Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 13 Mawrth 2018.
Fel y gwnaethoch chi sôn, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—ac yn amlwg roedd y ddau ohonom yn rhan o'r sesiwn dystiolaeth honno ar Gefnogi Pobl—. A ydych chi'n cytuno â mi pan ddywedaf fod pawb yn y Siambr hon yn unfryd yn eu hawydd i fynd i'r afael â'r problemau yr ydych chi wedi eu nodi'n glir iawn yn eich araith? Y cwestiwn yw: a fydd y mesur penodol hwn yn cyflawni'r newid hwnnw mewn gwirionedd? Oherwydd credaf ar hyn o bryd o beth rwy'n synhwyro nad oes argyhoeddiad yn y Siambr hon y bydd yn gwneud hynny.