Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Mawrth 2018.
Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud yn eich ateb, mae diwygio llywodraeth leol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd—neu bydd yn destun ymgynghoriad. Ond seiliwyd y newidiadau i ffiniau PABM ar un awdurdod lleol yn dweud ei fod eisiau newid i gyd-fynd yn well â'i wasanaethau. A ydych chi'n meddwl ei bod hi'n ddoeth nawr mewn gwirionedd i fwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau o ran y newid i'r ffin honno tra ein bod ni'n aros am yr ailystyriaeth o ddiwygio awdurdodau lleol, ac felly y dylid ei ohirio nawr tra bod diwygio awdurdodau lleol yn cael ei ystyried?