Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Mawrth 2018.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n falch o gael ymateb i'r datganiad hwn, fel aelod y mae ei etholaeth yn gorwedd yng nghalon ardal parc cenedlaethol arfordir Penfro. Mae tirweddau dynodedig Cymru yn fannau disglair o harddwch naturiol a chadwraeth. Maen nhw'n gyrchfannau i filiynau o ymwelwyr, yn hyrwyddo a gwarchod ein diwylliant, yn helpu i feithrin cymunedau mwy cydlynol, ac yn chwarae rhan sylweddol wrth greu Cymru fwy iach a gwydn, fel yr amlinellir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Gan hynny, mae'n hollbwysig bod y gwaith o'u rheoli a'u goruchwylio yn cael ei ystyried yn ofalus, a bod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen mewn cydweithrediad â'r tirweddau hyn a'r cymunedau oddi mewn iddynt.
Nawr, mae'r datganiad heddiw yn cydnabod yn gywir y bu tirweddau dynodedig mewn cyflwr o adolygiad ers 2013, ac felly mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyflwyno cynlluniau i reoli'r tirweddau hyn. Mae'n siomedig nad yw datganiad Llywodraeth Cymru yn gwneud dim mwy na chadarnhau y bydd datganiad arall yn cael ei gyhoeddi ymhen ychydig fisoedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Gweinidog yw hyn: pam y mae'r broses hon yn cymryd cymaint o amser, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw'r adolygiad parhaus o'r tirweddau dynodedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud dim i'w helpu i gynllunio a chydgysylltu eu gweithgareddau i'r tymor canol a hwy?
Wrth gwrs, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau o leiaf y bydd egwyddor Sandford yn parhau i gael ei chymhwyso ar draws yr holl dirweddau dynodedig am y tro. Mae'r pryder ynghylch cael gwared ar yr egwyddor Sandford wedi bod yn aruthrol ymysg rhanddeiliaid, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog gynnig rhywfaint o eglurhad o ran sefydlogrwydd egwyddor Sandford, fel y gall y rhanddeiliaid hynny fod yn hyderus na fydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried y mater hwn yn y dyfodol agos.
Mae datganiad heddiw yn cyfeirio hefyd at y dewis o gyflwyno deddfwriaeth pan ddaw cyfle i wneud hynny yn y dyfodol, i'w gwneud yn ofynnol i'r tirweddau dynodedig gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy. Felly, efallai wrth ymateb i'r datganiad hwn y bydd y Gweinidog yn cadarnhau pa amserlenni y mae hi yn eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth, ac a yw hi yn bwriadu dwyn ymlaen deddfwriaeth sylfaenol neu weithredu mesurau rheoliadol eraill i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Ystyriodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru y llynedd hefyd roi'r gallu i drefniadau llywodraethu adlewyrchu amgylchiadau lleol yn well, gan gynnwys amrywiaeth eang o fodelau cyflawni, fel partneriaethau a chyfrifoldebau dirprwyedig neu gyfrifoldebau a rennir. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r tirweddau dynodedig ymgysylltu â lefel o ymgynghori a chynrychiolaeth gymunedol, ac mae'n bwysig y bydd unrhyw drefniadau llywodraethu newydd yn gweithio ar gyfer pob ardal unigol ac nad ydynt yn ddull unffurf o weithredu ym mhob achos. Yng ngoleuni'r farn a fynegwyd gan randdeiliaid ar y mater penodol hwn, efallai gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa gynlluniau cychwynnol sydd ganddi i hwyluso'r ymgysylltiad lleol hwn ymhellach, ac efallai y gallai hi gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu system o ethol aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol yn uniongyrchol fel ffordd o atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol.
Mae datganiad heddiw hefyd yn cydnabod yr angen i gefnogi awdurdodau parciau cenedlaethol i leihau eu costau gweinyddu cyn belled ag y bo hynny'n gyson â llywodraethu da. Gan hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro sut y mae hi'n bwriadu mynd ati i leihau'r costau hyn, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol, a allai ychwanegu mwy o feichiau ar awdurdodau parciau cenedlaethol.
Nawr, roedd adolygiad Marsden hefyd yn argymell camau gweithredu o ran economïau'r tirweddau cenedlaethol. Er enghraifft, roedd yn argymell bod angen i dirweddau cenedlaethol ddeall eu heconomïau lleol a rhanbarthol yn well, ac yn enwedig eu heconomïau twristiaeth, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn cytuno'n llwyr ag ef. Yn fy ardal dirwedd ddynodedig fy hunan, mae'r diwydiant twristiaeth lleol ar hyn o bryd yn cynhyrchu dros £570 miliwn y flwyddyn ac mae'n sail i hyfywedd economaidd llawer o wasanaethau a busnesau lleol, sydd, yn ei dro, yn bwysig i gynaliadwyedd a lles cymunedau lleol. Yn wir, mae'r gadwyn gyflenwi honno o weithgarwch busnes yn elfen hanfodol o'r holl dirweddau dynodedig, ac felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am ei gweledigaeth ar gyfer economïau'r tirweddau dynodedig, a hefyd sut y mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â chonglfeini polisïau a rhaglenni eraill y Llywodraeth.
Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod yr heriau y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd eu cyflwyno i'n tirweddau dynodedig a'r cyfleoedd y gallai eu cyflwyno hefyd. Felly, fy nghwestiwn terfynol, Dirprwy Lywydd, yw gofyn pa asesiadau sydd wedi eu gwneud o effaith Brexit ar dirweddau dynodedig Cymru, ac a fyddai'r Gweinidog yn barod i rannu unrhyw ddata newydd ag Aelodau fel y gallwn ddeall cyfeiriad teithio Llywodraeth Cymru yn well.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i eto ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac ailadrodd, wrth symud ymlaen, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'n tirweddau dynodedig ac nid yn syml geisio gorfodi newid er ei fwyn ei hun yn unig? Mae pwysigrwydd ein tirweddau dynodedig yn hanfodol o ran ein hiechyd, ein haddysg a lles ein heconomi, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am weledigaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â thirweddau dynodedig wrth ddatblygu'r polisïau hyn. Diolch.