Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, daeth storm Emma heibio i'n hardal bron i bythefnos yn ôl bellach, a hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i gofnodi fy niolch, a diolch pob Aelod Cynulliad, rwy'n siŵr, i staff y GIG a fu mor wych yn cyrraedd eu gwaith mewn amgylchiadau anodd iawn, ac a fu mor barod i aros ac i weithio am lawer o oriau ychwanegol ar ran cydweithwyr na allent ddod i’r gwaith. Dylem fod yn ddiolchgar dros ben iddynt gan iddi fod yn anodd iawn. Gwn nad oedd modd imi ddod allan o fy nhŷ am dri diwrnod, ond serch hynny, roedd staff yn gweithio yn ein hysbytai lleol. Gwn hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn ymwybodol y bu llawer o sôn yn y wasg am staff a ddywedodd eu bod wedi wynebu costau llety ar ôl iddynt aros dros nos er mwyn ein cynorthwyo drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu eich bod wedi dweud yn eithaf pendant—ac ni chredaf fy mod yn rhoi geiriau yn eich ceg—na ddylai hynny ddigwydd. A allwch roi sicrwydd inni nad yw unrhyw staff a aeth i drafferth i'n cynorthwyo wedi wynebu costau ychwanegol, ac y gallwn dalu unrhyw gostau a wynebwyd gan unrhyw un am ba bynnag reswm, ac nad yw’r byrddau iechyd wedi codi tâl ar bobl?