Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 13 Mawrth 2018.
Wel, nid dyna'r cwestiwn. Mae'r cwestiwn ynghylch y rhai sy'n wirioneddol gaeth: adictiaid. Nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, beth fydd yr isafbris. Wrth gwrs, pe byddech yn ychwanegu £5 at isafbris alcohol yn hytrach na 50c, fe fyddai'n cael effaith sylweddol, ond hyd nes y gwyddom beth fydd isafbris uned, ni allwn ond siarad mewn termau cyffredinol. Ond yr hyn y gallwn ei ddweud, rwy'n credu, yn weddol ffyddiog yw mai'r bobl sydd leiaf tebygol o newid eu hymddygiad o ganlyniad i gynnydd cymedrol yn y pris yw'r rhai sydd fwyaf dibynnol ar alcohol. Mewn gwirionedd, byddan nhw'n gwario llai ar bethau eraill er mwyn bwydo eu dibyniaeth. Rwy'n credu mai dyna yw natur y ddibyniaeth.
Gwnaethpwyd astudiaeth o British Columbia, a wnaeth gyflwyno isafbris, ac fe nodwyd hyn fel cyfiawnhad dros y Bil hwn, ond, mewn gwirionedd, mae hynny hefyd yn dioddef o bob math o ddiffygion methodolegol. Yn un peth, mae gwerthiant diod feddwol yn British Columbia yn fonopoli llwyr i'r wladwriaeth ac mae hynny'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn y wlad hon. Priodolwyd y gostyngiad mewn troseddu yn British Columbia i'r isafbris ar gyfer alcohol a gyflwynwyd heb, wrth gwrs, nodi y gwelwyd gostyngiadau tebyg mewn troseddu ym mhobman arall yng Nghanada lle nad oedd isafbris ar gyfer alcohol.
Yn wir, ceir tueddiadau fel hyn ar draws y byd hefyd. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol, mewn gwirionedd, yn lefelau yfed alcohol yn gyffredinol yn y wlad hon yn y blynyddoedd diwethaf—gostyngiad o 12 y cant rhwng 2004 a 2011. Felly, mae gwahanu'r holl effeithiau gwahanol hyn o un achos unigol bron yn amhosibl ei gyflawni. Felly, rwy'n credu y dylem ddadlau am hyn mewn termau cyffredinol, yn hytrach na cheisio cyflwyno rhyw fath o fanyldeb fathemategol ffug sy'n debygol o gynnal neu danseilio'r rhagfarnau y deuwn gyda ni i'r ddadl.
Gwyddom fod lefelau yfed alcohol mewn rhai gwledydd yn llawer uwch nag yn y wlad hon, ac eto mae ganddyn nhw lai o broblemau goryfed. Un ohonynt yw Ffrainc y cyfeiriwyd ati yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd ym mharagraff 73. Ym mharagraff 75 yn yr adroddiad hwn hefyd, dywedir bod y defnydd o alcohol yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ond na fu gostyngiad cyfochrog yn y niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, nid yw'r ddau beth hyn o reidrwydd yn gysylltiedig â'i gilydd. Os yw hwn yn mynd i fod yn fesur wedi'i dargedu, mae'n rhaid iddo dargedu'r bobl sy'n creu'r broblem, nid y mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed alcohol nad ydynt yn broblem o gwbl i neb, hyd yn oed i'w hunain.
Bydd cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yn effeithio'n wael ar y rhai tlawd a'r rhai sydd ar yr incwm isaf, fel y nodwyd gan lawer o bobl yn ystod y ddadl hon. Ni fydd y mesur hwn yn effeithio ar yfwyr siampên, ond bydd yn effeithio ar y rhai sy'n mynd i brynu ychydig o ganiau o lager yn Aldi neu Lidl neu ble bynnag, ac rwy'n credu ei fod yn fesur annheg na all fod yn unrhyw beth ond mesur atchweliadol.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at baragraff 178 o adroddiad y pwyllgor iechyd am yr effaith debygol ar y digartref a'r rhai sydd â phroblem yfed sy'n byw ar y stryd, a'r hyn sy'n debygol o ddigwydd i'r rheini. Mae hynny'n dangos, mewn gwirionedd, y gall mesurau o'r fath greu problemau gwaeth iddynt. Does gen i ddim amser i fanylu ar hyn nawr, ond bydd gennym ddigon o amser yn ystod taith proses y Bil hwn i archwilio'r pethau hyn yn fanwl. Yn sicr, credaf mai'r pwynt sydd wedi codi yn araith bron pawb heddiw yw bod angen inni gael sail dystiolaeth i unrhyw benderfyniad a wneir yn y pen draw.