Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:46, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl papur sefyllfa Cancer Research UK ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, prinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig sy'n rhannol gyfrifol am y ffaith bod Cymru wedi methu cyflawni targedau amseroedd aros ar gyfer cleifion canser ers 2008. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phrinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig yn y tymor byr?