Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar y ddeiseb 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'r deisebydd, Linda Joyce Jones, ac mae ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i'r mater hwn ac i les anifeiliaid yn gyffredinol wedi bod yn glir i'r pwyllgor ei weld. Tystiodd aelodau'r Pwyllgor Deisebau a nifer o Aelodau eraill yn wir i'r ymroddiad hwn yn uniongyrchol pan ddaeth Linda a'i chefnogwyr i'r Senedd i gyflwyno eu deiseb yn ystod mis Ionawr.