Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 13 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu, o ran y mater o bleidleisio electronig, fod y mater o ddiogelwch yn un pwysig. Nid oes gennym ni sefyllfa yn y wlad hon lle mae'n rhaid i bobl ddangos prawf adnabod pan eu bod yn pleidleisio, ac rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i hynny fyth ddigwydd yn y dyfodol. Felly, pan ddaw i bleidleisiau post a phan ddaw i bobl yn pleidleisio yn bersonol, rwy'n credu bod gennym ni system mor gadarn ag y gallwn ni ei chael. Nawr, mewn egwyddor, rwyf o blaid y syniad o bleidleisio electronig, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y diogelwch yn bodoli eto i wneud yn siŵr bod y system honno'n gadarn, ac rwy'n credu mai dyna lle mae angen i ni fynd. Felly, ni fyddwn i'n gwrthwynebu pleidleisio electronig yn y dyfodol, ond rwy'n credu y byddai angen argyhoeddi'r cyhoedd, yn enwedig yn y byd sydd ohoni, na fyddai unrhyw siawns y byddai systemau yn cael ei hacio neu, yn wir, unrhyw siawns o rywun yn esgus bod yn bleidleisiwr arall. Dyna lle, yn fy marn i, y mae angen gwneud y gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.