Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 13 Mawrth 2018.
Hoffwn siarad o blaid y Bil hwn. Mae'n Fil pwysig sydd â'r nod o fynd i'r afael â drwg cymdeithasol sydd wedi bod o gwmpas yn rhy hir o lawer. Mae hefyd yn Fil y gwnaethpwyd ymrwymiad iddo ym maniffesto Llafur Cymru 2016, maniffesto yr oeddwn i'n falch o gael fy ethol ar ei sail.
Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Credaf eu bod wedi gwneud gwaith pwysig wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru a hefyd awgrymu meysydd lle gellid cryfhau'r Bil.
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r achos dros isafbris uned yn eithaf clir, ond mae'n ffaith bod goryfed alcohol yn achosi niwed. Mae'n ffaith y bu 463 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2015. Ac mae hefyd yn ffaith bod dros 50,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yn 2015-16 wedi eu priodoli i gamddefnydd o alcohol.
Mae camddefnyddio alcohol yn achosi troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n niweidio ein heconomi ac yn niweidio bywyd teuluol hefyd. Mae'r grŵp hollbleidiol yn San Steffan ar blant pobl sy'n gaeth i alcohol wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, gwaith sydd wedi bod yn wirioneddol hanfodol o ran dangos ei effaith. Maen nhw'n awgrymu bod un ym mhob pump o blant ledled y DU yn byw gyda rhiant sy'n yfed gormod. Mae hynny dros 2.5 miliwn o blant. Mae'r grŵp hollbleidiol yn nodi bod y plant hyn ddwywaith yn fwy tebygol o brofi anawsterau yn yr ysgol na'u cyfoedion, dair gwaith yn fwy tebygol o ystyried hunanladdiad, bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau bwyta, a phedair gwaith yn fwy tebygol o ddod yn gaeth i alcohol eu hunain.
Mae'n rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir pam mai isafbris uned yw'r ffordd ymlaen. Mae hefyd wedi nodi rhai o effeithiau manteisiol isafbris o 50c. Bob blwyddyn, gallai hyn arwain at 53 yn llai o farwolaethau, 1,400 yn llai yn cael eu derbyn i'r ysbyty, a gallai, mewn gwirionedd, arbed £882 miliwn i economi Cymru.
Fodd bynnag, rwyf eisiau tynnu sylw at un neu ddau o faterion heddiw. Yn gyntaf, tra'r oeddwn yn ymchwilio ar gyfer heddiw, deuthum ar draws ystadegyn diddorol arall. Y llynedd, gwerthwyd 51 miliwn o boteli o jin yn y DU. Mae hynny bron i 10 miliwn yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i drafodaeth am jin crefft, ond drwy ragdybio bod hyn yn gysylltiedig â phatrymau yfed mwy dosbarth canol, mae hyn yn fy helpu i egluro fy mhwynt cyntaf. Mae'n ymddangos bod mesurau'r Bil yn canolbwyntio ar y mathau rhataf a chryfaf o alcohol. Os gall pobl fforddio i dalu mwy, oni fyddant ond yn gwario mwy ar alcohol? A fydd gosod isafbris uned yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblem yfed y rhai mwy cefnog? Neu a fydd ond yn taro'r rhai nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r codiad mewn pris?
Yn ail, hoffwn grybwyll mater a godwyd yn ystod y gweithdy Cefnogi Pobl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Codwyd pryderon yno y gallai gosod isafbris, yn anfwriadol, hybu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod pobl mewn cyfyngder—y rhai sy'n gaeth—yn troi at gyflawni gweithredoedd difrifol i fwydo eu dibyniaeth. Rwy'n awyddus i gael sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y gallwn ni wneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd.
Yn y dyfodol, byddwn yn gobeithio y byddai gosod isafbris o unrhyw fath yn cael ei adolygu'n flynyddol. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r craffu a wnaed gan bwyllgorau ar yr egwyddorion cyffredinol wedi ei awgrymu. [Torri ar draws.]