Gwasanaethau Deintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:20, 14 Mawrth 2018

Wel, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n dweud bod pethau wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn sicr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o'r hyn rwyf wedi gweld o etholwyr yn dod ataf i, mae'r dirywiad wedi ei osod mewn ac yn dechrau gwaethygu. Felly, nid oes deintydd NHS bellach yn Aberystwyth. Nid oes modd i glaf newydd gael deintydd NHS yn nhref fwyaf canolbarth Cymru. Mae yna restr aros o dair blynedd o hyd ar gyfer orthodonteg yn Hywel Dda. Rwyf wedi codi hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes gwella wedi bod yn y maes yma. Mae gen i glaf sy'n etholwr i fi yn ardal Betsi Cadwaladr sy'n dal i aros am implants hanfodol gan fod yr ymgynghorydd deintyddol a oedd wedi cael ei fewnforio dros dro i Betsi Cadwaladr bellach wedi dychwelyd i Birmingham, heb ddelio â chlaf sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn.

Mae'r sefyllfa ddeintyddol yn gwaethygu erbyn hyn. Pa gamau penodol ydych chi'n mynd i gymryd, yn enwedig yn Betsi Cadwaladr, yr ydych chi'n gyfrifol yn uniongyrchol amdano, ond hefyd yn Hywel Dda, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau yma nid yn unig yn peidio â dirywio ond yn dechrau gwella?