Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:47, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i yma i ateb dros unrhyw un arall, ddim mwy, rwy'n siŵr, nag y mae ef yma i esbonio sut y mae Nigel Farage yn credu bod cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau yn bosibl mewn 48 awr, sef yr hyn a ddywedodd ddoe. Mae hwn yn fater difrifol iawn. Mae gennym ni bobl sydd wedi cael eu heffeithio'n ofnadwy, mae gennym ni swyddog heddlu sydd wedi cael ei effeithio'n ofnadwy. Yn ffodus, mae'n ymddangos fel pe byddai'n gwella. Wrth gwrs mae angen ymchwiliad llawn, a bydd gan yr awdurdodau ymchwilio gefnogaeth, rwy'n siŵr, gwleidyddion, nid yn unig yn San Steffan, ond gwleidyddion ar bob ochr yn y Siambr hon.