Gofal Nyrsio yn y Gymdogaeth

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:03, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae gennym ninnau gryn ddiddordeb yn y model hwn hefyd, yma yn y Ceidwadwyr Cymreig, a gobeithio y bydd modd i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith y cynlluniau peilot dros y ddwy flynedd nesaf. Un model yn unig yw hwn, wrth gwrs. Fe fyddwch yn gwybod am un model sydd o ddiddordeb arbennig i mi, sef model canolfan gofal sylfaenol Castell-nedd, a gefnogwyd gan arian Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau sy'n pennu cyfeiriad yn 2016, ac a gafodd ei gymeradwyo gan feddygon teulu, gan gynnwys y coleg brenhinol, yn ogystal â chleifion. Tybed a allwch roi rhyw fath o syniad inni beth sy'n digwydd i werthusiadau'r treialon amrywiol hyn, a chadarnhau a ellir defnyddio'r gronfa gofal integredig i droi cynllun peilot llwyddiannus yn rhywbeth parhaol a chynaliadwy. Neu a fydd angen i bob partner gyfrannu at bot buddsoddi er mwyn troi'r cynlluniau peilot hynny'n rhywbeth sy'n para ychydig yn hwy—rhai llwyddiannus?