10. Dadl Plaid Cymru: Pobl Ifanc a chymunedau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:19, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sylweddoli bod y rhan fwyaf yn gwneud hynny, ond mwyafrif bychan iawn ydyw. Dair blynedd a hanner wedi iddynt raddio, nid yw 45 y cant yn aros yng Nghymru, ac nid ydynt yn dychwelyd i Gymru. Yn sicr, mae hynny'n destun pryder i chi, fel y mae lefel y cyflog y mae'r unigolion hynny yn ei gael, gyda 68 y cant yn cael llai nag £21,000.