1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, daeth storm Emma heibio i'n hardal bron i bythefnos yn ôl bellach, a hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i gofnodi fy niolch, a diolch pob Aelod Cynulliad, rwy'n siŵr, i staff y GIG a fu mor wych yn cyrraedd eu gwaith mewn amgylchiadau anodd iawn, ac a fu mor barod i aros ac i weithio am lawer o oriau ychwanegol ar ran cydweithwyr na allent ddod i’r gwaith. Dylem fod yn ddiolchgar dros ben iddynt gan iddi fod yn anodd iawn. Gwn nad oedd modd imi ddod allan o fy nhŷ am dri diwrnod, ond serch hynny, roedd staff yn gweithio yn ein hysbytai lleol. Gwn hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ymwybodol y bu llawer o sôn yn y wasg am staff a ddywedodd eu bod wedi wynebu costau llety ar ôl iddynt aros dros nos er mwyn ein cynorthwyo drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu eich bod wedi dweud yn eithaf pendant—ac ni chredaf fy mod yn rhoi geiriau yn eich ceg—na ddylai hynny ddigwydd. A allwch roi sicrwydd inni nad yw unrhyw staff a aeth i drafferth i'n cynorthwyo wedi wynebu costau ychwanegol, ac y gallwn dalu unrhyw gostau a wynebwyd gan unrhyw un am ba bynnag reswm, ac nad yw’r byrddau iechyd wedi codi tâl ar bobl?
Gallaf. Ac unwaith eto, rwy'n croesawu'r modd y dechreuwch drwy gydnabod gwaith staff ein gwasanaeth iechyd gwladol a gweithwyr eraill y gwasanaethau brys, gweithwyr llywodraeth leol, y trydydd sector, a gwirfoddolwyr, a sicrhaodd fod y gwaith yn parhau. Mae'r straeon amrywiol am bobl a gynorthwyodd weithwyr y gwasanaeth iechyd i gyrraedd eu gwaith yn galonogol iawn.
O ran eich pwynt penodol, rwy'n falch o roi’r sicrwydd hwnnw. Ar y pryd, dywedais nad oeddwn yn credu y dylai hyn ddigwydd. Ymatebodd pob bwrdd iechyd yn gryf gan ddweud bod ganddynt systemau ar waith i sicrhau bod llety yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i staff sy'n dod i’r gwaith yn yr amgylchiadau hyn, uwchlaw'r hyn a ddisgwylir ganddynt fel arfer, ac y dylai unrhyw staff a oedd wedi gwneud eu trefniadau eu hunain, naill ai am nad oedd trefniadau eraill ar gael, neu'n wir, os oedd camgymeriad wedi’i wneud, allu cael ad-daliad gan y bwrdd iechyd am y costau hynny. Ac unwaith eto, rwyf hefyd wedi cael sgwrs gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ynglŷn â’r mater, ac os byddant yn datgelu unrhyw broblemau ychwanegol nad wyf yn ymwybodol ohonynt, byddaf yn fwy na pharod i edrych arnynt a sicrhau y cânt sylw.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, ac rwy'n eithaf siŵr y bydd staff y GIG ledled Cymru yn ddiolchgar hefyd.
Hoffwn roi sylw i iechyd meddwl gyda fy nau ail gwestiwn. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl ychydig wythnosau yn ôl. Gwnaethoch ychydig o sylwadau yn ystod y ddadl honno yr hoffwn fynd ar eu holau. Roeddwn yn dweud ei bod yn hynod o bwysig sylwi ar arwyddion o afiechyd meddwl, yn y gweithle ac mewn ysgolion—lle bynnag y bo—a bod rôl gan bob un ohonom i'w chwarae drwy allu bod gyda rhywun i sylwi ar y ffaith y gallent fod ar drothwy rhyw fath o argyfwng, ac y dylai fod gennym gyfeiriad teithio o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Ac fe ddywedoch eich bod yn teimlo bod cynlluniau ar y gweill mewn perthynas â hynny. Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr offer a'r adnoddau ar gael i bob un ohonom i'n helpu i ddeall beth yw iechyd meddwl, beth yw'r arwyddion a lle y dylem fynd er mwyn cynorthwyo unigolyn arall.
Wel, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod ein gwasanaethau mor hygyrch â phosibl. Rwy'n siŵr, yn yr adeilad hwn, y byddwch wedi gweld yr amrywiaeth o bosteri mewn amryw o leoliadau sy'n amlygu'r ffaith mai weithiau, yr unig beth sydd angen ichi ei wneud yw gwrando ar rywun sydd eisiau siarad. Mae rhan o'r her yn ymwneud â'r ffaith nad yw pawb yn awyddus i siarad ac nad yw pawb yn cydnabod yr heriau sydd ganddynt. Po fwyaf y mae pobl yn siarad ac yn bod yn agored, mae'n gymorth i eraill allu gwneud hynny wedyn hefyd. Yna, mae'r pwynt a wnewch, sef sut y gallwch fynd at unigolyn y credwch eu bod yn cael trafferth er mwyn eu helpu. A gall rhai mathau o berthynas eich caniatáu i wneud hynny weithiau, ond ar yr un pryd, efallai na fydd pobl rydych yn agos atynt, hyd yn oed os ydych yn meddwl eu bod yn cael trafferth, yn ymateb yn dda i rywun yn gofyn, 'A gaf fi helpu?'
Mae rhan o'r her sy'n ein hwynebu yn ymwneud â chydnabod hynny mewn gweithleoedd a rhoi gwerth uchel ar iechyd meddwl a chymorth ehangach. Dyna pam fod iechyd meddwl yn un o'r themâu trawslywodraethol yn ein rhaglen 'Ffyniant i Bawb', a dyna hefyd pam fy mod wedi sicrhau ffocws penodol o fewn y rhaglen honno ar iechyd meddwl yn y gweithle. Felly, mae rhaglen Cymru Iach ar Waith, sy'n cwmpasu oddeutu traean o'r gweithwyr yn y wlad eisoes, yn edrych ar iechyd corfforol a meddyliol yn y gweithle hefyd, ac offer i helpu i sicrhau y gall cyflogwyr roi gwell cefnogaeth i'w gweithwyr. Rydym yn gobeithio gwella a chynyddu hynny. Dyna pam ei fod yn rhan o'r contract economaidd hefyd. Felly, rydym yn awyddus i sicrhau bod cyflogwyr sy'n cael cymorth gan y Llywodraeth i sefydlu busnes yma yn awyddus i fod yn gyflogwyr da ym mhob agwedd, gan gynnwys gofalu am iechyd corfforol a meddyliol eu gweithwyr yn y gweithle.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, gan y credaf fod cymaint o stigma o hyd ynghlwm wrth iechyd meddwl a sut rydym yn ei gydnabod, sut rydym yn sylwi arno a sut rydym yn helpu pobl a allai fod mewn argyfwng i gael mynediad at y cymorth y mae arnynt ei angen.
Treuliais ychydig oriau y bore yma ym Mhontardawe yn edrych ar gyfleuster newydd Hafal, a gwn eich bod wedi bod yno, gan mai chi a'i hagorodd, ac mae'n gyfleuster gwych. A bobl bach, onid fel hynny y dylid darparu gwasanaethau iechyd meddwl? Mae'n hen adeilad sydd wedi cael ei adfywio. Ni wariwyd miliynau a miliynau a miliynau arno, ond mae'n ffynci, mae'n fodern, mae'n teimlo fel gwesty ac rydych yn cael eich trin fel gwestai, nid fel claf neu wahanglaf, gan y gall deimlo fel hynny weithiau gyda rhai o'n hen ffyrdd o ymdrin â phobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae ganddynt 16 o welyau yno, ond dim ond pedwar sy'n cael eu defnyddio, a dyna'r mwyaf o ddefnydd y maent wedi'i gael ers iddynt agor, gan fod gwasanaethau iechyd yn dal i fod yn amharod i ymroi i'r math hwn o ddarpariaeth. Mae'n gam mawr i fyny, ac os oes unrhyw un yn awyddus i ymweld ag ef, rwy'n argymell hynny'n gryf, gan ei fod yn galluogi pobl i ddeall sut y gallant fyw bywyd annibynnol a bod yn iach ac mae'n rhoi diwedd ar y senario drws tro ofnadwy hwnnw.
Beth y credwch y gallwch ei wneud, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau nad yw cyfleuster o'r fath yn edwino, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio'n dda iawn, gan ei fod yn rhagfynegiad o'r hyn y dylai gwasanaethau iechyd meddwl fod—y cydraddoldeb hwnnw, y cyfartalwch hwnnw a'r parch llwyr hwnnw?
Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedoch chi ar ddechrau eich trydydd cwestiwn ynglŷn â stigma. Mae yma daith anorffenedig o hyd o ran mynd i'r afael â stigma, o ran y ffordd y mae pobl yn meddwl am eu hunain ac am iechyd meddwl, yn ogystal â'r ffordd y mae pobl eraill yn meddwl am heriau iechyd meddwl, ac o ran sut rydym yn normaleiddio'r sgwrs am iechyd meddwl yn yr un ffordd yn union ag y gwnawn gyda heriau iechyd corfforol.
Rwy'n cofio Canolfan Adferiad Gellinudd yn agor. Roedd yn ddiwrnod pleserus iawn gyda chacen enfawr, tueddaf i gofio, ac euthum drwy rai o'r ystafelloedd roeddent yn bwriadu eu hagor. A chafwyd sgwrs yno ynglŷn â sicrhau bod comisiynwyr y gwasanaeth iechyd ac eraill yn ymwybodol o'r mannau a oedd ganddynt. Ac edrychais ar y cynllun, ac mae'n edrych fel rhywle y byddech yn dewis aros yn hytrach na rhywle lle mae pobl yn cael eu cuddio ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o naws y lle pan ewch i mewn, ac mae hyn oll yn ymwneud â gwella, a dyna'r pwynt; maent yn cyfeirio ati fel Canolfan Adferiad Gellinudd, gan eu bod yn dymuno edrych ar sut y cynorthwyir pobl ar y daith honno hefyd. Taith yw hi; nid oes pwynt syml lle rydych yn dweud y bydd cyfnod penodedig o amser yn datrys yr holl broblemau. Rydym yn cydnabod nad yw hynny'n wir. Felly, mae rhywbeth yn hyn o beth sy'n ymwneud â sut rydym yn parhau i edrych ar yr hyn y mae pobl yn ei gomisiynu, y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael yno, ac yna sicrhau, pe bai her yn yr ystyr nad oedd gwaith yn cael ei gomisiynu, y byddem yn dod â phobl at ei gilydd yn yr un ffordd yn union ag y gwnaethom gyda chyfleusterau eraill hefyd. Rydym yn dod â chomisiynwyr ynghyd i edrych ar y gwasanaethau sydd yno eisoes i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol ohonynt ac i feddwl sut y maent yn diwallu anghenion eu poblogaeth fel arall, oherwydd dyna'r pwynt: sut y mae'r bwrdd iechyd, ynghyd â'u dyletswyddau gydag awdurdodau lleol, yn cynllunio ar y cyd i ddeall anghenion pobl a gwneud rhywbeth i ddiwallu'r anghenion a nodir ganddynt?
Llefarydd UKIP, Caronline Jones.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl papur sefyllfa Cancer Research UK ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, prinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig sy'n rhannol gyfrifol am y ffaith bod Cymru wedi methu cyflawni targedau amseroedd aros ar gyfer cleifion canser ers 2008. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phrinder gweithwyr yn y gweithlu diagnostig yn y tymor byr?
Mae un neu ddau o bwyntiau y buaswn yn eu crybwyll. Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod y gweithlu diagnostig yn hanfodol nid yn unig ar gyfer canser, ond ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau eraill, o ran sicrhau bod pobl yn cael diagnosis priodol a'u rhoi ar y ffordd naill ai at sicrwydd nad ydynt yn dioddef o'r cyflwr posibl, neu'n wir at y cyfle i ddechrau eu triniaeth ar adeg briodol. Felly, ni ellir osgoi'r gweithlu diagnostig ac maent yn hollbwysig i allu cyflawni targedau go iawn ac ystyrlon.
Hoffwn nodi, unwaith eto, pe bai gennym dargedau Lloegr o 85 diwrnod a 62 diwrnod, mae'n sicr bron y byddem yn cyflawni hynny ar sail reolaidd. Mewn gwirionedd, rwy'n bwriadu edrych eto, fel rwyf wedi'i nodi yn y lle hwn ac mewn mannau eraill hefyd, ar ein targedau presennol ar ganser, ac edrych yn benodol i weld a oes rhai amseroedd aros nad ydynt yn cael eu datgelu gan ein targed amseroedd aros presennol. Os ydym am newid i un llwybr canser, fel rwy'n awyddus inni ei wneud, bydd hynny'n galw am fuddsoddiad pellach yn y gweithlu diagnostig, nid yn unig ar gyfer canser, ond er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau eraill yn cael eu peryglu gan ffocws ychwanegol ar ddarparu un llwybr canser, felly rwy'n ystyried y materion hyn ac rwy'n disgwyl gallu dweud mwy tua diwedd y flwyddyn hon.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag adroddiad Cancer Research UK, maent yn tynnu sylw at y wybodaeth anghyson sydd ar gael ynglŷn â'r gweithlu diagnostig, sy'n ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd lleol wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chynllunio'r gweithlu. Gwyddom fod cyfradd swyddi gwag o oddeutu 13 y cant mewn radiotherapi diagnostig ac mae gennym wybodaeth bellach ynglŷn â phrinder gweithwyr ym maes endosgopi. Ym mis Rhagfyr, arhosodd dros 2,000 o gleifion fwy na 14 wythnos am endosgopi, ac arhosodd llond llaw fwy na 40 wythnos. Mae Cancer Research UK yn rhagweld cynnydd o 40 y cant yn y galw am endosgopi ymhen dwy flynedd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r broses o gynllunio'r gweithlu mewn perthynas â staff diagnostig a sut rydych yn bwriadu torri amseroedd aros am wasanaethau endosgopi yn y cyfamser?
Mae un neu ddau o bwyntiau gwahanol yn y fan honno. Y cyntaf, wrth gwrs, yw ein bod wedi buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen yn addysg a hyfforddiant y gweithlu anfeddygol ar gyfer y dyfodol—£107 miliwn a gyhoeddais—ac mewn cyfnod pan fo llai o adnoddau cyhoeddus ar gael, mae parhau i fuddsoddi hyd yn oed mwy yn y gweithlu a'u hyfforddiant yn y dyfodol yn ddewis arwyddocaol i'w wneud. Mae rhywbeth yn hyn sy'n ymwneud â deall nid yn unig y niferoedd sydd eu hangen arnom yn y gweithlu, ond sut rydym yn dymuno iddynt weithio a ffordd fwy effeithiol o weithio. Mae'r staff eu hunain yn cymryd rhan yn y gwaith o ailgynllunio ffyrdd o ddarparu gofal yn ogystal â'r offer y bydd ei angen arnynt a'r nifer a'r math o staff y bydd eu hangen arnom ninnau gyda'n gilydd hefyd.
O ran y pwynt a grybwyllwyd gennych ynglŷn â gwybodaeth am y gweithlu, wel, y byrddau iechyd eu hunain, fel y cyflogwyr, buaswn yn disgwyl bod y wybodaeth honno ganddynt. Mae yma her sy'n ymwneud â'u dealltwriaeth hwy o'u systemau gwybodaeth eu hunain i ddeall y gweithlu sydd ganddynt ar hyn o bryd, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, ond mae'r gwaith o gyflwyno Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi'i gynllunio'n fwriadol i helpu i wella'r broses o gynllunio'r gweithlu mewn ffordd fwy integredig ac i gael safbwynt cenedlaethol ar yr meysydd lle mae angen inni fuddsoddi mewn rhagor o staff.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o argymhellion adroddiad Cancer Research UK yw archwilio'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer profion diagnostig. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y grŵp Reform adroddiad ar ddeallusrwydd artiffisial yn y GIG, sy'n nodi potensial deallusrwydd artiffisial i leihau bylchau yn y ddarpariaeth iechyd. Er bod adroddiad Reform yn canolbwyntio ar y GIG yn Lloegr, mae'n cynnwys gwersi i ni yng Nghymru. Yn ychwanegol at hynny, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Microsoft blatfform newydd i helpu darparwyr gofal iechyd i harneisio grym deallusrwydd artiffisial a'r cwmwl. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi neu eich swyddogion wedi ystyried adroddiad Reform, ac a ydych yn bwriadu defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu clinigwyr GIG Cymru?
Mae dau bwynt byr y buaswn yn eu gwneud, Lywydd. Y cyntaf yw, hyd yn oed heb Lee Waters yn yr ystafell, rwy'n cydnabod bod deallusrwydd artiffisial, yn sicr, yn rhan o'r dyfodol. Mae'n rhan o heddiw a bydd yn dod yn rhan fwy a mwy o'n cynlluniau o ran y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal. Dylai ein cynorthwyo i gynorthwyo clinigwyr i wneud dewisiadau; dylai sicrhau bod ein llwybrau yn fwy effeithlon ar gyfer dinasyddion hefyd. Credaf fod ganddo botensial gwirioneddol i arbed adnoddau i'w hailfuddsoddi o fewn y gwasanaeth. Felly, nid oes amheuaeth y bydd gan ddeallusrwydd artiffisial fwy o ran i'w chwarae yn nyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.
Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud yw ein bod eisoes yn edrych ar bartneriaethau â chwmnïau technoleg ar sail fechan i sail fwy. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cyhoeddi partneriaeth sylweddol gydag Intel, sy'n awyddus i fuddsoddi ac i gael partneriaeth â Chymru oherwydd y ffordd rydym wedi llunio ein system. Mae'n lle deniadol i fusnesau technoleg fod yn awyddus i weithio gyda'r sector gofal iechyd. Rwy'n siŵr fod fy swyddogion wedi edrych ar yr adroddiad y cyfeirioch chi ato yn Lloegr—nid wyf am esgus fy mod wedi'i ddarllen—ond rwy'n glir ynglŷn â rôl partneriaethau yn y dyfodol gyda chwmnïau technoleg a'r gwasanaeth iechyd gwladol nad ydynt yn peryglu ein gwerthoedd, ond a ddylai ein cynorthwyo i ddarparu gwell gwasanaeth yn awr ac yn y dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau, os caf, drwy gywiro rhai sylwadau a wnaethpwyd ddoe gan arweinydd y Ceidwadwyr, a honnodd fod amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru yn gwella. Mewn gwirionedd, mae'r amseroedd ymateb canolrifol i alwadau coch yn waeth y gaeaf hwn na'r gaeaf diwethaf—mae llai yn cyrraedd o fewn y targed wyth munud. O ran galwadau oren, mae bron i hanner yn cymryd dros 30 munud i gyrraedd bellach—bron ddwywaith mor wael â'r gaeaf diwethaf. Ac mae ein parafeddygon rhagorol yn dweud wrthyf eu bod yn digalonni o ddifrif. Pam fod ambiwlansys yn cymryd mwy o amser i gyrraedd bellach, mewn argyfyngau ac mewn achosion brys a galwadau oren, nag yn y blynyddoedd diwethaf?
Wel, roedd y system yn un a roddwyd ar waith gennym ddwy flynedd yn ôl, a phan edrychwch ar ble roeddem ar ddechrau'r model ymateb newydd o gymharu â ble rydym bellach, mae gwelliant gwirioneddol a sylweddol wedi bod dros y cyfnod hwnnw. O gymharu'r gaeaf hwn â'r gaeaf diwethaf, mae gostyngiad o un neu ddau bwynt canran wedi bod o ran perfformiad, ond rydym yn dal i gyflawni ein targedau.
Yr her, fodd bynnag, yw: sut rydym yn deall, o safbwynt y system, y pwysau rydym wedi'i wynebu y gaeaf hwn, faint o hynny sy'n wirioneddol eithriadol? Ac ar rai dyddiau, fel y gwyddoch, rydym wedi wynebu pwysau nad wyf, mewn gwirionedd, yn credu y gallai unrhyw wasanaeth fod wedi cynllunio ar ei gyfer. Ond mae pwynt mwy cyffredinol yn hyn o beth ynglŷn â'r galw cynyddol rydym yn disgwyl ei weld yn ein system, ac mae'n ymwneud â'n gallu i ymdopi â hynny, ac nid yr ambiwlansys yn unig; mae'n ymateb system gyfan. Felly, mae'n ymwneud â pharhau i wella ar oedi wrth drosglwyddo a sicrhau bod pobl yn symud drwy'r system ysbyty. Mae'n ymwneud â pharhau i wella ar y gwaith a wneir eisoes i geisio sicrhau nad yw pobl yn mynd i'r ysbyty heb fod angen.
Rwy'n cydnabod, hefyd, fod cryn oedi mewn perthynas â galwadau oren, ac nid yw hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn edrych arno gan ddweud, 'Nid yw hynny'n broblem'. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes gan y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys, ynghyd â gwasanaethau ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd, i edrych ar hynny ac i edrych ar beth arall sydd angen inni ei wneud. A bydd dewisiadau i'r gwasanaeth iechyd eu gwneud, ac o bosibl, dewisiadau i'r Llywodraeth eu gwneud, er mwyn cynorthwyo'r gwasanaeth cyfan i wella.
Cytunaf fod arnom angen ymagwedd gwasanaeth cyfan. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod y system gyfan wedi torri a'r ambiwlansys a'r parafeddygon a staff y ganolfan alwadau sy'n gorfod ysgwyddo'r baich. Ac rydych yn dweud eich bod yn cyflawni targedau; nid oes unrhyw dargedau ar gyfer galwadau oren ac mae hynny'n rhan o'r broblem.
Y tu ôl i'r ystadegau, fodd bynnag, mae'n rhaid inni gofio bod yna ambell stori wirioneddol arswydus. Gadewch imi sôn am ddau achos trallodus iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a ddigwyddodd ar yr un diwrnod ar Ynys Môn yn ddiweddar. Ni allaf ddychmygu'r gofid a achoswyd i barafeddygon a fu'n ymdrin â'r achosion hyn, heb sôn am deuluoedd y bobl hynny. Yn gyntaf, poenau yn y frest—galwad goch, yn sicr. Mae ambiwlans yn cyrraedd ar ôl awr a phum munud. Mae'r claf wedi marw. Claf y tybir eu bod wedi cael strôc—galwad oren. Mae ambiwlans yn cyrraedd 10.5 awr yn ddiweddarach. Unwaith eto, bu farw'r claf. Yr un diwrnod.
Gadewch imi ganolbwyntio ar yr ail achos. Efallai nad yw'n effeithio ar y canlyniad os yw ambiwlans yn cyrraedd claf y tybir eu bod wedi cael strôc mewn wyth munud neu 10 munud, ond rhaid eich bod yn cytuno bod aros am oriau am sylw i gyflwr a allai fod mor ddifrifol yn annerbyniol. A ydych yn derbyn bod cael gwared ar unrhyw amser targed ar gyfer galwadau oren yn gorfodi staff ambiwlans sydd eisoes o dan bwysau i drin y galwadau hynny fel rhai â llai o flaenoriaeth, ac felly fod cleifion wedi eu rhoi mewn perygl?
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn hynod o siomedig gyda'r sylwadau a wnaethpwyd ar y dechrau, yn honni bod y system gyfan wedi torri. Nid yw hynny'n wir, a dylai fod cywilydd arnoch am ddweud y fath beth.
Dylai fod cywilydd arnoch chi. Dylai fod cywilydd arnoch chi. Sut y beiddiwch chi? Sut y beiddiwch chi?
Nid wyf yn cuddio—[Torri ar draws.] Nid wyf yn cuddio rhag yr heriau sy'n wynebu ein staff neu ein dinasyddion. Nid yw defnyddio'r fath iaith fwriadol ymfflamychol am ein system gofal iechyd yn adlewyrchu'n dda arnoch, Rhun ap Iorwerth. Nid wyf yn cuddio rhag yr heriau unigol. Ar y naill neu'r llall o'r pwyntiau a wnaethoch, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar yr hyn a ddigwyddodd mewn achosion unigol, ond fe'ch atgoffaf unwaith eto am y rheswm a'r rhesymeg dros roi'r model ymateb clinigol ar waith—nid barn glinigol yn unig, ond y dystiolaeth ynglŷn â sut rydym yn rhedeg ein system ambiwlans ac a ydym yn darparu cymorth i bobl mewn argyfwng a lle mae bywyd yn y fantol. Ac nid oedd y system flaenorol—mae llawer o dystiolaeth, a dderbynnir gan bobl ar draws y Siambr a thu hwnt—yn gweithio’n dda er lles y cleifion. Roedd gennym nifer o gategorïau ar gyfer ymateb wyth munud nad oeddent yn gwneud unrhyw synnwyr. Adolygwyd y dystiolaeth a dangosodd—nid yw'n syndod—fod system 40 mlwydd oed wedi dyddio. Yna, cawsom dystiolaeth glinigol a chyngor ar system well i roi blaenoriaeth i bobl â'r angen mwyaf. Cefnogwyd hynny gan staff parafeddygol ar y rheng flaen. Fe'i cefnogwyd gan arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth iechyd ehangach. Dyna'r model rydym wedi'i roi ar waith.
Rydym hefyd, fodd bynnag, wedi cael adolygiad annibynnol o'r system newydd, ac roedd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar gategoreiddio galwadau. Felly, yn hytrach na gwleidyddion yn dadlau â'i gilydd ynglŷn â pha gyflwr penodol a ddylai fod ym mha gategori penodol, rydym unwaith eto yn edrych ar werthusiad priodol a sail briodol ar gyfer gwneud y dewis hwnnw. Rhaid mai dyna'r ffordd iawn i fwrw ymlaen, nid drwy ddull a arweinir gan ymgyrchu ynglŷn â pha gyflwr a ddylai fod ym mha gategori, ond sicrhau'r dystiolaeth briodol a chyngor clinigol ar beth i'w wneud ac yna gwneud y peth iawn—[Torri ar draws.] Ac yna gwneud y peth iawn o ran staff y system gyfan ac o ran pobl Cymru rydym i fod yma i'w gwasanaethu.
Sut y beiddiwch ddweud y dylai fod cywilydd arnaf? Sut y beiddiwch ddweud y dylai fod cywilydd arnaf am awgrymu bod eich system wedi torri? Staff y GIG ar y rheng flaen, boed mewn ambiwlansys neu mewn unedau damweiniau ac achosion brys, sy'n dweud wrthyf fod y system wedi torri. Chi sy'n gyfrifol am y system, ac rydym eisiau system well ar gyfer y cleifion sy'n haeddu hynny, a dweud y gwir, yma yng Nghymru.
Mae'n peri cryn bryder i staff ambiwlans, boed hynny mewn canolfannau rheoli, neu barafeddygon ar y ffordd, orfod gweld ac ymdrin ag achosion lle roeddent, a lle gallent fod wedi gwneud gwahaniaeth ond ni allent wneud hynny am eu bod wedi parcio, oherwydd y system, y tu allan i ysbytai. Efallai nad yw'n syndod mai staff ambiwlans sydd â'r cyfraddau uchaf o salwch staff o blith holl staff y GIG. Rwyf am i hynny newid, ac un peth y mae'n rhaid inni ei wneud yma yw cynnwys y staff i raddau mwy o lawer yn y dadleuon ynglŷn â dyfodol ein gwasanaeth. Y staff ar y rheng flaen sy'n gwybod sut y gellir gwella'r gwasanaeth. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ymgysylltu llawer mwy—[Torri ar draws.]—i ymgysylltu llawer mwy â staff ar y rheng flaen—efallai nad ydych yn malio; rwyf fi—
Rwy'n malio, Rhun, ac maent yn cael eu cynnwys, bob amser.
—ac yn gwrando ar eu galwadau? Mae angen ymgysylltu â pharafeddygon ar y ffyrdd a staff yr ystafelloedd rheoli, mae ganddynt syniadau, hwy sydd ar y rheng flaen, maent yn haeddu cael eu clywed.
Wel, nid wyf yn ymddiheuro am ddweud nad yw'r GIG wedi torri. Nid wyf yn ymddiheuro am waredu at y ffordd rydych wedi ymdrin â'r mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod—[Torri ar draws.] Rwyf wedi cyfarfod—[Torri ar draws.] Rwyf wedi cyfarfod â pharafeddygon ar yr adegau gwaethaf. Pan gefais fy mhenodi'n Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd, a chyfarfod â pharafeddygon ar y pryd, roeddent yn ddig ac yn ddigalon. Roeddent am i'r system newid. Roeddent yn cydnabod eu bod ar garlam gwyllt i gyflawni targed nad oeddent yn credu ynddo, nad oeddent o'r farn ei fod er budd y claf neu eu budd hwythau fel aelodau o staff ychwaith. Roeddent yn rhan uniongyrchol o'r broses o helpu i newid y system honno. Gwrandawsom ar yr hyn roedd parafeddygon yn ei ddweud wrthym ar y pryd, ac rydym yn parhau i wrando. Rwyf wedi treulio llawer iawn o fy amser yn y swydd hon allan yn gwrando'n uniongyrchol ar staff yn eu gweithleoedd. Roeddwn gyda pharafeddygon yr wythnos diwethaf yng ngogledd Cymru. Bûm yn gwrando arnynt yn sôn am y gwaith y maent yn ei wneud i wella ein system gofal iechyd, y gwaith ar dreial sy'n mynd rhagddo yng ngogledd Cymru, a chredaf ei fod yn debygol o gael ei gyflwyno ledled gweddill y wlad, sef defnyddio uwch barafeddygon i wella gofal y tu allan i'r ysbyty er mwyn osgoi derbyniadau diangen. A byddwn yn parhau i wrando ar ein staff. Byddwn yn parhau i sicrhau eu bod yn ymgysylltu, fel y gwnânt eisoes, fel unigolion yn eu gweithleoedd, o fewn eu hundebau llafur a'u cynrychiolwyr, gan fod hon yn system sy'n awyddus i wella ac i ddysgu. A phe baech yn treulio mwy o amser gyda chynrychiolwyr yn ein system er mwyn edrych ar y gwelliannau a fu dros y blynyddoedd diwethaf, ac edrych ar y gwelliannau pellach rydym yn eu cynllunio a'u treialu, credaf y byddai eich safbwynt ychydig yn wahanol.