Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 14 Mawrth 2018.
Edrychwch, fel y gwyddoch yn dda, mae Llywodraeth y DU yn gwbl gefnogol i ddiwydiant dur Prydain, a'r wythnos diwethaf yn unig, bu'n siarad yn erbyn y tariffau sy'n cael eu gosod yn yr Unol Daleithiau. A chredaf ei bod hi'n bwysig i chi wrando'n fwy astud ar Lywodraeth y DU a'r gwaith pwysig y mae wedi'i wneud yn hyrwyddo diwydiant dur Cymru a'r diwydiant dur ehangach ledled y DU.
Ond wrth gwrs, mae'r strategaeth ddiwydiannol yn cyfeirio at yr angen am fwy o gyfleoedd i bobl ymgymryd â hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys llawer mwy o brentisiaethau. Credaf fod angen inni fod yn bryderus iawn, mewn gwirionedd, er gwaethaf yr holl siarad a wneir dros gymwysterau galwedigaethol yn y Siambr hon ar bob ochr i'r tŷ, nad ydym eto mewn sefyllfa lle mae hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol yn cael yr un parch â chymwysterau academaidd. Gwyddom y gall y profiad ymarferol y mae pobl ifanc yn ei gael pan fyddant yn gallu manteisio ar hyfforddiant galwedigaethol da o ansawdd uchel roi cymorth iddynt ddechrau mewn gyrfaoedd a rhoi mantais iddynt, mewn gwirionedd, dros unigolion sydd wedi dilyn llwybrau academaidd pur yn y pynciau gyrfaol y maent wedi'u dewis.
Yn ogystal â hynny, rydym yn mynegi'r pryder ynghylch y ffaith bod llawer o raddedigion Cymreig yn ennill llai yma nag mewn rhannau eraill o'r DU. Mae'n drasiedi pur yn fy marn i nad oedd ond 68 y cant yn unig o raddedigion o brifysgolion Cymru yn ennill dros £21,000 mewn cyflogaeth lawn amser, yr isaf o blith holl wledydd a rhanbarthau'r DU, ac nad oedd ond 55 y cant o'r bobl a astudiodd ym mhrifysgolion Cymru yn gweithio yng Nghymru dair blynedd yn ddiweddarach. Rhaid inni greu mwy o gyfleoedd i gadw'r dalent honno yma yng Nghymru. A chredaf mai'r hyn a welwn mewn rhannau eraill o'r DU yw unigolion sy'n mynd o Gymru i astudio mewn mannau eraill ac yn setlo yno yn y pen draw am fod ganddynt gyfleoedd gwell yn economaidd. Ni all hynny fod yn iawn, ac mae angen inni roi sylw iddo.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi nodi un peth y credwn y byddai'n helpu i wneud Cymru yn fwy deniadol i bobl ifanc, sef ein cynnig cerdyn gwyrdd, a roddwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol beth amser yn ôl—ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi awgrymu y dylem helpu ein pobl ifanc gyda chymorth ar gyfer defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn iddynt allu symud o gwmpas. Rydym yn gwybod bod Cymru yn wlad wledig. Mae'n ddrud iawn i deithio pellteroedd maith i'r gwaith, a chredaf mai'r peth lleiaf y gallwn ei wneud yw rhoi teithiau am ddim ar fysiau iddynt a gostwng prisiau tocynnau ar ein gwasanaethau trên. Croesawyd ein cynigion gan Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, mae Bysiau Arriva wedi siarad yn gadarnhaol iawn am ein cynigion, ac wrth gwrs, gallent helpu i gynnal gwasanaethau bysiau lle maent dan fygythiad ar hyn o bryd oherwydd diffyg buddsoddiad grantiau trafnidiaeth lleol nad yw ar gael gan awdurdodau lleol. Pobl ifanc sy'n wynebu'r costau yswiriant uchaf pan fyddant yn yswirio'u ceir. Felly, mae'r costau trafnidiaeth hyn yn rhwystr i bobl ifanc rhag gallu aros yng Nghymru. Mae angen inni fynd i'r afael â hwy, ac felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod ein gwelliant yn ceisio cynnig atebion, a dyna pam rwy'n hapus i'w gynnig.