Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, yn wir. Drwy gydol fy mlynyddoedd fel ynad câi ei bwysleisio i bawb a oedd yn rhan o'r system farnwrol—ynadon, barnwyr ac wrth gwrs, y gwasanaeth prawf—mai carcharu oedd y ffurf derfynol ac eithaf ar gosb. Mae'n wir y câi camgymeriadau eu gwneud ar achlysuron prin, ond mae hynny'n wir am unrhyw sefydliad, yn enwedig un fel y farnwriaeth, sy'n ymdrin â phroblemau bron yn anorchfygol yn gysylltiedig â chynnydd mawr mewn troseddau difrifol.