1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Mawrth 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51912
Wel, mae adolygiad annibynnol yn ystyried swyddogaeth cynghorau cymuned a thref yn y dyfodol a'r hyn y mae angen iddo fod ar waith i'w galluogi i gyflawni'r swyddogaeth honno, a bydd yn adrodd yn ddiweddarach eleni.
Diolch. Dros y saith mlynedd diwethaf, codwyd llawer o bryderon gyda mi ynghylch swyddogaethau'r cynghorau cymuned a thref, ac rwyf i hefyd wedi eu codi nhw yma yn ystod y cyfnod hwnnw. Bu dau adolygiad arall, felly rydym ni'n canfod ein hunain yng nghanol adolygiad wrth symud ymlaen.
Nawr, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod 65 o gynghorau cymuned nad ydynt hyd yn oed wedi mabwysiadu cod ymddygiad i'w haelodau eto—ni all 99 gynnig tystiolaeth eu bod nhw'n cadw ac yn cyhoeddi cofrestr o fuddiannau. Methodd wyth deg wyth â chydymffurfio â'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi cyfrifon wedi eu harchwilio, cyflwynodd 260 ddatganiadau blynyddol a oedd yn anghyflawn neu'n cynnwys gwallau syml, ac nid oes gan 108 wefan ac nid ydynt wedi gwneud trefniadau eraill i gyhoeddi gwybodaeth, ac rydym ni'n gwybod bod 81 y cant o seddi cynghorau tref a chymuned yn ddiwrthwynebiad neu'n wag y llynedd.
Nawr, rwyf i a llawer o bobl eraill o'r farn bod cynghorau cymuned yn lefel bwysig iawn yn ein pum haen, ar hyn o bryd, o lywodraethu democrataidd. Sut gallwn ni fod yn sicr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n dangos rhyw fath o gyfranogiad yn hyn ac y bydd yr adolygiad hwn wir yn darparu ffordd newydd o symud ymlaen i'n cynghorau cymuned fel y gall ein trigolion a'n cynghorwyr cymuned fod yn dawel eu meddwl bod yr holl brosesau perthnasol hynny ar waith o ran tryloywder, atebolrwydd democrataidd a gonestrwydd ariannol?
Wel, fel rhywun a oedd yn gynghorydd cymuned ar un adeg, beth amser yn ôl, gwn pa mor bwysig yw cynghorau cymuned. Rwy'n credu bod sawl mater yn y fan yna y mae'r Aelod yn eu codi y bydd angen eu hystyried yn rhan o'r broses. Yn gyntaf oll, mae gennym ni lawer o gynghorau cymuned. Ceir 700 ohonyn nhw. Maen nhw'n amrywio'n eang o ran maint. Mae rhai yn cynrychioli fawr mwy na 100 o bobl, eraill miloedd lawer o bobl. Nid wyf i'n meddwl ei bod hi'n realistig i ni ddisgwyl yr un peth gan bob un ohonynt, o ystyried eu gwahaniaethau o ran maint. Er enghraifft, ceir gwahaniaeth enfawr o ran maint rhwng Cyngor Tref y Barri o'i gymharu â Chyngor Cymuned Merthyr Mawr yn fy rhan i o'r byd, a cheir rhai rhannau o Gymru, y Rhondda, er enghraifft, lle nad oes unrhyw gynghorau cymuned o gwbl. Felly, yn rhan o'r adolygiad, rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig edrych ar niferoedd, edrych ar gapasiti, edrych ar sut y gallwn ni roi mwy o bwerau i gynghorau tref a chymuned—gallai fod yn anghymesur, oherwydd y gwahaniaeth o ran maint—a sut y gallwn eu grymuso yn y dyfodol. Bydd hyn i gyd yn ffurfio, mae yn ffurfio, rhan o'r adolygiad sy'n symud ymlaen.
Rwy'n credu fy mod i'n iawn yn dweud—bydd yr Aelod dros Drefynwy yn fy ngoleuo ar hyn—ceir un Cyngor Cymuned, rwy'n credu, yn Sir Fynwy lle mae'n rhaid i un o bob wyth o'r boblogaeth yn llythrennol fod yn aelodau o'r cyngor er mwyn i'r cyngor gael cwota llawn o aelodau. Dyna ddywedwyd wrthyf i. Wel, o dan yr amgylchiadau hynny, mae'n hynod anodd cael sefyllfa lle ceir cystadleuaeth am bob sedd. Ac mae'n iawn i ddweud, mewn democratiaeth fywiog—nid ar sail pleidiau gwleidyddol o reidrwydd, ond, mewn democratiaeth fywiog, eich bod chi eisiau cymaint â phosibl o bobl i sefyll etholiad i gynghorau cymuned.
Prif Weinidog, yn Nhaf Elái a Phontypridd, wrth gwrs, mae gennym ni chwech o gynghorau cymuned ardderchog sy'n cael eu rhedeg yn dda iawn sydd wedi gwneud y cyflwyniad hwn tuag at yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill—Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Pontyclun, Pontypridd, Ffynnon Taf a Nantgarw, a Thonyrefail. Maen nhw wedi cyflwyno nifer o argymhellion o ran sut y maen nhw'n gweld swyddogaeth cynghorau cymuned yn datblygu. Rwy'n mynd i ofyn i chi am un o'r rheini, oherwydd un o'r pethau y maen nhw'n eu hawgrymu yw ei bod yn bosibl iawn y gallai cynghorau tref a chymuned sy'n cael eu rhedeg yn dda fod yn hwyluswyr effeithiol iawn ar gyfer prosiectau treftadaeth, chwaraeon a diwylliannol lleol. A ydych chi'n meddwl bod hwn yn faes y dylem ni fod yn ei archwilio o ran cynghorau cymuned yn cymeradwyo, yn cefnogi ac yn cynnal y gymuned leol, y dreftadaeth leol, lle mae ganddyn nhw wybodaeth lawr gwlad wirioneddol?
Yn sicr. Rwy'n credu bod cynghorau tref a chymuned gweithgar a gweithredol yn rhan eithriadol o bwysig o'n democratiaeth. Ni ellir tanbrisio gwybodaeth leol. Er enghraifft, pan oeddwn i'n gynghorydd cymuned, roedd gennym ni bobl yno â gwybodaeth drwyadl am lwybrau troed lleol. Roeddem ni'n gyfrifol amdanyn nhw ac roedden nhw'n cael eu cynnal o ganlyniad i hynny. Roedd y gymuned yn teimlo'n dda iawn am hynny, gan eu bod yn gallu gweld y llwybrau troed yn cael eu cynnal a'u cadw. Felly, mae'n bwysig gweld beth allwn ni ei wneud, yn gyntaf oll, i sicrhau cysondeb o ran cynaliadwyedd y cynghorau cymuned a thref, ac edrych wedyn i weld pa bwerau y gellir eu rhoi iddynt—fel y dywedais, mae'n siŵr y bydd gwahaniaethau mawr o ran maint—i weld pa bwerau sy'n briodol ar gyfer pa bynnag faint o gyngor cymuned neu dref y gallen nhw fod.