Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 7 Mawrth 2018.
Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Linda am gyflwyno'r ddeiseb ac am annog y Cynulliad i ystyried y mater pwysig hwn. Casglwyd cyfanswm o 6,398 o lofnodion ar y ddeiseb. Casglwyd y ddeiseb ar-lein ac ar bapur ac ar draws Cymru a thu hwnt. Yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n peri pryder i lawer o bobl yng Nghymru sy'n gwrthwynebu i anifeiliaid gwyllt gael eu defnyddio at ddibenion adloniant yn y modd hwn. Wrth gwrs, mae'r arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi cael cryn sylw ymhlith y cyhoedd dros nifer o flynyddoedd. Yn wir, bu'r Pwyllgor Deisebau yn y pedwerydd Cynulliad yn ystyried deiseb ar y mater hwn gan RSPCA Cymru, a gwn fod rhai Aelodau yma heddiw wedi cymryd rhan yn y gwaith bryd hynny.
Mewn ymateb i'r ddeiseb honno, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, Rebecca Evans, adolygiad annibynnol o'r dystiolaeth ar les anifeiliaid mewn syrcasau sy'n teithio a syrcasau nad ydynt yn teithio. Cyhoeddwyd yr adroddiad dilynol ym mis Ionawr 2016 a daeth i'r casgliad bod y dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw gofynion lles gorau anifeiliaid gwyllt sy'n gaeth mewn syrcasau sy'n teithio, a nodir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2009, yn cael eu diwallu. Dywedai hefyd nad yw bywyd i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sy'n teithio a sŵau symudol yn fywyd da neu'n fywyd gwerth ei fyw. Mae'r canfyddiadau hyn yn rhoi darlun cryf i ni ac mae'n iawn y dylent arwain at ystyriaeth ddifrifol ynglŷn ag a ddylai syrcasau sy'n teithio barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn y dyfodol.
Fodd bynnag, yn dilyn y gwaith hwn, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â symud ymlaen i wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt. Yn hytrach, ar ddiwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddatblygu system drwyddedu ar gyfer yr holl arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, fel y'u gelwir, gan gynnwys syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau megis anifeiliaid yn ymweld ag ysgolion a gorymdeithiau ceirw yn y gaeaf.
Yna, y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno system drwyddedu o'r fath. Hefyd, roedd yr ymgynghoriad yn holi am farn ynglŷn ag a ddylid gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Yn dilyn yr ymgynghoriad, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i waharddiad er bod ei hadroddiad yn cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu y dylid gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac na ellir gofalu am anifeiliaid gwyllt yn briodol tra'u bod mewn amgylchedd teithiol.
Mae'r deisebydd wedi esbonio bod y ddeiseb bresennol wedi deillio o ymateb i'r penderfyniad i beidio â chael gwaharddiad. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, amlinellodd y deisebydd y sefyllfa gyda syrcasau sy'n ymweld â Chymru. Enwodd dri chwmni sydd wedi ymweld â Chymru yn y blynyddoedd diwethaf, a rhannodd ei phryderon ynghylch gallu awdurdodau lleol ac eraill i archwilio'r amgylchiadau y caiff anifeiliaid eu cadw ynddynt pan fydd syrcasau'n dod i'w hardaloedd. Nododd hefyd fod system drwyddedu ar gyfer syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt wedi bod yn weithredol yn Lloegr ers 2012. Mae hi'n credu bod dogfennau trwyddedu yn dangos bod y model hwn yn gwneud cam ag anifeiliaid, a bod cwmnïau wedi torri amodau eu trwyddedau ar nifer o achlysuron, ac wedi dioddef ataliadau dros dro o ganlyniad.
Mynegodd y deisebydd bryderon pellach ac mae'r rhain yn aml yn cynnwys yr amgylchiadau y cedwir anifeiliaid ynddynt, yn enwedig wrth deithio, ac argaeledd milfeddygon sydd â phrofiad o ofalu am anifeiliaid egsotig, megis camelod, llewod a theigrod—yn ddealladwy, mae hon yn arbenigedd go anarferol yng Nghymru. Ei chasgliad yw bod yr adroddiad annibynnol yn 2016 a chanlyniad ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd yn rhoi tystiolaeth wyddonol a chefnogaeth gyhoeddus i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad. Dywedodd wrthym hefyd fod gwaharddiad ar yr arfer hwn bellach naill ai ar waith neu wedi'i gynllunio mewn oddeutu 35 o wledydd eraill, gan gynnwys yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Yn fwyaf diweddar, roedd Llywodraeth y DU hefyd yn ymddangos fel pe bai'n rhoi mwy o ystyriaeth i roi terfyn ar yr arfer hwn.
Mewn ymateb i lythyr gwreiddiol gan y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig nad oedd hi wedi diystyru'r posibilrwydd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar y cyd ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, yn dilyn hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Chwefror, a gyhoeddodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae'n ymddangos bod yr argymhellion hyn ar gam cynnar a hyd yma, ychydig o wybodaeth sydd ar gael am gwmpas y gwaith ac amserlenni ar gyfer y dyfodol. Mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu darparu rhagor o fanylion am ei syniadau a'i bwriadau yn ystod ei hateb i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Hoffwn nodi yma fod yr RSPCA yn argymell defnyddio'r pwerau o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 fel dull o weithredu gwaharddiad. Fe'u defnyddiwyd llwyddiannus yn 2010 i wahardd coleri sioc drydanol, a defnyddiwyd dull tebyg gan Lywodraeth Iwerddon i sicrhau gwaharddiad ar syrcasau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae mantais ychwanegol i'r ddeddf hefyd o'i bod yn arbed ar gost dyrannu amser gwerthfawr y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth newydd.
Serch hynny, rwy'n deall bod y cyhoeddiad wedi'i groesawu gan Linda Jones a'r rhai a lofnododd ei deiseb. Er nad dyma ddiwedd y stori, ac rwy'n siŵr y bydd safbwyntiau pellach yn parhau i gael eu gwyntyllu, credaf ei bod yn iawn inni gydnabod y camau sylweddol a gyflawnwyd eisoes gan Linda ac aelodau eraill yr ymgyrch. Credaf hefyd fod hon yn enghraifft o bŵer posibl deisebau, a chryfder y prosesau sy'n bodoli yn y Cynulliad hwn i aelodau o'r cyhoedd allu dwyn materion i sylw'r Cynulliad a Gweinidogion. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon o ddiddordeb mawr i'r bobl sydd wedi rhoi amser i gyflwyno deiseb ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at wrando ar gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.