Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag adroddiad Cancer Research UK, maent yn tynnu sylw at y wybodaeth anghyson sydd ar gael ynglŷn â'r gweithlu diagnostig, sy'n ei gwneud yn anodd i fyrddau iechyd lleol wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chynllunio'r gweithlu. Gwyddom fod cyfradd swyddi gwag o oddeutu 13 y cant mewn radiotherapi diagnostig ac mae gennym wybodaeth bellach ynglŷn â phrinder gweithwyr ym maes endosgopi. Ym mis Rhagfyr, arhosodd dros 2,000 o gleifion fwy na 14 wythnos am endosgopi, ac arhosodd llond llaw fwy na 40 wythnos. Mae Cancer Research UK yn rhagweld cynnydd o 40 y cant yn y galw am endosgopi ymhen dwy flynedd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r broses o gynllunio'r gweithlu mewn perthynas â staff diagnostig a sut rydych yn bwriadu torri amseroedd aros am wasanaethau endosgopi yn y cyfamser?