Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 7 Mawrth 2018.
Yn sicr, dyna pam, yn amlwg, y dylid bod wedi edrych ar y mater penodol hwn yn annibynnol ar y materion eraill hynny.
Er fy mod eisiau gweld gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ceir nifer o gwestiynau y mae angen eu gofyn o hyd yn sgil datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau gwaharddiad, ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o eglurder ar rai manylion. Er enghraifft, a yw'r gwaharddiad hwn yn cael ei weithredu ar y sail fod yna bryderon ynghylch lles anifeiliaid sy'n teithio? Neu a yw'n cael ei weithredu ar y sail fod yr anifeiliaid hyn yn cael eu gorfodi i berfformio? Os mai'r bwriad yw gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn seiliedig ar les anifeiliaid sy'n teithio, a fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ymestyn y gwaharddiad hwn i gynnwys anifeiliaid eraill sy'n teithio, megis da byw sy'n mynd i sioeau a marchnadoedd? Fodd bynnag, os gweithredir gwaharddiad oherwydd bod yr anifeiliaid yn y syrcasau hyn yn cael eu gorfodi i berfformio, yna ceir cwestiwn ynglŷn â pha mor bell y gallai'r gwaharddiad hwn fynd. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a yw hyn yn cynnwys arddangosiadau o adar neu orymdeithiau ceirw, er enghraifft? Mae angen eglurder ar y materion hyn i gadarnhau beth yn union yw'r sail resymegol dros y gwaharddiad, fel y gall y cyhoedd ddeall yn union beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru.
Erbyn hyn, fel y dywedais yn flaenorol, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi penderfynu ymrwymo i weithredu gwaharddiad, ac rwy'n mawr obeithio, wrth i'r agenda hon fynd rhagddi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar draws y DU, megis Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018, sy'n gwahardd perfformiadau, arddangosiadau ac arddangosfeydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth a gaiff ei chyflwyno mor gadarn â phosibl. Felly, buaswn yn ddiolchgar hefyd pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud ar ddadansoddi'r camau a gymerwyd gan wledydd eraill mewn perthynas â'r mater hwn, ac efallai y gall ymrwymo i gyhoeddi datganiad ar y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, fel y gallwn ddilyn cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru.
Wrth gwrs, efallai fod rhywfaint o le i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cyflwyno gwaharddiad ar y cyd, ac rwy'n deall, yn y gorffennol, fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â'u cymheiriaid yn DEFRA i drafod yr union fater hwn. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb heddiw, gadarnhau felly a yw Llywodraeth Cymru'n dal i ystyried y posibilrwydd o waharddiad ar y cyd â Llywodraeth y DU? Ac a all hi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal yn ddiweddar rhyngddi hi a'i swyddogion ar y mater penodol hwn?
Yn olaf, rwyf hefyd yn awyddus i glywed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i orfodi'r gwaharddiad yma yng Nghymru, gan na fydd y gwaharddiad yn llwyddiannus os na chaiff ei orfodi. O ganlyniad i gyflwyno'r gwaharddiad, a fydd Llywodraeth Cymru yn datganoli pwerau gorfodi i lawr i awdurdodau lleol, fel y gallant hwy gyflawni arolygiadau neu archwiliadau ar hap ar unrhyw syrcasau sy'n teithio? Os felly, a yw Llywodraeth Cymru yn hyderus fod gan awdurdodau lleol yng Nghymru adnoddau i gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol hyn? Dyma'r math o gwestiynau y mae angen eu gofyn, ac felly rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn darparu mwy o wybodaeth ac eglurder ynglŷn â sut y byddant yn gweithredu gwaharddiad, a beth fydd hynny'n ei olygu yn ymarferol, wrth symud ymlaen.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar yr agenda hon, oherwydd mae'n rhywbeth y mae pob ochr i'r Siambr wedi bod yn awyddus i'w weld ers sawl blwyddyn bellach, ac am fod y cyhoedd wedi ei gwneud yn glir iawn eu bod am weld gwaharddiad. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwybodaeth fwy manwl yn awr ynghylch y gwaharddiad hwn, fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater hwn, a'i bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn effeithlon. Diolch.