Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:51, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau, os caf, drwy gywiro rhai sylwadau a wnaethpwyd ddoe gan arweinydd y Ceidwadwyr, a honnodd fod amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru yn gwella. Mewn gwirionedd, mae'r amseroedd ymateb canolrifol i alwadau coch yn waeth y gaeaf hwn na'r gaeaf diwethaf—mae llai yn cyrraedd o fewn y targed wyth munud. O ran galwadau oren, mae bron i hanner yn cymryd dros 30 munud i gyrraedd bellach—bron ddwywaith mor wael â'r gaeaf diwethaf. Ac mae ein parafeddygon rhagorol yn dweud wrthyf eu bod yn digalonni o ddifrif. Pam fod ambiwlansys yn cymryd mwy o amser i gyrraedd bellach, mewn argyfyngau ac mewn achosion brys a galwadau oren, nag yn y blynyddoedd diwethaf?