1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51902
Diolch. Mae mynediad at ofal deintyddol y GIG wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, er bod anawsterau o hyd mewn rhai meysydd. Mae gan y byrddau iechyd gyllidebau a chyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau deintyddol ac maent yn gweithio i fynd i'r afael â diffygion yn y ddarpariaeth drwy eu cynlluniau gweithredol.
Wel, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n dweud bod pethau wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn sicr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o'r hyn rwyf wedi gweld o etholwyr yn dod ataf i, mae'r dirywiad wedi ei osod mewn ac yn dechrau gwaethygu. Felly, nid oes deintydd NHS bellach yn Aberystwyth. Nid oes modd i glaf newydd gael deintydd NHS yn nhref fwyaf canolbarth Cymru. Mae yna restr aros o dair blynedd o hyd ar gyfer orthodonteg yn Hywel Dda. Rwyf wedi codi hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes gwella wedi bod yn y maes yma. Mae gen i glaf sy'n etholwr i fi yn ardal Betsi Cadwaladr sy'n dal i aros am implants hanfodol gan fod yr ymgynghorydd deintyddol a oedd wedi cael ei fewnforio dros dro i Betsi Cadwaladr bellach wedi dychwelyd i Birmingham, heb ddelio â chlaf sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn.
Mae'r sefyllfa ddeintyddol yn gwaethygu erbyn hyn. Pa gamau penodol ydych chi'n mynd i gymryd, yn enwedig yn Betsi Cadwaladr, yr ydych chi'n gyfrifol yn uniongyrchol amdano, ond hefyd yn Hywel Dda, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau yma nid yn unig yn peidio â dirywio ond yn dechrau gwella?
Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld 45,000 yn ychwanegol o gleifion y GIG yn derbyn gofal deintyddol y GIG yn ardal Hywel Dda. Yr her sy'n ein hwynebu yw ein gallu i ateb cyflymder y galw, ac rwy'n cydnabod bod heriau gwirioneddol i'w cael, yn enwedig mewn perthynas ag orthodonteg, a gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf parthed hynny ar sawl achlysur. Rwy'n cydnabod bod rhai pobl yn aros yn hwy nag y dylent, ond mae angen inni edrych hefyd ar yr hyn sy'n digwydd go iawn o fewn y rhestrau aros, a phan gaiff pobl eu cyfeirio, a wneir yr atgyfeiriad priodol ar y pryd. Mae hynny'n rhan o'r angen i edrych ar y gwasanaeth.
Ond, yn gadarnhaol, rwyf wedi siarad gyda'r ddau fwrdd iechyd ynglŷn â'u cynlluniau, oherwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ddau fwrdd iechyd wedi tanwario ar eu cyllidebau deintyddol a glustnodwyd. Felly, mae yma her o ran sicrhau eu bod yn gwario'r adnoddau sydd ganddynt ar gyfer gwasanaethau deintyddol. Rwy'n disgwyl gweld cynlluniau gwell ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a rhoddaf sicrwydd llwyr i chi ynglŷn â lefel y manylion yng nghynllun Hywel Dda, gan fy mod yn deall eu bod yn awyddus i ddarparu rhagor o wasanaethau. Mae ganddynt gynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf. Maent yn dechrau proses dendro—mae'n ddrwg gennyf, mae proses dendro eisoes ar waith, a bydd honno'n cynnwys gwasanaethau newydd mewn 10 lleoliad ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. Hoffwn lefel debyg o hyder ym manylion y cynllun ar gyfer gogledd Cymru, gan fy mod yn llawn ddisgwyl y byddwch chi ac Aelodau eraill yn parhau i ofyn cwestiynau os yw eich etholwyr yn parhau i aros am gyfnodau annerbyniol o hir am y gwasanaeth, neu'n clywed nad oes deintydd GIG o fewn pellter teithio rhesymol.