Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Mawrth 2018.
Ym mis Ionawr, ymatebwyd i 68.3 y cant o alwadau coch ym Mhowys o fewn wyth munud. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd, y sector gwirfoddol a phartneriaid yn y gwasanaethau tân ac achub i wella'r ymateb mewn ardaloedd gwledig fel Powys lle y gall fod yn anos rhagweld ffocws y galw.