Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 7 Mawrth 2018.
Mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon. Rwyf wedi ceisio gwneud ymdrech yn fy amser yma yn y Cynulliad, ac yn enwedig dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, i dynnu sylw at y materion hyn. Mae hyn yn rhannol oherwydd, yn yr un modd ag y mae'n agos at fy nghalon i, mae hefyd yn agos at galon y mwyafrif llethol o bobl yn y wlad hon. Mae sut rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad o'r hyn ydym fel cymdeithas ac fel gwlad, ac er bod llawer o bobl weithiau'n honni bod yna bethau eraill pwysicach y dylai Llywodraeth ganolbwyntio arnynt, credaf ei bod yn bwysig inni ganolbwyntio ar anifeiliaid sy'n agored i niwed, a sut rydym yn dangos ein bod yn cefnogi camau i'w diogelu.
Ond rydym yn canolbwyntio mwy ar y mater hwn oherwydd gwaith ymgyrchwyr a'r cyhoedd, a dylai'r ddeiseb gael ei llongyfarch fel enghraifft arall o bobl Cymru'n dangos eu hymroddiad a'u penderfyniad i geisio darparu atebion a mewnbwn i rai o'r cwestiynau hyn a rhoi pwysau arnom ni yma hefyd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian hefyd, a fu'n gweithio'n ddiwyd gyda rhai o'r deisebwyr yma heddiw, a Linda yn benodol, sydd wedi bod yn anfon negeseuon e-bost atom yn rheolaidd er mwyn tynnu sylw at hyn fel mater o bwys yn y Cynulliad.
Mae mater syrcasau yn un nad yw mor gymhleth â hynny yn fy marn i. Fel y mae'r ddeiseb yn ei nodi, mae 74 y cant o'r cyhoedd wedi dangos drwy arolygon barn eu bod yn erbyn cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Maent yn cydnabod yn briodol fod syrcasau sy'n cynnwys anifeiliaid gwyllt yn hen ffasiwn ac yn niweidiol. Mae 25 o wledydd eisoes wedi gwahardd y defnydd o anifeiliaid byw mewn syrcasau, ac eisoes rydym wedi clywed am waharddiadau yn yr Alban ac mewn mannau eraill yn Ewrop. Yr hyn sy'n peri pryder i mi, fodd bynnag, yw natur araf y cynnydd ar y mater hwn yng Nghymru. Nid wyf eisiau mynd drwy'r amserlenni a amlinellwyd eisoes gan Gadeirydd y Pwyllgor, ond deallaf yn awr mai ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru o hyd yw—ac rwy'n dyfynnu:
'Rwy'n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru.'
Os yw'n dal ati i chwilio am gyfleoedd, rwy'n gofidio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar goll. Rwy'n deall fod gennym ddyletswydd i gael deddfwriaeth yn iawn y tro cyntaf, yma yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli y byddai'r cyhoedd yn disgwyl hyn a bod y Llywodraeth eisiau sicrhau bod hynny'n wir, ond nid yw fel pe baem yn gwthio am rywbeth nad yw wedi ei wneud o'r blaen neu lwybr unigryw mewn perthynas â syrcasau, oherwydd mae gwledydd eraill eisoes wedi gwahardd hyn. Mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl. Mae yna bosibilrwydd, tra'n bod mewn limbo, y gallai gweithredwyr syrcasau gyflwyno cais am drwydded a'i chael yma yng Nghymru. Gwyddom eisoes, yn 2015, fod trwydded wedi'i gwrthod i weithredwr syrcas mewn man arall yn y DU, ond ei fod wedi llwyddo i gynnal taith syrcas yng Nghymru, a gallai hynny fod yn niweidiol iawn yn fy marn i. Clywais heddiw hefyd—yn gynharach—gan ymgyrchwyr fod yr un gweithredwr yn cynllunio taith arall, sy'n annhebygol o gael trwydded yn Lloegr, ac mae'n debyg y bydd yn cyflwyno cais am drwydded yng Nghymru'n fuan. Pe bai hynny'n digwydd, byddai'n fethiant a fyddai'n embaras, yn fy marn i, ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'n diffyg cyflymder i weithredu polisi yn y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn amlwg yn gweld teimladau a safbwyntiau'n newid ar les anifeiliaid. Rwyf wedi crybwyll mater cofrestr cam-drin anifeiliaid lawer gwaith, ac mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno bron 0.75 miliwn o lofnodion ar yr agwedd benodol honno'n unig ar y ddadl hon. Rwyf wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ar yr agenda hon, ond rwy'n falch o weld, ar y mater penodol hwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrthod ymgyrchoedd ar unrhyw un o'r materion hyn yn llwyr, a bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud yn glir beth y mae hi'n ei ffafrio.
Rwyf hefyd yn falch fod yna symud o leiaf ar y cwestiynau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a rhai camau ar amryw ohonynt, ond rwy'n pryderu, fel y mae'r ymgyrchwyr, ein bod yn symud yn rhy araf. Mae gwir angen amserlen arnom yn awr i nodi pa bryd y daw'r gwaharddiad hwn i rym fel y gall Cymru arwain yr agenda unwaith eto. Fel gyda llawer o'r dadleuon a gawsom y prynhawn yma, gadewch inni roi Cymru ar y map. Gadewch i Gymru ddangos y ffordd a gwneud yn siŵr fod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn yma yng Nghymru, fel y maent yn cael eu hamddiffyn mewn rhannau eraill o'r byd. Diolch yn fawr iawn.