– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 13 Mawrth 2018.
Eitem 4 ar yr agenda ein yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddariad ar ymchwiliad y DU ar waed heintiedig. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y datganiad hwn ar ôl y datganiad ysgrifenedig ar 8 Chwefror eleni gan Swyddfa Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Rwy’n croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff yn Gadeirydd ymchwiliad y DU i sgandal gwaed heintiedig. Fel yr ydym i gyd yn ei wybod, roedd sgandal gwaed heintiedig yr 1970au a'r 1980au yn drasiedi na ddylai byth fod wedi digwydd ac na ddylai byth ddigwydd eto. Mae llawer o'r bobl yr effeithiodd hyn arnynt yng Nghymru wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed dros gynnal ymchwiliad ystyrlon. Mae Hemoffilia Cymru a grŵp trawsbleidiol y Cynulliad wedi cydweithio'n agos i gefnogi pawb sydd wedi dioddef hepatitis C a/neu HIV yma yng Nghymru ac maen nhw'n rhanddeiliaid allweddol i sicrhau y clywir lleisiau pobl yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.
Rwy’n falch o nodi, yn unol â dymuniadau'r bobl yr effeithiwyd arnynt, yr arweinir yr ymchwiliad gan farnwr. Bydd Ustus Langstaff yn Gadeirydd amser llawn ar yr ymchwiliad o 1 Mai eleni ymlaen, wedi iddo ymddeol o'r Uchel Lys. Fodd bynnag, mae eisoes wedi dechrau ar ei waith drwy ysgrifennu yr wythnos diwethaf at y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, eu teuluoedd a rhanddeiliaid eraill i ymgynghori ynglŷn â chylch gorchwyl yr ymchwiliad. Mae’r ymgynghoriad ynglŷn a chylch gorchwyl yr ymchwiliad nawr yn fyw ar wefan yr ymchwiliad. Y wefan yw www.infectedbloodinquiry.org.uk, ac mae pawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw neu unrhyw un sydd â barn yn cael eu hannog i ymateb. Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 26 Ebrill eleni.
Mae'n bwysig y bydd yr ymchwiliad yn arwain at adroddiad llawn o fewn yr amser byrraf posibl, gan ystyried yr angen am ofal a diwydrwydd priodol. Mae angen taro cydbwysedd a chyfaddawdu o ran cylch gorchwyl a hyd yr ymchwiliad.
Rwyf wedi ysgrifennu at Mr Ustus Langstaff i ailadrodd fy mhryderon blaenorol a phryderon y grŵp trawsbleidiol a Hemoffilia Cymru. Rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod i eisiau i’r bobl hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yng Nghymru fod yn sicr a theimlo’n ffyddiog y bydd yr ymchwiliad yn rhoi ystyriaeth lawn i’w tystiolaeth ac yn ateb eu cwestiynau hirsefydlog.
Ein disgwyliad ni ar y cyd yw y bydd casglu gwybodaeth a gwrando ar y dystiolaeth yn digwydd mewn mannau addas ym mhob gwlad yn y DU ac y bydd yr ymchwiliad yn ystyried unrhyw ofynion o ran y Gymraeg yn llawn wrth wneud hynny. Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn oedrannus ac yn fethedig, a gallai teithio i Lundain, er enghraifft, fod yn anodd ac yn anghyfleus, a pheri straen. Rwyf felly’n falch o glywed ei fod wedi cysylltu â holl dderbynwyr y cynllun yng Nghymru. Rwyf innau newydd gael copi o'r llythyr yn uniongyrchol ganddo hefyd. Bydd fy swyddogion i a staff ein gwasanaeth gwaed heintiedig Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i dîm yr ymchwiliad i sicrhau bod anghenion y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw yng Nghymru’n cael eu diwallu cystal â phosibl.
Tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt. Felly, mae'n amserol imi gymryd y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, neu’r WIBSS. Buom yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i gynllunio’r WIBSS a’i roi ar waith ym mis Tachwedd y llynedd. Cafodd y cynllun ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Ar ôl imi fod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod Julie Morgan, clywais yn uniongyrchol straeon personol y bobl a oedd yn bresennol. Mae hyn, ynghyd â digwyddiadau rhanddeiliaid ledled Cymru, wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o effaith y drasiedi ar fywydau pobl ac, mewn llawer o achosion, wrth gwrs, ar eu teuluoedd. Roedd hynny'n hanfodol wrth ddylanwadu ar natur a chwmpas ein trefniadau newydd. Mae ein cynllun yn darparu cymorth ychwanegol at gymorth ariannol i'r bobl yr effeithiwyd arnynt ac i'w teuluoedd. Mae adborth cynnar yn awgrymu bod hyn yn gwella ymdeimlad ein buddiolwyr o ddiogelwch, eu hansawdd bywyd a’u gofal ac maen nhw'n cael eu trin gyda'r urddas y mae ganddyn nhw'r hawl i'w ddisgwyl.
Mae cynghorwyr y WIBSS yn gallu eu cynorthwyo i fanteisio ar wasanaethau gofal iechyd a buddion ariannol a gwasanaethau cyhoeddus eraill priodol. Rydym wedi lleihau'r angen i dderbynwyr y cynllun wneud cais am arian dewisol drwy gynnwys symiau yn y taliadau rheolaidd tuag at gostau ychwanegol, fel costau tanwydd uwch yn y gaeaf, costau cysylltiedig â theithio ac unrhyw lety dros nos sydd ei angen wrth gael triniaeth, a chymorth gyda phremiymau yswiriant. Daeth hynny o wrando’n uniongyrchol ar bobl yr effeithiwyd arnynt yn ystod yr ymgynghoriad.
Mae'r cynllun hefyd yn darparu cymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar pan fo trallod ac anhawster ariannol yn debygol o fod ar eu gwaethaf. Nawr bod y cynllun yn cael ei weinyddu yng Nghymru, dylem ni allu cael gwell dealltwriaeth o anghenion yr unigolion yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir parhau i adolygu’r trefniadau’n rheolaidd.
Roedd hefyd yn glir iawn imi wrth gyfarfod ag unigolion a theuluoedd y bobl yr effeithiwyd arnynt bod ymchwiliad yn bwysig iawn iddynt. Roeddent wedi bod yn lobïo ers blynyddoedd lawer, yn unigol a drwy Hemoffilia Cymru a’n grŵp trawsbleidiol ni, ac, yn wir, grwpiau trawsbleidiol ar draws Seneddau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd, i gael y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Rwy’n gobeithio y gallant nawr gael rhywfaint o gysur o’r ffaith bod eu hymdrechion wedi dwyn ffrwyth a bod yr ymchwiliad y maen nhw wedi ymladd amdano ers amser maith yn mynd i ddigwydd. Hoffwn hefyd roi sicrwydd iddynt y byddaf yn dilyn hynt yr ymchwiliad yn agos ac y byddaf yn gofyn am sicrwydd bod barn y bobl yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru yn cael ei hystyried yn llawn.
Byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru'r Aelodau ymhellach pan fydd mwy o wybodaeth ar gael a phan fydd cytundeb ynglŷn â’r cylch gorchwyl.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae croeso mawr iddo, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r ymgyrchwyr sydd wedi gweithio mor galed i ddod â’r ymchwiliad hwn i fod, ac yn enwedig Hemoffilia Cymru a’r grŵp trawsbleidiol a arweinir gan Julie Morgan.
Mae gennyf gwpl o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn ichi ar ôl y datganiad hwn, oherwydd yn amlwg mae'n adeiladu ar y cwestiwn amserol a gawsom y llynedd. Rwyf mor falch o gynllun cymorth gwaed wedi'i heintio Cymru a’r hyn y mae’r staff sy'n gweithio i’r cynllun hwnnw’n gallu ei ddarparu. Efallai y cofiwch chi mai un o'r cwestiynau a ofynnais y llynedd oedd pa gymorth y byddwn ni'n gallu ei roi i bobl sy’n dymuno rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad—a fyddwch chi'n gallu ehangu eu cylch gwaith fel y bydd WIBSS hefyd yn gallu cefnogi'r bobl sy'n mynd atynt i fynd ymlaen i’r ymchwiliad hefyd? Oherwydd rwy’n siŵr, a dweud y gwir, bod yr holl fater o roi tystiolaeth i ymchwiliad, hyd yn oed os bydd hynny ar ein tir ni yma, yn mynd i fod yn eithaf trawmatig a chodi pob math o atgofion ofnadwy. Felly, tybed ai nhw fydd yn gallu darparu'r cymorth hwnnw?
Yn ein llythyr ar y cyd at Jeremy Hunt ar 19 Gorffennaf 2017, llythyr o dan eich arweiniad chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaethom ofyn pa gamau y byddai’n eu rhoi ar waith i sicrhau y bydd GIG Cymru, y GIG yn Lloegr a'r GIG ledled y DU yn cydweithredu'n llawn gyda'r ymchwiliad. Tybed a fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw gamau y gallwn ni eu cymryd yma yng Nghymru i sicrhau bod GIG Cymru yn cydweithredu ym mhob ffordd bosibl o ran rhoi tystiolaeth, dod o hyd i unrhyw lwybrau papur a allai fodoli, ac ati. Rwy’n gwybod mai newydd gael ei benodi y mae Mr Ustus Langstaff, ond a allwch chi ddweud a fydd ganddo bŵer ai peidio yn yr ymchwiliad hwn i orfodi tystion i ddod ymlaen i sicrhau y datgelir yr holl ddogfennau?
Mae fy mhwynt olaf yn un yr ydych chi wedi ei godi eich hun ynglŷn ag amseroldeb yr ymchwiliad. Byddwch chi'n gwybod bod ymchwiliad yr Arglwydd Morris o Fanceinion wedi cymryd dros ddwy flynedd. Tybed a allech chi ehangu ar yr hyn y byddech chi'n ei ystyried yn gyfnod rhesymol o amser, yn enwedig gan fod yr holl sgandal hwn, un o'r sgandalau gwaethaf a welodd y GIG erioed, dros 30 mlwydd oed, ac na all y bobl yr effeithiwyd arnynt aros yn ddiddiwedd i amser fynd heibio cyn cael y cyfiawnder sydd ei angen mor daer arnynt.
Diolch am eich holl sylwadau a chwestiynau. Rwy’n mynd i ddechrau â’ch un cyntaf ynghylch sut y gellir cefnogi pobl i roi tystiolaeth. Ni chafodd cynllun gwaed heintiedig Cymru ei sefydlu’n benodol i gynorthwyo pobl i roi tystiolaeth i ymchwiliad, ond rwy’n meddwl bod angen inni ystyried anghenion pobl y bydd angen iddynt roi tystiolaeth a ble y gallant roi’r dystiolaeth honno. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw bod yr ymchwiliad yn gweithredu ar sail lle bydd yn cymryd tystiolaeth ledled gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig i'w gwneud yn haws i bobl gymryd rhan.
I fod yn deg, nodais yn gynharach fy mod wedi cael ymateb gan Mr Ustus Langstaff i fy llythyr cynharach ac rwy’n meddwl ei fod yn adeiladol. Rwy’n meddwl ei fod yn awgrymu y byddant yn ystyried sut i ddiwallu nid dim ond gofynion iaith pobl o Gymru, ond, yn benodol, yn sicrhau sut y byddant yn clywed gan bobl yn y gwledydd datganoledig, ac yn meddwl am sut i wneud hynny tra'n ystyried y cylch gorchwyl. Felly, mae'n—. Yn sicr, dydy’r llythyr ddim yn cau'r drws drwy ddweud, 'Na, rhaid i bawb deithio i fan canolog,' ac rwy’n meddwl bod angen inni barhau i fynd ar drywydd hynny. Mae hefyd wedi nodi yr hoffai gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol yn y lle hwn, ac rwy’n meddwl bod hwnnw'n gynnig defnyddiol ac adeiladol iawn gan y Cadeirydd yn ogystal. Rwy’n gobeithio y byddai cadeirydd y grŵp trawsbleidiol—rwy’n disgwyl—yn croesawu hynny hefyd.
Felly, mae angen inni ystyried gydag unigolion, ond hefyd gyda Hemoffilia Cymru, y grŵp cymorth mwyaf, beth yw’r ffordd orau inni gydweithio i gefnogi unigolion. Felly, nid wyf am ddiystyru dim byd, ond, yn yr un modd, nid wyf am roi ymrwymiad penagored na fyddaf efallai’n gallu ei gyflawni. Ac, a dweud y gwir, rwy’n meddwl mai’r peth gorau yw gwneud yn siŵr bod yr ymchwiliad yn symud o gwmpas y wlad i'w gwneud yn haws i bobl fod yn bresennol yn y lle cyntaf.
Cyfeiriasoch at y llythyr â chymeradwyaeth drawsbleidiol a aeth o'r blaen i Jeremy Hunt. Rwy’n meddwl bod hwnnw’n ddefnyddiol i ailadrodd bod hon yn ymgais drawsbleidiol ddiffuant i gael y gwir. Yn hynny o beth, rydym wedi nodi bod GIG Cymru wedi cydweithredu, ac nid yw'r sefyllfa honno wedi newid. Rwy’n disgwyl i GIG Cymru gydweithredu. Os oes unrhyw fater penodol am wybodaeth yn cael ei ddarparu, byddaf yn sicr yn ystyried gallu’r Llywodraeth i gyfeirio gwybodaeth i’w darparu, ond nid wyf yn rhagweld dim rhwystrau sefydliadol i ddarparu tystiolaeth ddogfennol. Yn wir, byddai hynny'n cynnwys dogfennau a gadwyd gan y Llywodraeth. Rwy’n meddwl, yn y gorffennol, er enghraifft, bod newyddiadurwyr wedi cael gweld dogfennau sy’n bodoli ac sy’n cael eu cadw gan y Llywodraeth ac na wnaethant ddod o hyd i ddim byd o ddiddordeb arbennig, ond mae’r mynediad yno ac mae ar gael. Ac mae hynny’n cyfrannu at rai o'r pwyntiau am y cylch gorchwyl a beth sy’n amserlen resymol.
O ran gorfodi tystion, rwyf ar ddeall bod gan y barnwr sydd wedi’i benodi o dan yr ymchwiliad y gallu i orfodi tystion. Ond mae cysylltiad rhwng y cylch gorchwyl a'r amserlen, oherwydd bydd y sgwrs am yr hyn y bydd y termau’n ei gwmpasu’n helpu i benderfynu beth sy'n debygol o fod yn gyfnod rhesymol. A bydd gwahaniaethau barn. Byddai’n well gan rai pobl weld ymchwiliad byr a miniog sy'n canolbwyntio ar un neu ddau o faterion i gael y gwir yn gyflym. Wedi'r cyfan, mae hyn wedi bod yn digwydd ers amser maith ac efallai na fydd rhai pobl eisiau amser hir o fynd dros hanes sy’n boenus ac yn anodd. Efallai yr hoffai rhai pobl weld ymchwiliad yn ffurfio casgliad yn ystod eu bywydau. A bydd eraill yn dweud 'Rhaid ichi gynnal yr ymchwiliad llawnaf posibl, ac os yw hynny'n cymryd mwy o amser, wel dyna ni.' Dyna pam mae’r ymgynghoriad am y cylch gorchwyl yn wirioneddol bwysig, ac wrth ofyn y cwestiynau hynny—. Efallai nad ydych wedi cael cyfle i edrych ar y wefan, ond rwy’n meddwl mai un peth sy’n gymorth mawr yw mai ei bwriad yw canolbwyntio meddyliau pobl ar beth i’w ofyn a pham, ac mae'n rhoi’r syniad i bobl y bydd ymchwiliad â mwy o bwyslais yn gallu bod yn fyrrach, ond y bydd ymchwiliad ehangach yn gorfod bod yn hirach. Felly, mae angen i bobl feddwl am yr hyn sydd bwysicaf iddynt wrth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, ac wrth helpu i lunio’r cylch gorchwyl. Ond rwy’n meddwl bod y ffaith bod cadeirydd yr ymchwiliad yn dechrau â’r meddwl agored hwnnw ac yn gofyn i bobl beth yw eu barn yn arwydd da o'r ffordd y dylem ddisgwyl i’r ymchwiliad gael ei gynnal.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yna. Mi hoffwn innau ddatgan fy niolch a'm edmygedd i'r grŵp o ymgyrchwyr sydd wedi bod mor ddygn dros gyfnod llawer rhy hir yn cyflwyno'u dadl efo penderfynoldeb ac urddas y dylid cael yr ymchwiliad rydyn ni ar fin ei gael. Mi rydw i wedi dod i nabod sawl un ohonyn nhw drwy'r grŵp trawsbleidiol. Mi liciwn i dalu teyrnged i'r unigolion hynny sydd wedi siarad drwy eu poen oherwydd yr hyn maen nhw wedi byw drwyddo fo dros y degawdau diwethaf. Mi wnaf enwi Lynne Kelly yn benodol am y gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud yn arwain a chydlynu'r ymgyrch. Ac rwy'n falch eich bod chi fel Ysgrifennydd Cabinet wedi gallu dod i, o bosib, y cyfarfod lle daeth y mwyaf o unigolion iddo fo, a lle roedd y neges mor glir fel na allech chi fel Ysgrifennydd Cabinet beidio ag ymuno a bod yn gefn iddyn nhw yn eu hymgyrch. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithredu yn drawsbleidiol, nid yn unig drwy'r grŵp trawsbleidiol, ond hefyd chithau a ninnau fel llefaryddion yn siarad ag un llais.
Hefyd, mae'n werth pwysleisio bod y grŵp trawsbleidiol yma yn y Cynulliad wedi bod yn benderfynol o'r cychwyn, oherwydd arweiniad yr ymgyrchwyr, y dylid cael aelod o'r farnwriaeth—y dylid cael barnwr yn arwain yr ymchwil. Nid oedd eraill yn meddwl bod hynny'n gwbl bwysig. Rwy'n siŵr bod rhesymau da iawn ganddyn nhw dros gymryd barn wahanol, ond mi roedd yr ymgyrchwyr yma yng Nghymru yn benderfynol, ac mi roeddwn i'n falch o glywed y datganiad ynglŷn â phenodiad Mr Justice Langstaff.
Dau gwestiwn. Yn gyntaf, a ydych chi fel Llywodraeth yn mynd i ystyried eich hunain yn rhanddeiliaid yn y broses sy'n digwydd rŵan? Oherwydd mae eisiau i'r rhanddeiliaid i gyd, yn cynnwys, rwy'n gobeithio, Llywodraeth Cymru, a ninnau fel Aelodau o'r Senedd yma, drio cyfrannu at y gwaith a fydd yn mynd ymlaen drwy'r ymchwiliad. Ac mi hoffwn i weld sut fyddwch chi'n bwydo i mewn i'r gwaith o helpu'r barnwr Mr Justice Langstaff i lunio'r cylch gorchwyl.
Ac o ran y cylch gorchwyl ei hun, un cwestiwn penodol: a ydych chi'n credu y dylid edrych y tu hwnt i'r hyn ddigwyddodd yn ôl yn y 1970au a'r 1980au, sef gwraidd y sgandal? Oedd, mi roedd hi'n sgandal beth ddigwyddodd bryd hynny o ran heintio gwaed, ond mae wedi bod yn sgandal, wrth gwrs, sut rydym ni wedi gallu peidio â dod at y pwynt yma tan y flwyddyn 2018. Felly, mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod sut rydych chi am drio dylanwadu fel Llywodraeth ar ffurfio'r cylch gorchwyl yna. Ond, unwaith eto, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, ac mae'r ymgyrchwyr yng Nghymru yn cadw'r maen i'r wal ac yn cadw'r pwysau ymlaen wrth iddyn nhw chwilio am yr atebion maen nhw'n eu haeddu.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn wir, bûm yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol, ac roedd llawer o bobl yno i adrodd eu straeon. Fel y nodais yn fy natganiad, cyfarfûm hefyd â nifer o randdeiliaid Hemoffilia Cymru ddwywaith yn fy swyddfa yn ystod y trafodaethau a arweiniodd at greu cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru. Felly, rydym wir wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud, ac fel y nodais, daeth y cynllun sydd gennym heddiw yng Nghymru o wrando ar bobl. Cawsom gynigion cychwynnol a newidiodd y rheini yn ystod yr ymgynghoriad, am ein bod wedi gwrando a newid y ffordd y byddai’r cynllun hwnnw’n defnyddio arian, oherwydd roedd y rhan fwyaf o'r teuluoedd unigol yr effeithiwyd arnynt yn meddwl bod ffordd fwy priodol o flaenoriaethu defnyddio arian. Felly, rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig am sut y mae Llywodraeth yn disgwyl ymddwyn, sut y mae GIG Cymru yn disgwyl ymddwyn a sut yr hoffem hefyd i’r ymchwiliad ymddwyn, yn ogystal â drwy fynd ati i wrando ar farn teuluoedd a gweithredu arni. Am wn i, mae hyn yn ymwneud â’r hyn a ddywedais wrth Angela Burns fod y Llywodraeth yn barod i wneud yn siŵr y darperir gwybodaeth, os gofynnir inni amdani, ac mae hynny hefyd yn wir am y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ond hefyd ein cyfraniad at yr ymchwiliad i geisio gwneud yn siŵr bod y ffordd y cynhelir yr ymchwiliad—i wneud yn siŵr ei fod wir yn rhoi cyfleoedd go iawn i bobl i gymryd rhan mewn darparu tystiolaeth, a hefyd y gallwn ni fod yn gyfrwng defnyddiol er mwyn darparu gwybodaeth i gael ei deall a’i lledaenu mor eang ag y bo modd.
Ond rwy’n meddwl ei bod yn werth i Aelodau edrych ar y ddogfen ymgynghori. Mae'n syml, ond, rwy’n meddwl, yn bwysig. Rwy’n meddwl ei bod wedi’i hysgrifennu'n dda iawn, a dweud y gwir, gan ofyn i bobl am sut yr hoffen nhw gyfrannu at yr ymchwiliad, ac mae'n ymdrin â'ch pwynt penodol chi am y cyfnod amser hefyd, ac yn gofyn i bobl pa gyfnod o amser y dylai’r ymchwiliad bwysleisio arno. Mae hynny’n cyfrannu at hyd amserlen yr ymchwiliad. Mae pobl eisiau cael y gwir am y mater, nid dim ond am yr hyn a ddigwyddodd yn yr 1970au a'r 1980au, ond hefyd beth ddigwyddodd wedyn pan oedd y Llywodraeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol—Llywodraeth y DU oedd hi ar y pryd; doedd gennym ni ddim datganoli bryd hynny—beth yr oeddent yn ei wybod, neu beth dylent fod wedi’i wybod, a beth ddigwyddodd wedyn â’r wybodaeth honno a ddylai fod wedi bod yno, neu a oedd yno, ac a weithredwyd arni, a beth ddigwyddodd wedyn bryd hynny. Mae hynny'n glir, rwy’n meddwl: bydd rhaid i’r ymchwiliad ystyried hynny, ac yn amlwg bydd hynny'n arwain at ymchwiliad sydd ddim yn mynd i gael ei wneud mewn cyfnod o rai wythnosau. Felly, bydd yn cymryd amser sylweddol. Yn y llythyr i randdeiliaid, yn union fel y mae Langstaff wedi’i nodi—hyd yn oed cyn y clywir tystiolaeth lafar, bydd yn rhaid bod wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes, a’r angen i fynd drwy ddogfennau a deall yr hyn sydd eisoes yn bodoli ac sydd ar gael, yn ogystal â gwrando ar randdeiliaid, yn ogystal â gwrando ar bobl fel Hemoffilia Cymru, unigolion, a’r grwpiau trawsbleidiol yn y gwahanol seneddau a chynulliadau ledled y Deyrnas Unedig.
O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl cyfrannu’n ffurfiol at ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud y peth iawn i bobl yma yng Nghymru, a dyna pam, pan ydym ni wedi gwneud ein hymyriadau ar sail drawsbleidiol, neu, yn wir, pan mae’r Llywodraeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydym ni wedi gwneud hynny drwy wrando ar bobl yng Nghymru yn gyntaf yn hytrach na phenderfynu dros bobl beth yr ydym yn meddwl sydd orau ar eu cyfer. Mae gennym grŵp mor amlwg o deuluoedd ac unigolion yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol; rhaid iddo fod yn iawn ein bod yn gwneud ein gorau i eirioli ar eu rhan a cheisio gwneud yn siŵr ein bod yn cael y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Felly, byddaf yn gwrando cyn i Lywodraeth Cymru ymateb yn ffurfiol i'r cylch gorchwyl. Byddwn yn ei gweld yn ddefnyddiol cael clywed gan y grŵp trawsbleidiol ac, yn wir, gan Hemoffilia Cymru a phartïon eraill â diddordeb ynghylch beth y maen nhw'n ei feddwl, a gweld yr ateb a roddir, cyn i’r Llywodraeth, wrth gwrs, roi sylw. Ac fel y dywedais yn fy natganiad cychwynnol, rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am unrhyw wybodaeth sydd gennym, ac am hynt yr ymchwiliad, ond rwy’n mawr obeithio bod cyfraniadau uniongyrchol, nid dim ond ar adeg y cylch gorchwyl, ond drwy gydol oes yr ymchwiliad, fel y caiff yr Aelodau eu hysbysu’n uniongyrchol am amserlenni a chynnydd.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, a diolch i'r unigolion sydd wedi dioddef ac ymgyrchu’n frwd ar y pwnc hwn.
Rwy’n croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff a'r ffaith y bydd yn gadeirydd llawn-amser ar yr ymchwiliad. Y sgandal gwaed halogedig yw un o'r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith bod pobl a oedd yn ceisio cymorth gan y gwasanaeth iechyd wedi dod i gysylltiad â firysau marwol yn ddigon brawychus, ond mae'r ffaith nad ydynt wedi cael esboniad priodol ynglŷn â sut y caniatawyd i hynny ddigwydd yn anfaddeuol. Mae Mr Ustus Langstaff yn amlwg yn bwriadu unioni'r cam. Mae wedi addo archwiliad trylwyr o'r dystiolaeth y tu ôl i'r sgandal mawr. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith ei fod wedi dweud bod angen i’r broses arwain at adroddiad llawn o fewn yr amserlenni byrraf posibl i gael y fath drylwyredd. Mae hyn i'w groesawu'n fawr iawn. Mae'n siomedig ei bod yn dal i fod wedi cymryd bron i flwyddyn i gychwyn yr ymchwiliad ar ôl i’r Llywodraeth wneud y cyhoeddiadau. Mae dioddefwyr y sgandal yn dal i farw, a’r hiraf y bydd hyn yn parhau, y mwyaf o ddioddefwyr fydd ddim yn cael atebion a chyfiawnder. Yn wir, yn yr un amser ers y cyhoeddwyd yr ymchwiliad, yn anffodus mae 60 o ddioddefwyr eraill wedi marw. Rwy’n ddiolchgar bod Mr Ustus Langstaff yn cydnabod hyn ac wedi dechrau’r ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl cyn iddo gymryd y swydd lawn-amser ar 1 Mai. Rwyf hefyd yn ddiolchgar ei fod yn ymgynghori â’r dioddefwyr a'u teuluoedd—rhai fel fy ffrind Faye Denny; mae ei brawd hi nawr yn anffodus wedi marw. Mae hynny'n golygu na chaiff Owen Denny yr atebion na’r cyfiawnder y mae'n eu haeddu, ond gobeithio y caiff Faye.
Mae gennyf gwpl o gwestiynau, Ysgrifennydd Cabinet. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl eraill a gafodd waed halogedig a ddaliodd haint ond sydd heb gael diagnosis eto. Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i helpu i ganfod y dioddefwyr hyn, ac a ydych wedi trafod hyn gyda Mr Ustus Langstaff? Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i roi cyhoeddusrwydd i'r ymchwiliad a hwyluso sesiynau tystiolaeth yng Nghymru? Beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo'r ymchwiliad i ymchwilio i’r rhan a chwaraeodd yr Athro Arthur Bloom a chanolfan hemoffilia Caerdydd o ran dod â phobl â hemoffilia i gysylltiad â HIV a hepatitis C? Roedd yr Athro Bloom yn ymwybodol iawn o risgiau rhoi ffactor halogedig. Dywedodd:
'Felly mae'n bwysig iawn canfod drwy gynnal astudiaethau ar fodau dynol i ba raddau mae heintusrwydd y gwahanol grynodiadau wedi gostwng. Y ffordd gliriaf o wneud hyn yw drwy roi’r crynodiadau hynny i gleifion sydd angen triniaeth sydd ddim wedi dod i gysylltiad yn flaenorol â chrynodiadau cronfa fawr.'
Credir ei fod wedi arbrofi ar gleifion yn y ganolfan hemoffilia yng Nghaerdydd sydd heddiw’n dwyn ei enw. Ni ellir galw ar yr Athro Bloom i roi tystiolaeth, oherwydd bu farw yn 1992, ond a allwch ein sicrhau y bydd ei holl nodiadau a’i gofnodion o'r ganolfan ar gael i'r ymchwiliad?
Diolch unwaith eto, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy’n gwerthfawrogi popeth yr ydych yn ei wneud i sicrhau bod y dioddefwyr a'u teuluoedd yn cael yr atebion sydd eu angen arnynt a’r cyfiawnder y maent yn ei haeddu. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r ddau faes penodol o gwestiynau. O ran canolfan hemoffilia Caerdydd a’i hymarfer, ailadroddaf yr hyn a ddywedais wrth Angela Burns a Rhun ap Iorwerth: y bydd unrhyw gofnodion neu wybodaeth y mae GIG Cymru yn eu cadw ar gael i'r ymchwiliad. Does dim ymgais i geisio cuddio oddi wrth hyn o gwbl, a rhaid i’r ymchwiliad a’r rhanddeiliaid unigol a fydd yn rhoi eu tystiolaeth roi hynny o flaen yr ymchwiliad, ac yna rhaid i’r ymchwiliad ffurfio casgliadau.
O ran y pwynt am ddioddefwyr heb gael diagnosis, ac ystyried faint o amser y byddai wedi mynd heibio ers y posibilrwydd iddynt ddod i gysylltiad â hyn, byddwn yn disgwyl y byddai'n weddol anarferol i bobl fod heb symptomau ar hyn o bryd a heb gael diagnosis. Allwch chi ddim osgoi'r posibilrwydd o reidrwydd, ond o gofio ein bod yn sôn am gymuned benodol o bobl a fydd wedi cael cynhyrchion gwaed, byddwn yn disgwyl y byddai pobl yn ymwybodol. Os daw pobl eraill ymlaen, byddwn yn gwybod, ond does dim rhaglen benodol ar hyn o bryd i geisio mynd drwy hynny a chwilio am ddioddefwyr sydd heb gael diagnosis. Nid yw hynny'n fater yr wyf wedi’i drafod gyda Mr Ustus Langstaff. A dweud y gwir, rwy’n meddwl, o ystyried yr hyn yr ydym yn gwybod ei fod wedi digwydd a nifer y bobl y mae wedi effeithio arnynt, mae gennym lawer o waith i'w wneud eisoes, a byddai unrhyw wersi o'r ymchwiliad hwn yr un mor berthnasol i unrhyw un sy'n dod ymlaen yn ddiweddarach y gallai fod y sgandal a ddigwyddodd yn yr 1970au a'r 1980au wedi effeithio arnynt ond heb iddynt gael diagnosis.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, sydd i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros ymchwiliad cyhoeddus ers 20 mlynedd, ac mae'r ffaith ei fod wir yn digwydd nawr yn fater o—wyddoch chi, rwyf mor falch ei fod yn digwydd. A'r peth allweddol nawr yw gwneud yn siŵr bod rhywbeth yn dod allan ohono, i ddiweddu pethau i'r holl bobl hynny yr ydym wedi gwrando arnynt gynifer o weithiau yn yr adeilad hwn, a’r holl emosiwn a fu yno sy'n gwneud i chi sylweddoli, bron iawn ag anobaith, beth sydd wedi ei wynebu. A diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am rannu hynny ag aelodau'r grŵp trawsbleidiol, oherwydd rwy’n meddwl ein bod wedi gallu gweithio mewn ffordd wirioneddol drawsbleidiol, ac mae'n dda iawn, rwy’n meddwl, bod y Llywodraeth a'r grŵp trawsbleidiol, a Hemoffilia Cymru—fel, rwy’n meddwl, y dywedodd Rhun yn ei gyfraniad—i gyd wedi cymryd safiad unedig, ac rwy’n meddwl ein bod wedi bod yn allweddol iawn o ran sicrhau ei fod yn ymchwiliad statudol a’i fod wedi’i arwain gan farnwr, ac rwy’n sicr yn croesawu penodiad Mr Ustus Langstaff.
Mae wedi’i nodi eisoes bod cynifer o bobl wedi marw yn ystod y cyfnod hwn—70 o bobl yng Nghymru—a bydd Hemoffilia Cymru yn mynd i fyny i San Steffan yfory i gwrdd â Mr Ustus Langstaff i gyflwyno eu hachos. Wrth edrych yn ôl ar hanes Hemoffilia Cymru, cafodd ei ddechrau yn 2003, ond yn 2010, roedd rhaid iddo ddod i ben oherwydd roedd y chwe aelod sefydlol i gyd wedi marw, a dyna fu hanes y bobl yr wyf wedi eu gweld yn ystod yr ymgyrch hon sydd wedi marw ar y ffordd. Ond wedyn, wrth gwrs, cafodd ei ailsefydlu yn 2014 gan Lynne Kelly, sydd wedi arwain yn ysbrydoledig ers hynny, rwy’n credu.
Felly, rwy’n meddwl ein bod ar adeg hollbwysig ac nawr rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y pethau cywir yn dod allan o'r ymchwiliad hwn. Rwy’n gwybod bod rhai o'r materion y mae Hemoffilia Cymru yn pryderu amdanynt—mae rhai o'r rhain wedi cael eu crybwyll eisoes—yn bryderus iawn am swyddogaeth y Swyddfa Gymreig ar y pryd; Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cymru; Prif Swyddog Meddygol Cymru; rhaid ystyried ystyriaethau iaith Gymraeg, yr ydych chi wedi sôn yn benodol amdanynt; y dogfennau coll; cofnodion meddygol; camymddwyn gan gyrff a sefydliadau cyfrifol; gwrthdaro buddiannau a buddiannau masnachol sydd gan gyrff cyfrifol. Dyma rai o'r materion y bydd Hemoffilia Cymru yn eu codi gyda'r Cadeirydd, Mr Ustus Langstaff.
Felly, nid wyf yn gwybod a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw beth arall i'w ychwanegu ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â'r materion penodol hynny. Rwy’n falch y byddwn yn cael grŵp trawsbleidiol arall ar 24 Ebrill, pan rwy’n gobeithio y cawn holl fanylion yr hyn y mae gan y bobl yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan hyn i’w ddweud am sut y dylem ni symud ymlaen yn yr ymchwiliad hwn. A hoffwn orffen, a dweud y gwir, drwy ddweud fy mod i'n meddwl ei bod yn gwbl deg mai nhw yw’r bobl a ddylai ein tywys a’n harwain yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rwy’n meddwl, hyd yma, bod hynny wedi digwydd, a hoffem i hynny barhau i ddigwydd tra mae'r ymchwiliad hwn yn mynd ymlaen.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt y gwnaethoch chi orffen arno, Julie Morgan. Mae angen inni wrando ar safbwyntiau'r bobl hynny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, a chael ein harwain ganddynt. Mae hyn yn ymwneud â’r hyn sydd wedi digwydd i’w bywydau nhw, gan gynnwys y teuluoedd a gafodd eu gadael ar ôl, yn ogystal â’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma a nawr. Mae’r pwynt ynghylch y ffaith bod pobl wedi marw eisoes yn un teg, ac rwy’n ei ddeall, ac mae'n rhywbeth yma am feddwl am y cylch gorchwyl unwaith eto, ac yn wir, yn ei lythyr ataf, dywedodd Ustus Langstaff ei fod yn ymwybodol iawn o'r angen i daro cydbwysedd rhwng ymchwiliad trylwyr a’r hyn y gellir ei gyflawni mewn cyfnod rhesymol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r ymchwiliad hwn, o ystyried iechyd gwael llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt, a rhaid inni feddwl am y pwynt hwnnw, a dweud y gwir, a chyflwyno barn am yr amser a gymer yr ymchwiliad, ar hyd a lled y cylch gorchwyl. Ond y ffordd orau o ddeall sut i gydbwyso'r rheini yw drwy wrando ar y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol, a phe byddai’n well ganddyn nhw gael ymchwiliad hirach, mwy trylwyr, dyna beth rwy’n credu y dylem ni fod yn gofyn amdano. Os mai eu barn nhw, yw, fodd bynnag—a bydd y farn hon yn amrywio, fel yr wyf wedi’i ddweud yn gynharach; ni allwch ddisgwyl i bawb gytuno ar bob agwedd ar y telerau a hyd yr amser. Os mai’r farn amgen gan y rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid yma yng Nghymru, y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, yw y byddai'n well ganddynt ymchwiliad sydyn, penodol a fydd yn digwydd dros gyfnod byrrach, gan dynnu sylw at nifer llai o faterion, yn amlwg dyna beth y dylem ni ofyn amdano. Ond fy ofn i yw nad yw’n debygol y bydd gennym gymuned a fydd eisiau deall y gwir. Ar ôl brwydro cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn, rwy'n meddwl eu bod yn fwy tebygol o ofyn inni fynd a gofyn am ymchwiliad llawnach yn hytrach nag un byrrach a chliriach. Ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n ddewis hollol resymol i’w wneud.
Unwaith eto, pan ddywedaf y bydd swyddogaeth cyfranogwyr yma yng Nghymru yn rhan o'r ymchwiliad hwn, byddwn yn darparu’r wybodaeth sydd gennym ac y gallwn ei darparu i'r ymchwiliad. Rhan o'r hyn y mae’r ymgynghoriad yn ei ofyn—mae'n gofyn am y perygl posibl o wrthdaro masnachol wrth wneud penderfyniadau yn y gorffennol. Felly, mae’r meysydd ymchwilio hynny eisoes wedi cael sylw, a'r her yw sut i ysgrifennu'r rheini mewn cylch gorchwyl mewn ffordd lle y maent yn ystyrlon ac wedyn gall yr ymchwiliad roi sylw iddynt, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd yn hawdd wedyn rhoi sylw i rywbeth sydd ddim o fewn y cylch gorchwyl. Bydd yn rhaid inni ddiwygio'r telerau drwy gytuno eto gyda'r Gweinidog yn nes ymlaen, ac rwy'n meddwl bod hynny'n anodd. Felly, mae angen inni fod ychydig yn ofalus am y peth.
Unwaith eto, hoffwn i ailddatgan i bobl bod yr ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl yn rhywbeth y byddwn yn sicr yn disgwyl i’r grŵp trawsbleidiol roi sylw iddo, a rhoi cyflwyniad amdano. Bydd y Llywodraeth yn gwneud cyflwyniad i’r ymchwiliad hefyd. Y grŵp trawsbleidiol y byddwch yn ei gynnal ar 24 Ebrill—wrth gwrs, mae ymgynghoriad y cylch gorchwyl yn cau ar 26 Ebrill, felly mae'n bosibl y gallai'r grŵp trawsbleidiol gytuno ar ymateb i'r ymgynghoriad yn eu cyfarfod ar 24 Ebrill. Byddai’n ymddangos yn briodol gwneud hynny gyda nifer llawn o bobl o amgylch bwrdd o'r partïon a rhanddeiliaid allanol hefyd.
Ailadroddaf fy ymrwymiad i barhau i fod mor gymwynasgar a chadarnhaol, o safbwynt y Llywodraeth, i barhau i roi gwybodaeth yn rheolaidd i Aelodau, ond yn arbennig, fel yr ydych wedi ei ddweud, Julie Morgan, i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi gwneud cymaint i wneud yn siŵr bod yr ymchwiliad yr ydym ni nawr yn mynd i’w gael wedi digwydd yn y lle cyntaf.
Diolch. Ac, yn olaf, Jane Hutt.
Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a chroesawu’r canlyniad cadarnhaol iawn, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu. Yn wir, rwy’n cofio’r ymgyrchu’n dechrau pan oeddwn i'n Weinidog iechyd yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Rwyf wedi bod yn cefnogi fy etholwyr, fel y mae llawer ar draws y Siambr hon, ac rwyf eisiau sôn dim ond am Pat a Tony Summers—eu cefnogi dros y blynyddoedd, ar ôl marwolaeth drist a chynamserol eu mab gwych, Paul, yn 2008; ac, wrth gwrs, eu hurddas drwy eu galar, a'u hymrwymiad i gefnogi cyfiawnder, nid dim ond o ran eu mab a'i deulu, ond ar ran pawb sydd wedi dioddef oherwydd y sgandal hon.
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd erbyn hyn, ond gynt yr Aelod Seneddol dros yr etholaeth; mae hi wedi gwasanaethu’r etholaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hi wedi cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Rwy’n credu, Rhun ap Iorwerth, eich bod yn llygad eich lle mai’r disgwyl oedd y dylai fod yn wirioneddol drawsbleidiol, a dyna sut y mae Julie wedi ei arwain, ond gyda'r canlyniad pwysig hwnnw, gan weithio'n agos iawn â Hemoffilia Cymru.
Rwy’n falch bod Tony Summers yn rhan o'r ddirprwyaeth gyda Hemoffilia Cymru yfory i gyfarfod â’r barnwr yr Ustus Langstaff, a fydd yn cynnal yr ymchwiliad i’r sgandal gwaed heintiedig. Rwy’n croesawu eich ymateb heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ymwybodol o'r grŵp trawsbleidiol nesaf, eich bod eisiau ystyried yr adborth, a byddwn yn gofyn ichi gadarnhau unwaith eto y byddwch eisiau cyfarfod i glywed gan y ddirprwyaeth honno yn hytrach nag aros tan y grŵp trawsbleidiol nesaf, oherwydd rwy'n siŵr y byddan nhw eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac ysgrifennu atoch. Ac, yn sicr, byddant yn hysbysu Julie Morgan ac aelodau'r grŵp trawsbleidiol. A gaf i hefyd ddiolch ichi am sôn yn eich datganiad am yr holl rannau eraill o'r gwaith y mae’r grŵp trawsbleidiol hwnnw wedi’i wneud, gan gynnwys cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru? Efallai y gallech chi hefyd ddweud rhywbeth am sut y mae'r cynllun hwnnw wedi cynorthwyo perthnasau mewn profedigaeth hefyd.
Ydy, rydych chi'n iawn, mae hi wedi bod yn ymgyrch hir, i feddwl yn ôl at y dyddiau pan oeddwn yn ddyn hyd yn oed yn iau —hyd yn oed yn iau: dim blew gwyn yn fy marf—pan grëwyd y lle hwn yn gyntaf. Mae’r ymgyrch wedi bod yn mynd ymlaen ers amser hir iawn. Fel y nododd Julie Morgan, pan oedd y sylfaenwyr wedi mynd, roedd yn rhaid ailgychwyn yr ymgyrch. Mae Julie yn berffaith iawn bod nifer o bobl wedi sôn am Lynne Kelly a'r gwaith y mae hi wedi'i wneud—unwaith eto, enghraifft dda o rywun nad yw wedi bod ofn bod yn anodd, o bryd i'w gilydd, i wneud yn siŵr nad yw'r mater yn cael ei anghofio—ac ymrwymiad anhygoel unigolion i wneud yn siŵr nad yw’r mater yn cael ei anghofio a’i oddiweddyd gan hanes fel nad yw’n bwysig mwyach. Mae llawer o bobl yn dal i fyw gyda'r hyn a ddigwyddodd, ac yn byw gyda’r etifeddiaeth, yn uniongyrchol fel unigolion, neu eu teuluoedd, yn sicr, hefyd. Rwy’n gwybod y bydd gan y rhan fwyaf ohonom, os nad pob un ohonom, yn yr ystafell hon etholwyr yr effeithiwyd arnynt. Mae gen i yn sicr, ac rwy’n meddwl y byddai bron pawb yn yr ystafell hon yn dod o hyd i rywun hefyd. Unwaith eto, bydd pobl fel Julie Morgan ac eraill sy'n dal i fod yn y Senedd nawr yn parhau i ymgyrchu dros y mater hwn, ac unwaith eto, un o gryfderau’r ymgyrch yw ei bod yn wirioneddol drawsbleidiol.
O ran y cyfarfod â Hemoffilia Cymru, wrth gwrs, rwy’n disgwyl i swyddogion barhau i gwrdd â Lynne Kelly a Hemoffilia Cymru. Rwy’n disgwyl cyfarfod â nhw eto cyn i’r Llywodraeth ymateb i gylch gorchwyl yr ymgynghoriad hefyd. Mae hynny'n gyson â’r ffordd yr ydym ni wedi ceisio ymddwyn dros nifer o flynyddoedd, ond yn enwedig ers imi fod yn fy swydd. Rydym wedi ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn siarad ac yn gwrando. Nid yw'n golygu ein bod bob amser wedi cytuno ar bob mater, ond rydym wedi gwrando. Mae cymorth mewn profedigaeth yn enghraifft dda o faes lle’r ydym ni wedi newid cynigion gwreiddiol yn ein cynllun i wneud yn siŵr bod pobl sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar yn cael mwy o gefnogaeth. Roedd hwnnw’n ddewis bwriadol gennym oherwydd bod barn mor gryf ac unffurf, gan gynnwys gan bobl nad oedd hyn wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt—roeddent yn meddwl mai dyna oedd y ffordd iawn i geisio gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei flaenoriaethu i gefnogi pobl. Felly, cefnogi pobl oedd ein man cychwyn ar y rhan benodol honno o'r daith. Dyna sut y dylem ni barhau i ymddwyn wrth inni barhau i symud tuag at wrandawiadau ffurfiol yr ymchwiliad hwn. Ond, cynnydd hyd yn hyn— ac rwy’n siŵr y byddwn yn edrych ymlaen at glywed am fwy o gynnydd gweithredol wedi i'r Ustus Langstaff ddechrau’n iawn, ar ôl cytuno ar y cylch gorchwyl.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.