Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, ac rwy'n eithaf siŵr y bydd staff y GIG ledled Cymru yn ddiolchgar hefyd.
Hoffwn roi sylw i iechyd meddwl gyda fy nau ail gwestiwn. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl ychydig wythnosau yn ôl. Gwnaethoch ychydig o sylwadau yn ystod y ddadl honno yr hoffwn fynd ar eu holau. Roeddwn yn dweud ei bod yn hynod o bwysig sylwi ar arwyddion o afiechyd meddwl, yn y gweithle ac mewn ysgolion—lle bynnag y bo—a bod rôl gan bob un ohonom i'w chwarae drwy allu bod gyda rhywun i sylwi ar y ffaith y gallent fod ar drothwy rhyw fath o argyfwng, ac y dylai fod gennym gyfeiriad teithio o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Ac fe ddywedoch eich bod yn teimlo bod cynlluniau ar y gweill mewn perthynas â hynny. Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr offer a'r adnoddau ar gael i bob un ohonom i'n helpu i ddeall beth yw iechyd meddwl, beth yw'r arwyddion a lle y dylem fynd er mwyn cynorthwyo unigolyn arall.