Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 7 Mawrth 2018.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y ddeiseb hon, i bawb a'i llofnododd ac i RSPCA Cymru am arwain ar y ddeiseb. Rwy'n llwyr gefnogi'r ddeiseb, fel y mae bron i dri chwarter y cyhoedd yng Nghymru. Mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt er pleser pobl yn farbaraidd ac angen ei wahardd cyn gynted â phosibl.
Diolch byth, dwy syrcas yn unig yn y DU sydd â thrwyddedau anifeiliaid gwyllt, syrcas Mondao a syrcas Peter Jolly. Rhyngddynt, mae ganddynt 19 o anifeiliaid: chwe charw Llychlyn, pedwar sebra, tri chamel, tri racŵn, un llwynog, un macaw ac un sebu. Yn Lloegr, rhaid cael trwydded ar gyfer anifeiliaid gwyllt ond nid oes unrhyw gyfraith i atal syrcasau rhag defnyddio rhai mathau o anifeiliaid. Yng Nghymru, nid oes gofyniad trwyddedu. Ac nid oes dim i atal Cymru rhag dod yn domen ar gyfer anifeiliaid syrcas y deddfwyd yn erbyn eu cadw mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Ar ddechrau'r flwyddyn, Iwerddon oedd yr ugeinfed wlad yn yr UE i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Mae'n hen bryd inni weithredu gwaharddiad tebyg. Sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i anifeiliaid gael eu gorfodi i wneud triciau na fyddent yn eu gwneud mewn bywyd gwyllt? Sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i'r creaduriaid mawreddog hyn gael eu cam-drin o adeg eu geni a'u gorfodi i deithio mewn amodau cyfyng ac anaddas? A sut y gallwn gyfiawnhau caniatáu i anifeiliaid, a ddylai fod yn rhydd, fyw mewn caethiwed a chael eu troi ymaith neu'n waeth byth, eu lladd, pan na allant ddiddanu'r cynulleidfaoedd mwyach?
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn addo gwaharddiad ers blynyddoedd lawer ac yn awr maent yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad yn y pum mlynedd nesaf. Ni allwn aros mor hir â hynny. Mae angen inni wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau heddiw. Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf pan ddywedodd ei bod yn ystyried cyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer gwahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae'n bryd gweithredu yn awr. Mae RSPCA Cymru wedi amlinellu sut y gellir defnyddio adran 12 o'r Ddeddf lles anifeiliaid i gyflwyno gwaharddiad o'r fath heb orfod cael deddfwriaeth newydd. Defnyddiwyd y Ddeddf lles anifeiliaid i arwain y ffordd ar wahardd coleri sioc drydanol. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddefnyddio'r Ddeddf i roi diwedd ar greulondeb barbaraidd gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio mewn syrcasau. Rwy'n annog yr Aelodau nid yn unig i gefnogi'r cynnig ger eu bron heddiw, ond i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar frys, mor fuan ag sy'n bosibl. Rwy'n annog y cyhoedd yng Nghymru i ddal i bwyso am waharddiad. Gadewch inni sicrhau na fydd yn rhaid inni aros am bum mlynedd cyn i Lywodraeth Cymru weithredu. Diolch yn fawr.