1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys? OAQ51885
Ym mis Ionawr, ymatebwyd i 68.3 y cant o alwadau coch ym Mhowys o fewn wyth munud. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd, y sector gwirfoddol a phartneriaid yn y gwasanaethau tân ac achub i wella'r ymateb mewn ardaloedd gwledig fel Powys lle y gall fod yn anos rhagweld ffocws y galw.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi gweld cynnydd sylweddol, ers mis Tachwedd, yn y pryderon a godwyd ynghylch oedi difrifol o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd yn dilyn galwad 999. Yn ôl y cwestiynau a ofynnwyd i chi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae'n ymddangos bod hynny'n cynyddu hefyd ymhlith yr Aelodau.
Nawr, mae'n rhaid imi ddweud, cafwyd un digwyddiad lle roedd etholwr wedi syrthio ar y stryd yn y Drenewydd ac arhosodd am awr a hanner ar balmant oer i'r ambiwlans gyrraedd. Yn yr amser hwnnw, gwaethygodd sefyllfa'r etholwr yn sylweddol. Mae'n rhaid imi ddweud, ysgrifennais at yr ymddiriedolaeth ambiwlans, a dywedwyd wrthyf fod hyn yn annerbyniol. Ond roeddent hefyd yn dweud bod hyn yn anffodus ac na ellid bod wedi ei osgoi, ac aethant yn eu blaenau i ddweud wrthyf, o'r naw cerbyd brys sydd ar gael yn ardal Powys, fod saith ohonynt yn aros y tu allan i ysbytai i drosglwyddo cleifion i ofal staff ysbyty.
Nawr, ymddengys i mi fod hon yn broblem sy'n ymwneud yn benodol ag Ysbyty Maelor Wrecsam, yn anffodus, hefyd. Mae'n rhaid imi ddweud, y penwythnos hwn, tynnwyd fy sylw at fater arall lle bu'n rhaid i un o drigolion y Trallwng aros saith awr am ambiwlans. Nid wyf yn disgwyl ichi wneud sylwadau ar yr enghreifftiau penodol hyn, ond mae'r rhain yn peri cryn drallod, wrth gwrs, i'r claf, trallod i'r bobl sy'n aros gyda'r claf, a chryn rwystredigaeth hefyd i staff yr ambiwlans a'r parafeddygon sy'n gwneud gwaith gwych yn cynorthwyo wedi iddynt gyrraedd.
A gaf fi ofyn i chi: buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi manylion i mi ynglŷn â beth rydych yn ei wneud i atal yr amseroedd trosglwyddo mewn ysbytai rhag achosi'r oedi hwn? Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod y digwyddiadau hyn yn annerbyniol, a'u bod yn digwydd yn amlach, yn anffodus.
Ydw, rwy'n cydnabod y darlun rydych yn ei baentio a'r ffaith bod mwy o bobl, dros y gaeaf hwn, wedi bod yn aros yn rhy hir o lawer am wasanaeth, ac nid wyf yn ceisio honni bod hynny'n dderbyniol o gwbl. Mae yna her yma i ni ddeall beth y mae angen inni ei wneud ar draws ein system i wella hynny, yn wir, gan gynnwys dewisiadau ynghylch capasiti neu beidio, ond rydych yn nodi un o'r heriau sy'n ein hwynebu, sef oriau coll a heriau wrth drosglwyddo yn benodol. Nawr, bwriad y canllawiau a ddarparwyd mewn adrannau achosion brys yw sicrhau bod pobl yn cael eu trosglwyddo'n gyflym o'r ambiwlans i'r adran achosion brys, a cheir heriau mewn gwahanol unedau ledled Cymru mewn perthynas â'r gallu i wneud hynny mor gyflym ag y gwelwn, er enghraifft, yng Nghwm Taf, sydd bob amser wedi bod—wel, yn sicr, dros yr ychydig aeafau diwethaf—yn esiampl dda o drosglwyddo cleifion yn gyflym, a rheoli risg o fewn adran achosion brys yn hytrach na pheri risg na ellir ei rheoli o fewn y gymuned os yw ambiwlansys yn gorfod aros.
Rwy'n cydnabod y trallod i unigolion a'u teuluoedd yn ogystal â rhwystredigaeth y staff. Mae rhaglen waith ar y gweill yng Nghymru mewn perthynas â hynny. Mae'r cyfarwyddwr clinigol ar gyfer gofal heb ei drefnu, Jo Mower, sy'n feddyg ymgynghorol yn ysbyty'r Mynydd Bychan, yn awyddus i gael y sgwrs honno gyda chydweithwyr ledled y wlad ynglŷn â gwella ymarfer, ond wrth gwrs, rydym bellach yn amlygu'r oriau coll a ddarperir. Nid oedd hynny'n rhywbeth a wnaethpwyd yn gyhoeddus i ddechrau. Yn rheolaidd, o ganlyniad i'r system newydd rydym wedi'i rhoi ar waith—. Ond nid yw eich pryder ynghylch Powys yn broblem benodol ynglŷn ag Ysbyty Maelor Wrecsam, oherwydd mae'n rhaid imi ddweud mai yn Ysbyty Brenhinol Amwythig y cafwyd y rhan fwyaf o'r achosion o oedi wrth drosglwyddo sydd wedi effeithio ar gleifion Powys dros y ddeufis diwethaf. Mae yna her i'w datrys yn Wrecsam ac ym Mronglais, ond y rhan fwyaf o'r her sy'n effeithio ar eich etholwyr, mewn gwirionedd, yw'r Amwythig.