Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Mawrth 2018.
Oes, mae'n amlwg fod diddordeb gennym ym model Buurtzorg a'r broses o'i roi ar waith yng Nghymru. Mae swyddogion yn edrych ar y gwaith yn yr Alban, lle maent yn gobeithio gweithredu—maent ar gam cynnar iawn. Yn Llundain, maent wedi mynd ychydig ymhellach, gyda rhai cynlluniau peilot eisoes ar waith. Credaf fod y pethau hyn yn cyd-fynd â'r safbwynt a nodir yn yr arolwg seneddol ynghylch modelau gofal cymdogaeth newydd—gofal iechyd lleol iawn. Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynllun peilot ar waith yw ceisio gwneud hyn dros ddwy flynedd fel y gellir cael tystiolaeth ddefnyddiol mewn amrywiaeth o leoliadau ar gyfer dysgu system gyfan, ac yna, gobeithio, os oes modelau y dylem eu rhoi ar waith, bydd her i'r system allu cyflawni hynny'n gyflym. Mae swyddogion hefyd wedi cyfarfod â Public World a Buurtzorg Britain & Ireland, sy'n cefnogi'r cynlluniau peilot yn yr Alban a Lloegr. Felly, mae gennym y cyfle gorau i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yno, yn ogystal â'r gwaith nad yw wedi dechrau eto yng Ngogledd Iwerddon.