polisi, y pwerau na'r gallu i ddarparu polisi cyfannol, ac yn anffodus nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddu ar y rheini chwaith, felly ceir methiant gwirioneddol yn y maes hwn.
Amlinellodd Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn dda iawn sut y mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr er mwyn hyrwyddo adsefydlu eu hunain wedi'u datganoli, ond nad oes gennym y pwerau sydd eu hangen. Roeddwn yn meddwl bod pwynt David Melding am Ogledd Iwerddon a'r Alban yn bwynt diddorol tu hwnt ac mae'n sicr yn un yr hoffwn fynd ar ei drywydd yn y dyfodol.
Hoffwn ddweud hefyd fod y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone yn ei haraith agoriadol, ac a ailadroddwyd hefyd gan David Rees, am gyflwr carchardai yng Nghymru, yn rhai da iawn. Ymwelais â Charchar ei Mawrhydi Abertawe ym mis Chwefror, a gwelais drosof fy hun yr amgylchiadau lle y cedwir gormod o ddynion Cymru. Hefyd rwyf wedi trafod ac wedi tynnu sylw at y pryderon yn adroddiad yr arolygiad gyda phrif arolygydd carchardai ei Mawrhydi pan gawsom gyfarfod y mis diwethaf, a rhaid imi ddweud ei fod yn gadarnhaol iawn yn ei ymateb i'r pwyntiau a wnawn a chydnabu'r anawsterau real iawn sy'n wynebu carcharorion mewn rhai rhannau o'r ystâd yng Nghymru. Nid yw'n iawn o gwbl fod gennym ddynion o Gymru yn cael eu cadw mewn amgylchiadau nad ydynt yn addas at y diben. Ni ddylai partneriaid a phlant carcharorion orfod ymweld â hwy mewn sefydliadau na all barchu urddas carcharorion a'u teuluoedd yn iawn.
Rwy'n bryderus nad oes gennym allu i gydgysylltu polisi yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth ei Mawrhydi yng Nghymru, ac rwy'n bryderus nad oes gennym allu i ddarparu ymatebion polisi cydlynol ar gyfer pobl. Fodd bynnag, rydym wedi ceisio datblygu fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru gyda'r gwasanaeth profiannaeth. Diben y fframwaith yw gwella gwasanaethau ar gyfer rhai sydd mewn perygl o fynd i mewn neu sydd eisoes yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd y fframwaith hefyd yn hyrwyddo cydweithredu parhaus er mwyn lleihau nifer y troseddwyr sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, cynorthwyo troseddwyr i beidio ag aildroseddu a chadw cymunedau'n ddiogel.
Cyfeiriodd nifer o'r Aelodau at adroddiad Corston ac at droseddu ymhlith menywod. Mae adroddiad Corston, a gyhoeddwyd dros ddegawd yn ôl, yn dadlau bod canlyniadau cyfartal i droseddwyr benywaidd yn golygu bod angen dull gwahanol i'r hyn sy'n bodoli ar gyfer eu cymheiriaid gwrywaidd. Cytunaf yn fawr iawn â'r pwyntiau a wnaed, gan Jenny Rathbone a Julie Morgan yn arbennig, o ran sicrhau nad ydym yn mynd ar hyd y ffordd o ddweud yn syml, 'Rydym eisiau carchar i fenywod yng Nghymru', ond mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw math gwahanol o gyfleuster sy'n cyflawni rôl wahanol mewn ffordd wahanol, ac mae hwnnw'n bolisi gwahanol iawn, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed. Ac rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed ynghylch carcharu menywod, gyda llawer o fenywod yn cael dedfrydau diannod am droseddau na fyddent, mewn llawer o achosion, yn arwain at garchar yn achos dynion yn rhai da iawn. Gall dedfrydau byrdymor o'r fath arwain at effeithiau hirdymor, ac arwain mewn llawer o achosion at fenyw'n colli ei thenantiaeth a gallai hynny arwain at osod plant mewn gofal preswyl. Mae hyn yn arwain at gymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau datganoledig, gan beri risg o ddod yn agored i brofiadau niweidiol pellach yn ystod plentyndod i blant troseddwyr.
Rwy'n deall y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi newidiadau i'r ffordd y rheolir troseddwyr benywaidd gan gynnwys, o bosibl, sefydliadau diogel gwahanol ar gyfer menywod. Nodwyd yn flaenorol fod angen newidiadau yn y gwasanaeth prawf ehangach. Rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau yng Nghymru ein bod yn gallu mabwysiadu'r dull o weithredu a amlinellwyd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn perthynas â throseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid, ac rydym wedi cytuno y dylai ein swyddogion weithio gyda'i gilydd i archwilio gwaith o'r fath er mwyn datblygu cynigion ar sut y byddai system gyfiawnder wahanol yn gweithredu yng Nghymru. Credaf fod angen inni ddechrau ateb y cwestiwn a gyflwynwyd i ni gan David Rees ynglŷn â sut beth fyddai polisi cosbi Cymreig yn ei hanfod. Gwnaeth bwynt da iawn i'r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn teimlo bod y Prif Weinidog wedi nodi yn ei ymateb ddoe ei fod eisiau edrych ar sut y byddem yn dechrau datblygu polisi cosbi ar gyfer Cymru.
I mi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn weld system yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal, gan ystyried sut y gallwn annog pobl i droi cefn ar droseddu yn y lle cyntaf, ond lle bydd yn rhaid inni weithio gyda throseddwyr, ein bod yn gwneud hynny mewn modd cyfannol sy'n canolbwyntio ar adsefydlu. Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth David Rees ar sefydliadau llai, ac yn sicr, rwy'n credu, os ydym yn mynd i edrych ar bolisi cosbi ar gyfer Cymru, y dylid canolbwyntio ar adsefydlu, ar sgiliau, ar hyfforddiant, ar alluogi pobl i chwarae rhan lawn yn ein cymunedau ac yn ein cymdeithas. Rydym yn deall yr angen, fel y dywedodd David Melding yn glir iawn, am elfen gosbol i garcharu; rydym yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, y diben felly yw peidio â mynd ar drywydd hynny, ond rhoi cyfle i bobl, wedyn, i chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas, a dyna pam rwy'n cynnig ein bod yn galluogi carcharorion sy'n bwrw dedfrydau byrdymor i bleidleisio yn ein hetholiadau. Byddant yn gallu parhau i chwarae rhan yn llunio'r polisi hwnnw—y cymunedau hynny.
Rydym wedi gwneud ein safbwynt fel Llywodraeth ar y mater hwn yn glir yn ein Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru drafft, ac nid yw ein safbwynt wedi newid. Roedd y Bil hwn yn darparu ar gyfer creu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol i Gymru ar unwaith, gyda Chymru a Lloegr yn rhannu gwasanaethau'r farnwriaeth a'r llysoedd a datganoli cyfraith sifil a chyfraith droseddol, a gweinyddu cyfiawnder o 2026 ymlaen. Methodd Bil Llywodraeth y DU, a ddaeth yn Ddeddf Cymru, ymateb i'n Bil ni ac ni aeth i'r afael â materion hanfodol awdurdodaeth a chyfiawnder, y credaf fod pawb ohonom o'r farn eu bod yn galw am sylw ar frys. Sefydlodd y Prif Weinidog gomisiwn cyfiawnder, a gadeirir gan yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, i gynnal adolygiad sylfaenol o'r system gyfiawnder yng Nghymru a sut i'w chryfhau yn y tymor hir.
Buaswn yn gwrthwynebu carcharu unrhyw un yn ddiangen. Yn yr un modd, fodd bynnag, mae angen inni warchod ein cymunedau rhag niwed, ac yn amlwg, mae gan garchardai rôl glir i'w chwarae yn hynny. Ni allaf achub y blaen ar gasgliadau'r pwyllgor cyfiawnder, ond mae angen inni sicrhau ein bod yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu polisi cyfiawnder.
A gaf fi ddweud, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, fod polisi cyfiawnder, i mi, yn rhan o'n hymagwedd gyffredinol at gymunedau mwy diogel a chydlynol? Mae polisi cyfiawnder sy'n gyfannol, sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd ac sy'n gwneud mwy na charcharu pobl yn unig—mae'n bolisi cyfiawnder sy'n seiliedig ar beth o'n gwaith ar gymunedau mwy diogel, ac mae angen inni gael trafodaeth onest ac agored gydag adrannau'r DU ynglŷn â beth y byddai dull gwahanol yng Nghymru yn ei olygu. Rydym wedi dechrau'r sgyrsiau hynny gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac edrychaf ymlaen at gwblhau'r sgyrsiau a datblygu polisi cosbi Cymreig sy'n gosod dyfodol a chydlyniant ein cymunedau wrth ei wraidd.