– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 13 Mawrth 2018.
Felly, dyma ni'n dod i'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Er bod adroddiad y Pwyllgor Cyllid wedi cael ei grybwyll yn ystod y drafodaeth y buom yn ei chael ar egwyddorion cyffredinol y Bil, nid oes gan y Pwyllgor Cyllid lawer i'w ddweud am bolisi fan hyn, ond mae gennym ni nifer o bethau i'w dweud ynglŷn â chostau a manteision y Bil, a dyna pam rydw i'n sefyll i siarad ar y penderfyniad ariannol.
Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod cyflwyno isafbris fesul uned ar gyfer alcohol yn gysyniad newydd, ac nad oes eto lawer o gynsail o ran llefydd eraill a all roi syniad cadarn i ni o gostau a manteision polisi o'r fath. Rydym yn deall, felly, pam mae amcangyfrif y costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â'r Bil yn seiliedig ar fodelu, ond roedd hynny'n golygu ei bod yn anoddach inni ystyried goblygiadau go iawn ariannol y Bil. Dim ond rhagdybiaethau yr oedd y modelu yn gallu eu rhoi i ni ynghylch sut y byddai isafbris yn effeithio ar ymddygiad defnyddwyr. Nid oes sicrwydd mai dyna sut y bydd pobl yn ymddwyn mewn gwirionedd, felly nid ydym yn gwybod a fydd y costau a'r buddion gwirioneddol yr un fath â'r amcangyfrifon.
Mae'n anffodus bod yr amcangyfrifon yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn seiliedig ar fodelu a gyhoeddwyd mor bell yn ôl â 2014 ac nad yw'r modelu sydd wedi'i ddiweddaru ar gael tan gamau olaf ein cyfnod craffu. O'r herwydd, nid yw'r wybodaeth ariannol yn y memorandwm esboniadol wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r costau a'r buddion diwygiedig. Felly, byddem yn disgwyl i'r fersiwn wedi'i diweddaru gael ei chyhoeddi yn dilyn trafodion Cyfnod 2 ac i gynnwys y newidiadau hyn. Rydym yn argymell, felly, fod hyn yn cael ei wneud cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 3.
Honnir mai nod y Bil hwn yw lleihau'r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol, ond nid nhw yw'r unig grwpiau a gaiff eu heffeithio drwy gynyddu cost alcohol cryf. Bydd yfwyr dibynnol yn arbennig yn gweld cynnydd sylweddol yn y pris y byddant yn ei dalu am alcohol, a gallai'r grwpiau hyn flaenoriaethu gwariant ar alcohol dros fwyd a rhent a allai waethygu problemau cymdeithasol yn y pen draw, ac mae i'r problemau cymdeithasol hyn eu goblygiadau cost eu hunain, wrth gwrs. I rai, gallai isafbris fod yn ysgogiad i ofyn am gymorth ar gyfer dibyniaeth ar alcohol, felly dylai fod adnoddau digonol ar gael i wasanaethau cymorth i ymateb i gynnydd posibl yn y galw.
Bydd cyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu rhoi ar awdurdodau lleol wrth orfodi darpariaethau'r Bil, felly mae angen i safonau masnachu awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian a ddyrennir ar gyfer y cyfrifoldebau ychwanegol—sef rhyw £300,000 dros dair blynedd—yn y modd mwyaf effeithiol. Wrth gwrs, mae'r gost amcangyfrifedig i lywodraeth leol yn seiliedig ar isafbris o 50c yr uned, ond os yw'r isafbris gwirioneddol yn uwch gallai'r goblygiadau ariannol i awdurdodau lleol fod yn llawer uwch yn ogystal.
Mae'r amcangyfrifon yn rhagweld y byddai'r gostyngiad mewn gwerthiant alcohol yn arwain at ostyngiad o £5.8 miliwn y flwyddyn mewn trethi ar alcohol, er bod hyn wedi'i ddiwygio i lawr i £1.9 miliwn yn ôl y ffigurau diweddaraf a gawsom. Rydym yn arbennig o bryderus nad yw goblygiadau gostyngiad o'r fath mewn refeniw wedi cael ei ystyried yn briodol yng ngoleuni'r cytundeb fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Gyfunol. Byddem wedi disgwyl y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trafod effaith y gostyngiad posibl mewn trethi ar alcohol gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi. Yn y bôn, nid ydym ni'n meddwl y bydd y Trysorlys yn anwybyddu'r ffaith eu bod nhw'n colli arian drwy'r Bil hwn. Byddem yn disgwyl felly fod penderfyniad ar yr effaith ar y fframwaith cyllidol wedi ei wneud cyn pleidlais derfynol y Cynulliad ar y Bil yng Nghyfnod 4.
Rydym o'r farn y bydd isafswm pris yn cynyddu refeniw manwerthwyr yn yr hirdymor. Mae'r pwyllgor yn amheus am y posibilrwydd o fanwerthwyr, yn enwedig y rhai sydd ag elw uchel eisoes, yn elwa ymhellach o gyflwyno mesur iechyd y cyhoedd. Credwn felly fod digon o amser i Lywodraeth Cymru weithredu mecanwaith lle gellid ailgyfeirio refeniw a gesglir o ardoll ar fanwerthwyr mawr at ddibenion gwella iechyd y cyhoedd, er enghraifft i elusennau alcohol neu gamddefnyddio sylweddau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym nad oedd yn disgwyl i'r Bil gael effaith sylweddol ar gynhyrchwyr alcohol yng Nghymru nac y byddai llawer o gwsmeriaid yn croesi'r ffin i brynu alcohol yn Lloegr. Er hynny, bydd y ddau fater hyn yn dibynnu ar ba lefel y gosodir yr isafbris—yr uchaf y pris, po fwyaf fydd yr effaith ar gynhyrchwyr alcohol a masnach drawsffiniol.
Bydd lefel yr isafbris yn hollbwysig felly, ond bydd hynny yn cael ei osod trwy reoliadau yn ddiweddarach yn hytrach nag ar wyneb y Bil. Beth bynnag yw'r rhesymau am hynny, rydym yn credu y dylai asesiad ariannol cadarn gael ei gynnwys gyda'r rheoliadau a bod yn destun craffu trylwyr gan y Cynulliad. Credwn mai cyhoeddi rheoliadau drafft, gyda digon o amser i'r rhain gael eu harchwilio gan bwyllgorau perthnasol y Cynulliad, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau hynny. Felly, rydym wedi argymell bod y drefn ar gyfer gwneud y rheoliadau yn cael ei newid i weithdrefn uwchgadarnhaol i ganiatáu i graffu ddigwydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n hapus i ddweud y byddwn, wrth gwrs, yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol. Ceisiais ymdrin â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y ddadl egwyddorion cyffredinol, yn enwedig y pwyntiau ynghylch y ardoll wirfoddol a'r materion trawsffiniol hefyd.
Ar eich pwynt ynghylch gostyngiad refeniw, mae swyddogion y Llywodraeth eisoes wedi codi'r mater hwn mewn trafodaethau â'r Trysorlys, ac ni chodwyd pryderon hyd yma gan y Trysorlys, ond byddaf wrth gwrs yn gwneud yn siŵr bod y Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Rwy'n disgwyl craffu pellach yn ystod y broses ac rwy'n edrych ymlaen at ymdrin â'r pwyntiau hyn eto wrth inni brofi gwelliannau yng Nghyfnod 2, i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn ymdrin â'r hyn yr wyf i'n credu sy'n sail resymegol i bolisi a dderbynnir yn eang ar gyfer y Bil ac i wneud yn siŵr y cawn y manylion yn gywir yn ymarferol.
Gan fod y bleidlais ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio, rwyf hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio.
Ac felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.] Tri ohonoch chi? Felly, fe ganwn ni'r gloch.