Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:49, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o argymhellion adroddiad Cancer Research UK yw archwilio'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer profion diagnostig. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y grŵp Reform adroddiad ar ddeallusrwydd artiffisial yn y GIG, sy'n nodi potensial deallusrwydd artiffisial i leihau bylchau yn y ddarpariaeth iechyd. Er bod adroddiad Reform yn canolbwyntio ar y GIG yn Lloegr, mae'n cynnwys gwersi i ni yng Nghymru. Yn ychwanegol at hynny, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Microsoft blatfform newydd i helpu darparwyr gofal iechyd i harneisio grym deallusrwydd artiffisial a'r cwmwl. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi neu eich swyddogion wedi ystyried adroddiad Reform, ac a ydych yn bwriadu defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu clinigwyr GIG Cymru?