Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Mawrth 2018.
Diolch, Llywydd. Bydd yr holl Aelodau wedi eu dychryn gan yr ymosodiad asiant nerfol diweddar yn Nghaersallog. Mae'n ymddangos mai'r farn gyffredinol yw bod y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe rhwng Jeremy Corbyn a Phrif Weinidog y DU ymhell islaw lefel y digwyddiadau. Dywedodd Chris Leslie, cyn Ganghellor yr wrthblaid dros y blaid Lafur, nad oedd yn briodol gwneud pwyntiau gwleidyddol pleidiol pan fo'n gwlad o bosibl yn destun ymosodiad.
Dywedodd AS Llafur arall, John Woodcock,
Byddai'n rhoi ein diogelwch cenedlaethol mewn perygl sylweddol pe byddem ni'n cael ein harwain gan unrhyw un nad oedd yn deall difrifoldeb bygythiad Rwsia i'r wlad hon.
A yw'r Prif Weinidog yn credu bod Jeremy Corbyn yn unigolyn o'r math hwnnw?