Blaenoriaethau Gwasanaeth Iechyd yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:23, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch eisoes, bydd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori cyn bo hir ar eu cynigion i drawsnewid gwasanaethau yng ngorllewin Cymru. Fel y gwyddoch, rwy'n gwrthwynebu unrhyw gynigion a fyddai'n arwain at israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, neu gau'r ysbyty'n gyfan gwbl, oherwydd, fel y gwyddoch, nid yw'r bwrdd iechyd wedi diystyru'r posibilrwydd hwnnw.

O dan yr amgylchiadau hyn, a allwch gadarnhau ar gyfer y cofnod heddiw eich bod wedi cynnal trafodaethau gyda bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn? Ac a allwch gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd y bydd arian yn cael ei ddarparu ar gyfer pa opsiynau bynnag y bydd y bwrdd iechyd lleol yn penderfynu eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn eu cylch? Oherwydd os nad yw hynny'n wir, pa ddiben ymgynghori ar unrhyw opsiynau o gwbl?