Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 7 Mawrth 2018.
Rwyf wedi byw yn fy etholaeth drwy gydol fy oes, ac rwy'n falch o ddweud nad wyf yn cofio adeg pan oedd yna syrcas deithiol gydag anifeiliaid gwyllt, oherwydd yn sicr nid oes croeso iddynt yng Nghwm Cynon. Er hynny, rwyf wedi cael llwyth o ohebiaeth gan etholwyr ers i mi gael fy ethol i'r lle hwn ar yr union fater hwn o wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ac rwy'n meddwl mai'r hyn y mae hynny'n ei ddangos yw bod yna farn gref ar draws Cymru ar y mater hwn. Fel y mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi dweud, mae'r ystadegau'n dangos bod tri chwarter y bobl yng Nghymru yn cefnogi gwaharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Mae'r papur briffio y mae pawb ohonom wedi'i weld gan yr RSPCA yn nodi'r dystiolaeth wyddonol sy'n dangos ei bod hi'n debygol y bydd bywyd mewn syrcas yn effeithio'n niweidiol ar les anifeiliaid. Mae'n nodi ei fod yn achosi straen a phroblemau ymddygiad, ac yn amlwg, ni all natur dros dro cewyll mewn syrcas ddiwallu anghenion anifeiliaid gwyllt yn ddigonol. Maent yn dioddef mewn amgylchiadau annaturiol, lle na ellir bodloni eu hanghenion am ysgogiad corfforol a meddyliol. A hynny heb ystyried effeithiau teithio. Nid yw bywyd i'r anifeiliaid hyn yn werth ei fyw. Mae PETA hefyd wedi amlygu rhai arferion gwirioneddol ofnadwy wrth hyfforddi'r anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir yn y syrcasau hyn. Ar ben hynny, cedwir yr anifeiliaid yn yr amgylchiadau hyn—fel y mae Aelodau Cynulliad eraill wedi nodi eisoes—er ein hadloniant hunanol ein hunain yn unig. Mae'r rhain yn bwyntiau a glywais gan fy etholwyr, a chredaf eu bod yn hollol iawn.
Yn olaf, hoffwn wneud y pwynt ei bod hi'n hen bryd cael y gwaharddiad hwn. Mae'n braf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio'n fawr y gellir cyflymu hyn. Rwy'n cytuno gyda Simon Thomas, a ddywedodd y gellid cyflwyno gwaharddiad o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, neu'n wir drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Os edrychwn ar yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, maent eisoes wedi cyflwyno'r gwaharddiadau hyn. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU i'w gweld yn cefnogi galwadau o'r fath. A hynny gan blaid a aeth i mewn i'r etholiad cyffredinol diwethaf yn cefnogi llacio'r rheolau ar hela llwynogod. Roedd gennym enw da iawn yn arfer bod yng Nghymru am arwain ar bolisïau lles anifeiliaid. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i'n cael yn ôl ar flaen y gad yn y maes polisi hwn.
Wrth i mi gloi, hoffwn sôn am Ysgol Gyfun Rhydywaun yn fy etholaeth, sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ranbarthol yn rhan o ddadl fawr RSPCA Cymru ar les anifeiliaid, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Aberdâr. Bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun yn trafod yr union bwnc hwn. Rwy'n dymuno lwc dda i'r ddwy ysgol. Ond hoffwn erfyn ar Lywodraeth Cymru i roi camau prydlon ar waith fel bod anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn ddim mwy na chwiw greulon yn ein gorffennol pell—fel baetio eirth ac ymladd ceiliogod—ac nid rhywbeth y mae'n rhaid i'n Cynulliad a'n hysgolion ddal ati i'w drafod.