Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:54, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Cytunaf fod arnom angen ymagwedd gwasanaeth cyfan. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod y system gyfan wedi torri a'r ambiwlansys a'r parafeddygon a staff y ganolfan alwadau sy'n gorfod ysgwyddo'r baich. Ac rydych yn dweud eich bod yn cyflawni targedau; nid oes unrhyw dargedau ar gyfer galwadau oren ac mae hynny'n rhan o'r broblem.

Y tu ôl i'r ystadegau, fodd bynnag, mae'n rhaid inni gofio bod yna ambell stori wirioneddol arswydus. Gadewch imi sôn am ddau achos trallodus iawn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, a ddigwyddodd ar yr un diwrnod ar Ynys Môn yn ddiweddar. Ni allaf ddychmygu'r gofid a achoswyd i barafeddygon a fu'n ymdrin â'r achosion hyn, heb sôn am deuluoedd y bobl hynny. Yn gyntaf, poenau yn y frest—galwad goch, yn sicr. Mae ambiwlans yn cyrraedd ar ôl awr a phum munud. Mae'r claf wedi marw. Claf y tybir eu bod wedi cael strôc—galwad oren. Mae ambiwlans yn cyrraedd 10.5 awr yn ddiweddarach. Unwaith eto, bu farw'r claf. Yr un diwrnod.

Gadewch imi ganolbwyntio ar yr ail achos. Efallai nad yw'n effeithio ar y canlyniad os yw ambiwlans yn cyrraedd claf y tybir eu bod wedi cael strôc mewn wyth munud neu 10 munud, ond rhaid eich bod yn cytuno bod aros am oriau am sylw i gyflwr a allai fod mor ddifrifol yn annerbyniol. A ydych yn derbyn bod cael gwared ar unrhyw amser targed ar gyfer galwadau oren yn gorfodi staff ambiwlans sydd eisoes o dan bwysau i drin y galwadau hynny fel rhai â llai o flaenoriaeth, ac felly fod cleifion wedi eu rhoi mewn perygl?