Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 13 Mawrth 2018.
Os ydym am fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu, mae'n rhaid inni gydnabod bod yn rhaid i dirweddau dynodedig wneud mwy i nodi, diogelu a gwireddu'r manteision sy'n deillio o'r nwyddau cyhoeddus y maent yn eu amddiffyn ar gyfer holl bobl Cymru. A phan wyf yn dweud, 'ar gyfer holl bobl Cymru', rwy'n golygu ar gyfer holl bobl Cymru; rwy'n awyddus i weld trawstoriad mwy amrywiol ac eang o gymdeithas yng Nghymru yn teimlo bod ganddyn nhw gyfran yn y tirweddau cenedlaethol pwysig hyn ac yn adnabod y manteision a gawn yn eu sgil.
Rwyf wedi gallu gweld â'm llygaid fy hun sut y gall hyn ddigwydd. Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gorwedd ar fin fy etholaeth i a, chyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cefnogi'r prosiect Actif Woods. Mae'r bartneriaeth hon gyda'r Gymdeithas Alzheimer a Macmillan wedi defnyddio gweithgareddau coetir ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl agored i niwed na fydden nhw wedi cael y cyfle fel arall i ymgysylltu â'r tirlun hwn. Dim ond un enghraifft yw hon o ystod eang o gyfleoedd y gellir eu gwireddu a phwysigrwydd cyfraniad yr amgylchedd i'n hiechyd a'n ffyniant fel cenedl.
Fe all, ac fe fydd yn rhaid i holl barciau ac AHNE wneud mwy i estyn allan y tu hwnt i'w cynulleidfa draddodiadol a gwireddu eu llawn botensial. Yn y cyd-destun hwn yr wyf wedi ystyried y cynigion a geir yn Marsden a 'Thirweddau'r Dyfodol', ac rwyf wedi seilio fy ystyriaeth ar dair egwyddor. Yn gyntaf, mae'n rhaid i unrhyw gynigion beidio â thanseilio safon y warchodaeth a roddir i'r tirweddau gwerthfawr hyn a dylent ddarparu ar gyfer mwy o gydraddoldeb rhwng yr AHNE a'r Parciau Cenedlaethol. Yn ail, dylai unrhyw newid leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau a phartneriaethau, gan eu galluogi i ganolbwyntio eu hegni a'u hadnoddau ar gyflawni. Yn drydydd, dylen nhw fynd ati'n barhaus i gynnal datblygiad cydweithrediad effeithiol.
Prif destun y sylwadau a ddeilliodd o'r adolygiad ydoedd pa un a ddylid newid dibenion statudol tirweddau dynodedig Cymru ai peidio. Mae hyn wedi arwain at ddadl sylweddol ar swyddogaeth egwyddor Sandford, sydd yn gymwys i barciau cenedlaethol yn unig, yn rhoi uchafiaeth i gadwraeth harddwch naturiol pe byddai unrhyw wrthdaro rhwng hynny â hybu mwynhad o nodweddion arbennig y parciau. Mae'r ddadl wedi canolbwyntio ar berthnasedd parhaus yr egwyddor hon yng nghyd-destun ein fframwaith cyfreithiol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'r egwyddorion ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Bu cefnogaeth eang yn ystod yr adolygiad i uchelgais Cymru o sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy o fewn y ddeddfwriaeth, a chydnabyddir ei bod ar flaen y gad yn hynny o beth ar lefel fyd-eang. Mae tirweddau dynodedig yn y sefyllfa orau i ddatblygu hyn yn eu hardaloedd. Mae gan dirweddau dynodedig amrywiaeth fawr o adnoddau naturiol. Mae ganddyn nhw hefyd arbenigedd, profiad a cysylltiadau helaeth â chymunedau buddiant, gan gynnwys pobl sy'n byw ac yn gweithio y tu mewn i'w ffiniau. Fodd bynnag, nid chafwyd unrhyw gonsensws o ran pa un a oes angen newid dibenion Parciau neu AHNE er mwyn cyflawni hyn.
Er nad wyf i'n dibrisio arwyddocâd diben economaidd newydd, nid wyf wedi gweld digon o dystiolaeth bod y dibenion presennol yn rhwystr i ddarpariaeth ymarferol. Am y rheswm hwnnw, ac o ystyried y cyd-destun ansicr, nid wyf yn barod i fynd ar drywydd newid o'r fath ar hyn o bryd heb gefnogaeth ehangach. Gan hynny, rwy'n bwriadu cadw dibenion presennol parciau cenedlaethol, ynghyd â'r egwyddor Sandford a chadw diben presennol yr AHNE. Nid yw hyn yn golygu nad oes angen i awdurdodau'r parciau neu bartneriaethau AHNE fynd ar drywydd gweithgarwch sy'n cynorthwyo cydnerthedd cymdeithasol ac economaidd cymunedau yn eu hardaloedd. Fe ddylen nhw wneud hynny, ac nid oes rhwystr rhag iddynt wneud hynny o fewn eu diben presennol. Wedi dweud hynny, mae angen gwella'r cysylltiad rhwng y dibenion presennol, gan gynnwys cadwraeth bioamrywiaeth a'r fframwaith o fewn Deddf yr amgylchedd. I gyflawni hyn, fy mwriad yw cyflwyno deddfwriaeth rywbryd eto i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau'r parciau a'r AHNE i gymhwyso egwyddorion rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol, yn arbennig wrth baratoi eu cynlluniau rheoli statudol.
Hoffwn hefyd weld cryfhâd yn statws cynlluniau rheoli, a'r gwaith o graffu arnynt, gan ei gwneud yn ofynnol i'r cynlluniau nodi'r nodweddion arbennig. Credaf y bydd y dull hwn yn alinio'r parciau a'r AHNE â'n deddfwriaeth ni yma yng Nghymru, a'r rhwymedigaethau rhyngwladol y mae'n deillio ohonynt, mewn ffordd sy'n dod â nhw yn gwbl gydnaws â'r ddealltwriaeth gyfoes o ecosystemau a thirweddau, a hynny gan barhau i gydnabod gwerth parhaus eu diben gwreiddiol. Bydd yn cryfhau pwysigrwydd y nodweddion arbennig wrth wneud penderfyniadau ynghylch holl weithgareddau parciau cenedlaethol ac AHNE.
Gyda setliad ariannol anodd i'w reoli, rwy'n cydymdeimlo â'r ddadl a gyflwynwyd gan awdurdodau'r parciau i leihau eu costau gweinyddu, ac rwyf yn bwriadu tynnu rhywfaint o'r baich hwn oddi arnynt cyn belled ag y bo'n gyson â llywodraethu da. Yn ogystal â hynny, byddaf yn cefnogi eu hymdrechion i gael y refeniw mwyaf o weithgarwch masnachol priodol. Gall ein Parciau Cenedlaethol wneud mwy i estyn allan heb gyfaddawdu ar eu hegwyddorion.
Ceir cydraddoldeb bras rhwng yr AHNE a'r Parciau Cenedlaethol o ran polisi cynllunio, ond mae yna ddiffyg pan ddaw i statws, proffil ac adnoddau. Mae Marsden a 'Thirweddau'r Dyfodol' fel ei gilydd yn sylwi ar hyn. Er fy mod yn cydnabod y gall hyblygrwydd o ran llywodraethu a phartneriaethau gydag AHNE fod yn gryfder, y mae hefyd yn wendid posibl o ran stiwardiaeth y tirweddau hyn, sydd yr un mor werthfawr. Rwy'n bwriadu parhau i drafod ag AHNE ar yr hyn y gellir ei wneud yma. Fy mwriad yn yr ychydig fisoedd nesaf yw nodi'r manylion ar wella cyflawniad ac atebolrwydd mewn ffyrdd sy'n gyson â Deddf yr amgylchedd a'r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol yng Nghymru.
Mae'r broses adolygu wedi ymgorffori ffordd newydd o weithio rhwng parciau, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a rhanddeiliaid, ac maent erbyn hyn yn rhannu dealltwriaeth lawer gwell o'r heriau a'r blaenoriaethau y gallant helpu i fynd i'r afael â nhw drwy weithio gyda'i gilydd, gan fanteisio'n arbennig ar y profiad sydd gan y naill a'r llall i atal y dirywiad ym myd natur, gan gydnabod yr angen am wydnwch economaidd yn ein cymunedau gwledig.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r parciau cenedlaethol yn cael eu gwerthfawrogi am eu harddwch naturiol gan ein pobl, ein cymunedau a'n gwlad, a bod ein tirweddau dynodedig yn darparu ecosystemau cyfoethog, cymunedau bywiog a gwydn, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored ar gyfer holl bobl Cymru. Diolch yn fawr.