Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 14 Mawrth 2018.
Gan adeiladu ar hyn, a gyda'r nod o ysbrydoli meddyliau ifanc gyda'i gilydd, rydym yn cefnogi rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen gyda hyd at £1 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Roeddwn wedi gobeithio lansio'r rhwydwaith hwnnw ddydd Gwener diwethaf, ond cawsom ein trechu gan y tywydd gwael. Felly, rwy'n lansio hyn yn ffurfiol ar ddiwedd y mis. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaeth addysg, ysgolion a lleoliadau sy'n darparu'r cyfnod sylfaen, ein consortia rhanbarthol, addysg uwch sy'n cyflwyno elfen ymchwil hanfodol i'r rhwydwaith, a sefydliadau trydydd sector. Byddant yn dod ynghyd i rannu arbenigedd, profiad, gwybodaeth ac arferion gorau. Rydym yn trafod dull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio a beth sy'n gweithio'n dda. Hoffwn ddweud nad ydym yn dechrau o sylfaen ofnadwy.
Mae gan Llyr ddiddordeb personol, wrth gwrs, ym mhob dim sy'n ymwneud â gogledd Cymru, ac rwy'n ei annog i ymweld ag Ysgol Gynradd Sandycroft yn sir y Fflint y nododd Estyn fod ganddi ddull gwych o ddatblygu'r sgiliau hyn yn y plant ieuengaf oll. Mae angen inni ddefnyddio'r rhwydwaith i sicrhau bod yr arferion gorau a welwn mewn lleoliadau fel Sandycroft ar gael ledled Cymru.
Bydd rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen a'i blatfform ar-lein yn darparu cefnogaeth allweddol i ddatblygiad proffesiynol. Mae hyn yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol—yr hyn y soniwyd amdano'n gynharach, o ran dysgu proffesiynol. Rwyf wedi'i ddweud yn y ddadl yn gynharach heddiw, ac fe'i dywedaf eto yn awr: ein nod yw codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu gwasanaeth addysg sy'n ffynhonnell i falchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd, ond ni fydd ond cystal â'r bobl sy'n cyflawni hynny mewn ystafelloedd dosbarth a sefydliadau o flaen ein plant.
Fodd bynnag, fe wyddom mai amgylchedd y cartref yw'r ffactor unigol mwyaf mewn cyrhaeddiad addysgol ar ôl ansawdd yr addysgu, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Dyna pam, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi cymaint o bwyslais arno wrth ddatblygu cyfres o raglenni ar draws llawer o bortffolios. Mae ymgysylltu â rhieni yn hynod o bwysig ac mae'n nodwedd amlwg iawn o raglen llafaredd y cyfnod sylfaen ar gyfer 2017-18.
Soniodd Llyr ein bod wedi lansio ymgyrch genedlaethol ar y cyfryngau ym mis Ionawr eleni o'r enw 'Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae', sy'n annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i dreulio amser gyda'u plant. Mae'n eu hannog i siarad â hwy, gwrando arnynt, ac i chwarae. Os darllenwch bapurau academaidd, fe fyddwch yn gwybod bod chwarae yn elfen hanfodol o ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae'n ymwneud â helpu plant i wella eu datblygiad iaith, ac mae'r ymgyrch yn rhoi awgrymiadau ymarferol i rieni allu helpu plant—nid plant sydd eisoes mewn addysg ffurfiol yn unig, Llyr, ond mewn gwirionedd, cynlluniwyd y rhaglen i gynorthwyo rhieni yn y grŵp oedran tair i saith; felly, eu paratoi i fynd i'r ysgol. Fel y gwyddom, awgrymiadau ymarferol sydd eu hangen gan amlaf ar rieni os ydym yn mynd i chwalu peth o'r effaith sy'n pontio'r cenedlaethau ar dlodi, gan fod sgiliau cyfathrebu gwael, yn wir, yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn aml.
Wrth gwrs, ers dod i rym, rwyf wedi dyblu'r swm o arian sy'n mynd tuag at grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar. Unwaith eto, cymorth ychwanegol yw hwn ar gyfer plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ar y cam cynharaf posibl yn eu gyrfa addysgol. Rydym wedi gallu gwneud hyn er ei bod yn adeg anodd tu hwnt i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol, ond rydym yn cydnabod, fel y gwnaethoch chi, Llyr, y byddai buddsoddi'n gynnar yn awr i gefnogi profiadau addysgol y plant hyn o fudd mawr iddynt hwy ac i gymdeithas yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Lywydd dros dro, mae yna ddimensiwn arall hefyd i'r gwaith hwn a wnawn i fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau sy'n arwain at ddatblygiad iaith a chyfathrebu gwael yn gynnar. Bydd ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 uchelgeisiol yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai y nodwyd bod eu sgiliau lleferydd ac iaith wedi'u hoedi. Rwy'n falch o ddweud bod y Ddeddf yn sefydlu rôl newydd, sef swyddog arweiniol ADY blynyddoedd cynnar, yn benodol ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddynodi unigolyn i gydlynu ei swyddogaethau yn y maes hwn o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn golygu y gellir nodi problemau cyfathrebu yn gynnar a gosod camau ymyrryd priodol ar waith. Wrth gwrs, gallai hyn gynnwys atgyfeirio at therapi lleferydd ac iaith. Yn bwysig, bydd y rôl newydd hon yn helpu i greu cysylltiad gwell rhwng ysgolion, cylchoedd meithrin, awdurdodau lleol a'r GIG. Bydd cysylltiad gwell yn arwain at ragor o ymyriadau amserol i bobl ifanc heb y frwydr y mae llawer o rieni, rwy'n cydnabod, yn ei hwynebu o bryd i'w gilydd.
Nid wyf yn bychanu maint y dasg o geisio gwella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu rhai o'n plant mwyaf difreintiedig. Yn wir, yr wythnos diwethaf, bûm yn siarad ag addysgwyr proffesiynol am eirfa haen 2 a diffyg geirfa haen 2 a sut y gallai hynny rwystro gallu plant tlotach i ateb papurau arholiad ar lefel TGAU—y gallu i ddeall beth y mae gofyn iddynt ei wneud yn y cwestiwn, i allu cael yr eirfa well honno fel eu bod yn gwybod sut i ateb y cwestiwn yn y ffordd orau, yn hytrach na nodi cysyniad allweddol ac ysgrifennu popeth y maent yn ei wybod am y cysyniad allweddol hwnnw am nad ydynt yn deall go iawn beth y mae'r cwestiwn yn ei ofyn. Felly, mae'r rhaglen hon yn rhan o'n hymrwymiad i godi safonau yn nes ymlaen ar daith addysgol person ifanc.
Llyr, nid ydych yn anghywir: mae cost ddynol, gymdeithasol ac economaidd i beidio â gwneud pethau'n iawn. Gwyddom y gall canlyniadau peidio â chefnogi sgiliau iaith cynnar plant arwain at amrywiaeth o ganlyniadau negyddol yn nes ymlaen mewn bywyd, fel rydych wedi nodi heddiw, a dyna pam y mae cymaint o'n rhaglenni a'n hadnoddau'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â hyn. Ac fel y dywedais, er bod cyllidebau dan bwysau, rydym yn rhoi arian tuag at gynnal y rhaglenni hyn, a chredaf y byddwn, drwy wneud hynny, yn trawsnewid cyfleoedd bywyd y plant hyn ac yn ein helpu i ddatblygu fel cenedl.