– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 14 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer—y dadleuon byr—ac mae'r ddadl fer gyntaf i'w chyflwyno gan Llyr Gruffydd. Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel, ac fe wnaf i ofyn i Llyr Gruffydd siarad ac i gyflwyno ei ddadl. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno y ddadl fer yma y prynhawn yma ar destun datblygiad iaith cynnar, ac rydw i wedi cytuno i Mark Isherwood i gael ychydig o fy amser i hefyd i gyfrannu i'r ddadl yma. Ac yn y ddadl, rydw i eisiau amlygu sut mae sgiliau iaith cynnar da yn hollbwysig i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, ac i'w paratoi nhw ar gyfer yr ysgol, wrth gwrs.
Nawr, mae'r sgiliau yn gwneud cyfraniad cwbl greiddiol at allu plentyn i gyflawni ei botensial addysgol, ei symudedd cymdeithasol a'i gyfleoedd mewn bywyd, ac mae sgiliau cyfathrebu yn hollbwysig, felly, ac yn sylfaenol yn hynny o beth. Maen nhw'n cynnwys nid yn unig sgiliau mynegi, expressive, sef ein gallu ni i gael pobl eraill i'n deall ni, ond hefyd sgiliau goddefol, neu receptive. Hynny yw, ein gallu ni i ddeall.
Mae gan leiafrif o blant, wrth gwrs, anabledd neu nam sy'n golygu na fyddan nhw'n datblygu'r sgiliau iaith disgwyliedig ar gyfer eu hoedran, ond mae'r rhan fwyaf o blant yn gallu cyrraedd y nod hwnnw o gael y cymorth cywir. Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng tlodi ac oedi o ran sgiliau iaith cynnar, ac mae yna fwlch parhaus rhwng sgiliau iaith y plant tlotaf a’u cyfoedion mwy cefnog. Mae hybu sgiliau iaith cynnar plant, felly, yn hollbwysig er mwyn cau’r bwlch cyrhaeddiad yna a gwella cyfleoedd bywyd ein plant tlotaf ni.
Mae’n amserol iawn ein bod ni’n trafod y pwnc yma heddiw, yn dilyn cyhoeddi’r cynllun ar gyfer y gweithlu gofal plant y blynyddoedd cynnar a chwarae gan Lywodraeth Cymru—o’r diwedd, os caf i ddweud, oherwydd fe'i cyhoeddwyd e ym mis Rhagfyr, ac fe gofiwch chi fy mod i ac eraill wedi bod yn galw am ei gyhoeddi e gan ei fod wedi bod mewn ffurf drafft am bron i ddwy flynedd, o beth roeddwn i’n ei ddeall. Ond mae e wedi cael ei gyhoeddi. Mae hefyd yn amserol yn sgil y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wrth gwrs, am yr ymgyrch Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae ym mis Ionawr.
Nawr, yn gyntaf, rydw i am gyflwyno’r dystiolaeth ynghylch pam mae’r mater yma yn un pwysig.
Fel y soniais yn gynharach, ceir tystiolaeth gref i danlinellu'r berthynas rhwng tlodi ac oedi o ran sgiliau iaith gynnar, gyda phlant o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith gwannach na phlant mewn grwpiau mwy breintiedig. Ac mae hynny'n golygu bod sgiliau iaith yn ffactor hollbwysig yn y cylchredau sy'n pontio'r cenedlaethau a all barhau tlodi mewn gwirionedd, gan fod sgiliau cyfathrebu gwael yn cael eu trosglwyddo o riant i blentyn. Yn wir, mae'r ystadegau yn eithaf brawychus ac mewn gwirionedd, maent yn siarad drostynt eu hunain.
Mae'n bosibl fod dros hanner y plant mewn ardaloedd sy'n gymdeithasol ddifreintiedig yn dechrau'r ysgol gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael, ac erbyn y byddant yn dair oed, mae plant o 20 y cant tlotaf y boblogaeth yn llusgo bron flwyddyn a hanner ar ôl plentyn yn y grŵp incwm uchaf o ran datblygiad iaith. Nawr, gadewch i ni feddwl am hynny: eisoes, erbyn eu bod yn dair oed, mae plant o 20 y cant tlotaf y boblogaeth flwyddyn a hanner ar ei hôl hi. Nawr, mae 80 y cant o athrawon wedi nodi eu bod yn aml yn gweld plant yn dod i'w hysgolion yn cael trafferth siarad mewn brawddegau llawn, ac nid oes amheuaeth gennyf fod pob un ohonom yma yn y Cynulliad yn unedig yn ein huchelgais i dynnu plant allan o dlodi a rhoi mwy o gyfleoedd bywyd iddynt, ond hyd yma nid yw'r Llywodraeth na'r Cynulliad hwn wedi canfod ffordd o wireddu'r uchelgais hwnnw'n briodol. Ac eto fe wyddom, wrth gwrs, y canfuwyd mai geirfa yn bump oed yw'r rhagfynegydd gorau o'r modd y gallodd plant sy'n wynebu amddifadedd cymdeithasol yn ystod plentyndod fynd yn groes i'r duedd a dianc rhag tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd fel oedolion.
O gymharu â phlant a oedd â datblygiad iaith normal yn bump oed, mae plant pum mlwydd oed sydd â sgiliau dieiriau normal ond geirfa wael un a hanner gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddarllenwyr gwael neu o gael problemau iechyd meddwl a mwy na dwywaith mor debygol o fod yn yn ddi-waith erbyn iddynt gyrraedd 34 oed. Felly, mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael plant yn effeithio'n ddifrifol ar ystod eang o ganlyniadau, gan gynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd ysgol a chyflogadwyedd.
Mae gan chwech o bob 10 o bobl ifanc yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid anawsterau cyfathrebu, ac mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu gan 88 y cant o ddynion ifanc sy'n ddi-waith yn hirdymor. Rydym hefyd yn gwybod, heb gymorth effeithiol, y bydd angen triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl ar draean o blant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu pan fyddant yn oedolion. Nawr, mae hynny'n syfrdanol. Mae pob un o'r ystadegau hynny'n dweud yr un stori wrthym. Drwy wella sgiliau llafar plant yn bum mlwydd oed, gallem fod yn gwella eu profiadau bywyd a'u cyfleoedd mewn bywyd yn fawr ac yn nes ymlaen, wrth gwrs, gallem fod yn rhyddhau ein hadnoddau cyfyngedig i fynd i'r afael â phroblemau eraill yn ein cymdeithas.
Mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn arbennig o gyffredin yn ein plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed, wrth gwrs. Mae gan lawer o blant sy'n derbyn gofal anghenion cyfathrebu heb eu nodi neu heb eu diwallu. Yn wir, canfu dadansoddiad diweddar fod gan 81 y cant o blant sydd â phroblemau ymddygiad anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu heb eu canfod, gydag ond ychydig iawn o ddarpariaeth arbenigol ar waith i nodi a chynorthwyo gyda'r anghenion hyn.
O ystyried pwysigrwydd y mater, mae'n gadarnhaol gweld pwyslais cynyddol ar sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn y polisi blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Hyd yma, rydym wedi gweld therapydd lleferydd ac iaith yn cael eu cyflogi ym mhob tîm Dechrau'n Deg yng Nghymru, sy'n gam pwysig i'r cyfeiriad cywir. Rhan o rôl y therapydd yw uwchsgilio gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn yr ardaloedd hyn a gwella gwybodaeth a sgiliau rhieni, wrth gwrs, i gefnogi datblygiad iaith gynnar plant.
Mae'r buddsoddiad cymharol fach hwn o ran nifer y therapyddion lleferydd ac iaith a gyflogir yn cael effaith fawr ar ganlyniadau plant ifanc mewn ardaloedd Dechrau'n Deg. Yn 2015, enillodd therapyddion iaith a lleferydd Dechrau'n Deg Pen-y-bont ar Ogwr wobr GIG am eu gwaith yn lleihau oedi ieithyddol mewn plant dwy a thair oed. Gweithient gyda chylchoedd meithrin Dechrau'n Deg yno i gyfyngu'n sylweddol ar nifer y plant a ddangosai oedi o ran eu sgiliau iaith. Sgriniwyd 600 o blant wrth iddynt ddechrau yn y cylchoedd meithrin, ac aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith 73 y cant ohonynt, a fyddai, fel y gwyddom, yn effeithio ar ddatblygiad dysgu yn y dyfodol. Ar ôl yr ymyriadau a ddarparwyd gan staff meithrin, ymyriadau a gynlluniwyd ac a gefnogwyd gan therapyddion lleferydd ac iaith Dechrau'n Deg, roedd dros ddwy ran o dair o'r plant gyda'r oedi ieithyddol gwaethaf wedi gwella. Dyna dros 400 o blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig sydd wedi cael eu cyfleoedd bywyd wedi'u gwella'n sylweddol diolch i ymyrraeth y therapyddion lleferydd ac iaith.
Ond nid yw Pen-y-bont ar Ogwr ar ei phen ei hun, wrth gwrs. Yn Nhorfaen, aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith dros hanner y plant yn 18 mis oed, ond yn dilyn yr ymyrraeth, sgriniwyd y plant eto'n dair blwydd oed, ac aseswyd bod gan 85 y cant o'r plant a sgriniwyd sgiliau iaith priodol ar gyfer eu hoedran, gyda dim ond 8 y cant wedi'u cofnodi fel rhai ag oedi sylweddol o ran eu sgiliau iaith.
Mae'r rhain yn nodi llwyddiant gwirioneddol a byddwn yn elwa o'r ymyriadau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Yn anffodus, fodd bynnag, mae gwasanaethau therapyddion iaith a lleferydd Dechrau'n Deg yn wynebu toriadau, ac mae therapyddion yn poeni mwyfwy am ddyfodol gwasanaethau cymorth pwysig o'r fath ar gyfer ymarferwyr gofal plant a rhieni. Mae'n hanfodol fod gwasanaethau o'r fath yn cael eu cadw. Mewn gwirionedd, o ystyried ffocws daearyddol cyfyngedig Dechrau'n Deg, ac o gofio bod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn gwirionedd yn byw y tu allan i'r ardaloedd hyn, oni ddylai fod yn nod i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r gwasanaeth hwn i bob rhan o Gymru.
Felly, pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo o leiaf i barhau i sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaethau gwerthfawr hyn sydd eisoes yn bodoli, ac o ystyried pwysigrwydd sgiliau iaith cynnar, efallai hefyd i wneud sylwadau ar ei chynlluniau o ran sut y gall plant ifanc eraill sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gael y cymorth o ansawdd sydd ei angen arnynt ar gyfer datblygiad iaith a lleferydd cynnar da.
Yn ogystal â sicrhau bod lleferydd, iaith a chyfathrebu yn parhau i gael eu blaenoriaethu gan Dechrau'n Deg ac mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol, mae angen sicrhau y manteisir ar bob cyfle i wneud yn siŵr fod rhieni, gofalwyr a'r gweithlu ehangach yn deall pwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu, a bod negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol yn y maes hwn yn cael eu rhannu'n effeithiol yn ogystal.
Y dylanwad cryfaf ar sgiliau iaith cynnar plant ifanc yw eu rhieni a'u gofalwyr. Gall tlodi gyfyngu'n helaeth ar allu rhieni i ymateb i anghenion iaith cynnar eu plentyn ac i gynnig amgylchedd dysgu yn y cartref sy'n gwella sgiliau iaith yn y blynyddoedd cynnar. Felly, mae cynorthwyo rhieni i feithrin amgylchedd cartref gyda chyfathrebu ac iaith gyfoethog yn sylfaenol bwysig i wella datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar plant.
Rhoddwyd camau cadarnhaol ar waith eisoes yng Nghymru, fel y soniais, er enghraifft hefyd, mae gan y rhaglen Plant Iach Cymru a lansiwyd yn ddiweddar ffocws penodol ar ddatblygiad iaith a lleferydd yn adolygiad iechyd teulu yr ymwelydd iechyd yn 15 mis. Mae'r ymgyrch ddiweddar, Mae 'na Amser i Siarad, Chwarae a Gwrando, sy'n hybu llafaredd, i'w chroesawu hefyd, fel y mae'r cyllid a'r cymorth ychwanegol i ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf drwy'r consortia rhanbarthol i helpu i wella sgiliau iaith dysgwyr. Fodd bynnag, mae ffocws yr ymgyrch Mae 'na Amser yn canolbwyntio'n bennaf ar blant hŷn, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod yn rhaid inni sicrhau ffocws diwyro ar hyrwyddo'r negeseuon allweddol hyn ar draws y portffolios ar y cam cynharaf posibl i gael yr effaith fwyaf.
Y tu hwnt i amgylchedd y cartref, ceir tystiolaeth gref o fanteision gofal plant ac addysg gynnar o ansawdd da o safbwynt datblygu geirfa a llythrennedd. Mae gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar rôl hollbwysig yn cefnogi datblygiad plant; maent yn rhannu'r dysgu cynnar a'r sgiliau sy'n darparu sylfaen ar gyfer parodrwydd ysgol, ac yn cefnogi cynnydd da yn y dyfodol drwy addysg ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn hollbwysig hefyd i gau'r bwlch iaith rhwng plant o deuluoedd incwm isel a theuluoedd incwm uchel, sy'n dechrau yn eu babandod, gan hyrwyddo symudedd cymdeithasol, wrth gwrs, a chynnig y dechrau gorau i blant mewn bywyd.
Mae'n dda bod y cynllun gweithlu gofal plant a chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn cydnabod pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar o fewn y cymwysterau gofal plant newydd, a manylion cyfleoedd i ymarferwyr arbenigo yn y maes hwn. Mae'n gadarnhaol hefyd fod therapyddion iaith a lleferydd, fel yr arbenigwyr yn y maes hwn, wedi cymryd rhan yn y datblygiadau hyn. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar, dylem sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus a llywodraethu priodol yn digwydd ochr yn ochr â hyfforddiant. Mae dull gweithredu Dechrau'n Deg, lle mae cylchoedd meithrin yn gallu cael cymorth therapi lleferydd ac iaith, yn fodel defnyddiol iawn yn hyn o beth.
Wrth edrych y tu hwnt i hyfforddiant, mae angen i ddatblygiad iaith cynnar gael ei brif ffrydio, a'i ystyried yn rhan o gyfundrefnau arolygu, er enghraifft, ac mae angen i fframweithiau canlyniadau gael eu haddasu i adlewyrchu cynnydd o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yng Ngogledd Iwerddon, crëwyd swydd strategol i sicrhau ymagwedd drawsbynciol tuag at ddatblygiad iaith cynnar ar draws portffolios. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar sut y mae datblygiad iaith cynnar yn cael ei flaenoriaethu ar draws portffolios Llywodraeth Cymru yn ei hymateb. Pa arweiniad a geir i sicrhau'r ffocws angenrheidiol ac arbenigedd yn y maes allweddol hwn yma yng Nghymru? Hefyd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i edrych ar ddysgu o'r dull strategol a welwn yng Ngogledd Iwerddon?
Felly, i grynhoi, cafwyd llawer o ddatblygiadau cadarnhaol o ran cefnogi datblygiad iaith cynnar yng Nghymru. Fodd bynnag, fel rydym wedi amlinellu, mae canlyniadau difrifol peidio â chefnogi sgiliau iaith cynnar plant a methiant i nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu hirdymor a pharhaus yn galw am ymateb trawslywodraethol ehangach a mwy o arweinyddiaeth strategol ledled Cymru. Mae'n hanfodol ein bod, fel cenedl, yn gwneud mwy i sicrhau bod plant yn datblygu sgiliau iaith cryf erbyn eu bod yn dechrau yn yr ysgol ac yn sicrhau bod digon o ffocws ar y maes hwn. Bydd methiant i wneud hynny'n golygu mwy o'r un heriau economaidd, heriau iechyd a heriau cymdeithasol mewn blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, byddai llwyddiant yn trawsnewid rhagolygon degau o filoedd o blant Cymru a chyda hwy, wrth gwrs, y rhagolygon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'n gwlad. Diolch.
Ar ôl brwydro 17 mlynedd yn ôl fel rhiant i sicrhau therapi iaith a lleferydd, gwn pa mor hanfodol ydyw i fywydau ifanc a chyfleoedd bywyd. Fe wyddom, dros wyth mlynedd yn ôl, pan gynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yma ymchwiliad i'r ystâd cyfiawnder ieuenctid, fod Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith wedi dweud wrthym ar y pryd fod gan gyfran uchel o bobl yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Deallwn, hyd yn oed heddiw, fod gan 60 y cant ohonynt o hyd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu o'r fath yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid.
Eto rydym wedi gweld cau Afasic Cymru, rhywbeth a orfodwyd ar ei ymddiriedolwyr gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu grant darparu i blant a theuluoedd a symud y cyllid i rywle arall. Dyma oedd yr unig elusen a gynrychiolai deuluoedd plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru, a chefnogodd gannoedd o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn unig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan dynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaethau statudol a gwella bywydau. Pan ysgrifennais at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â hyn, atebodd
Gallaf eich sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Addysg Lleol i sicrhau bod ysgolion yn parhau i allu darparu cymorth ar gyfer y teuluoedd hyn.
Wel, mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn aml yn hapus i weithio gyda'r trydydd sector, ac yn gyffredinol ceisiant wneud eu gorau, ond nid ydynt yn cynnig y strategaethau cymorth a chyngor diduedd yng nghartrefi pobl a ddarparwyd gan Afasic Cymru. Rhaid i mi ddweud, mae'r dull cyfeiliornus hwn o weithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn niweidio bywydau ac yn creu costau ychwanegol a diangen i ddarparwyr y sector cyhoeddus pan ddylent fod yn gofyn i'r rhain sy'n cyflawni newid ar y rheng flaen sut y gallant hwy helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni mwy am lai a sicrhau bod y plant ifanc hyn yn cael y cyfleoedd bywyd y maent eu hangen ac yn eu haeddu.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon heddiw. Mae sgiliau iaith cynnar yn sicr yn ganolog i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, ac mae'r sgiliau hyn yn sbardun ar gyfer parodrwydd ysgol a'u gallu i gyflawni eu gwir botensial a rhoi cyfle go iawn iddynt mewn bywyd. Rydym yn gwybod, fel yr amlinellodd Llyr heddiw, fod plant sy'n byw mewn tlodi yn rhy aml yn dioddef i raddau mwy helaeth o sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael, lawer mwy na'u cymheiriaid mwy cefnog. Mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, y dylai plant fod yn barod ar gyfer yr ysgol a gallu manteisio'n llawn ar yr addysg y maent yn ei chael.
I'r perwyl hwnnw, mae Dechrau'n Deg wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol yn fy marn i, ac mae'n parhau i wneud cynnydd. Mae'r rhaglen hon wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau miloedd o bobl ifanc ers ei sefydlu. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen graidd, gan gynnwys gofal plant am ddim o safon uchel, cymorth rhianta, cymorth dwys gan ymwelydd iechyd a chymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu—
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
Pan ddywedwch y dylai pobl fod yn barod ar gyfer yr ysgol, yr hyn a glywaf gan bobl mewn ysgolion yw bod pobl yn cyrraedd yr ysgol heb allu darllen ar unrhyw lefel, ac nad yw llawer o rieni'n cyfathrebu gyda'r plant fel y gallent fod yn ei wneud o bosibl, a hynny oherwydd technoleg newydd. Mae'n helpu, mewn llawer o achosion, gyda darllen, ond yn aml mae'n milwrio'n erbyn eu datblygiad. Beth a wnewch i geisio annog rhieni, drwy gynlluniau amrywiol, i ryngweithio gyda'u plant cyn iddynt fynd i'r ysgol, fel y gallant fod yn barod ar gyfer yr ysgol, fel rydych yn ei ddweud?
Wel, fel yr amlinellodd Llyr yn gynharach, ac fel y byddaf yn ei nodi yn nes ymlaen, mae yna nifer o raglenni rhianta, pecynnau cymorth ac ati ar gael gan Llywodraeth Cymru, a rhan bwysig o gynnig craidd Dechrau'n Deg yw cymorth rhianta fel bod rhieni'n gallu gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud, fel unigolion, i gynorthwyo eu plant yn y ffordd orau.
Fel y gwyddoch, mae Dechrau'n Deg yn targedu rhai o'r cymunedau tlotaf, mwyaf difreintiedig ledled Cymru, ac mae adroddiad gwerthuso ansoddol 2017 yn nodi bod rhieni a oedd wedi cael cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu yn credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i leferydd ac iaith eu plentyn. Roeddent yn dweud bod eu plant yn fwy siaradus ac wedi dysgu ac yn defnyddio geiriau newydd, ac yn siarad yn fwy eglur, ac mae wedi'i gynnwys yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol y dylai holl raglenni Dechrau'n Deg allu defnyddio therapyddion lleferydd ac iaith.
Felly, i ateb eich cwestiwn yn fwy uniongyrchol, Bethan, er mwyn cynorthwyo rhieni'n fwy eang, mae ymgyrch Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo', yn cefnogi'r rôl hanfodol y mae pob rhiant yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad eu plant, a'u sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn arbennig. Ceir pecyn lleferydd ac iaith i rieni ar ein gwefan, ac mae deunydd cymorth defnyddiol a diddorol iawn ar gael am ddim i rieni, gan gynnwys taflen ffeithiau ar ddatblygiad yr ymennydd, sy'n esbonio i rieni pam ei fod mor bwysig. Felly, yn hytrach na dweud yn unig, 'Mae angen i chi wneud hyn,' mae'n rhoi esboniad go iawn i'r rhieni ynglŷn â pham y mae angen iddynt gyflawni'r gweithgareddau hyn gyda'u plant.
Fodd bynnag, gwyddom nad rhieni yw'r unig ddylanwad ar fywyd plentyn ifanc, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ansawdd y gweithlu blynyddoedd cynnar—fel y soniodd Llyr yn ei gyfraniad—yn ein cynllun 10 mlynedd. Rydym am ddenu'r bobl iawn i mewn i'r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant, gyda'r sgiliau a'r patrymau ymddygiad sydd eu hangen ar gyfer darparu addysg gynnar a gofal o safon uchel. Yn sail i'r uchelgais hwn mae datblygiad cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer ymarferwyr gofal plant a chwarae, a gaiff ei chyflwyno ym mis Medi 2019. Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar, a dyna pam y bydd y cymwysterau newydd yn cynnwys llwybr gyrfa a llwybrau dilyniant clir i arbenigo yn y maes hwn o fewn y gyfres honno o gymwysterau.
Wrth gwrs, dyma'r cymorth a gynigir yn y blynyddoedd cynharaf o fywyd plentyn ifanc. Pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol, mae yna amrywiaeth eang o gymorth cynhwysfawr a chydlynol i wneud yn siŵr y bydd pob dysgwr yn datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu rhagorol, ac mae'n rhan allweddol o fy nghenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru. Ceir tystiolaeth gref fod llafaredd yn floc adeiladu hanfodol i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, ac yn bwysig i mi, mae'n floc adeiladu hanfodol sydd ei angen ar bob dysgwr os ydynt yn mynd i fynd yn eu blaenau i wneud defnydd o'r cwricwlwm cyfan, beth bynnag fo'u cefndir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar gyfer plant tair i 16 mlwydd oed, lle mae llafaredd yn elfen yn y gydran llythrennedd, gan rannu statws cyfartal â darllen ac ysgrifennu. Mae'r consortia rhanbarthol yn darparu cymorth uniongyrchol i ysgolion ar lythrennedd a rhifedd, ac er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth iaith a chyfathrebu cynnar ar draws Cymru, rydym wedi buddsoddi bron £900,000 yn rhaglen llafaredd y cyfnod sylfaen ar gyfer 2017-2018. Yn wir, mae adroddiad blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn nodi bod y ddarpariaeth lythrennedd wedi gwella ac yn gyffredinol, ei bod wedi effeithio'n gadarnhaol ar safonau disgyblion.
Ar y pwynt hwn, rhaid imi sôn am y gwaith rhagorol a wneir gan addysgwyr y cyfnod sylfaen a'i ddull o addysgu a dysgu. Nododd addysgwyr ei fod yn gryfder sylweddol yn ein hymarfer addysgol cyfredol yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Mae ein holl dystiolaeth yn dangos bod y cyfnod sylfaen, lle mae'n cael ei gyflwyno'n dda, yn codi cyrhaeddiad ein plant i gyd—ac fe ddywedaf hynny eto: yr holl blant—gyda gwelliannau yn lefelau presenoldeb cyffredinol ysgolion, llythrennedd, rhifedd ac yn hollbwysig, lles dysgwyr. Mae tystiolaeth yn dangos, ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn benodol, mai ansawdd yr addysgu sydd mor ddylanwadol, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn codi gallu'r rhai sy'n gweithio yn y cyfnod sylfaen, sy'n hanfodol i ddatblygu sgiliau llafaredd y plant. Felly mae hwn yn bwyslais allweddol yng nghynllun gweithredu'r cyfnod sylfaen, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016.
Gan adeiladu ar hyn, a gyda'r nod o ysbrydoli meddyliau ifanc gyda'i gilydd, rydym yn cefnogi rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen gyda hyd at £1 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru. Roeddwn wedi gobeithio lansio'r rhwydwaith hwnnw ddydd Gwener diwethaf, ond cawsom ein trechu gan y tywydd gwael. Felly, rwy'n lansio hyn yn ffurfiol ar ddiwedd y mis. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaeth addysg, ysgolion a lleoliadau sy'n darparu'r cyfnod sylfaen, ein consortia rhanbarthol, addysg uwch sy'n cyflwyno elfen ymchwil hanfodol i'r rhwydwaith, a sefydliadau trydydd sector. Byddant yn dod ynghyd i rannu arbenigedd, profiad, gwybodaeth ac arferion gorau. Rydym yn trafod dull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio a beth sy'n gweithio'n dda. Hoffwn ddweud nad ydym yn dechrau o sylfaen ofnadwy.
Mae gan Llyr ddiddordeb personol, wrth gwrs, ym mhob dim sy'n ymwneud â gogledd Cymru, ac rwy'n ei annog i ymweld ag Ysgol Gynradd Sandycroft yn sir y Fflint y nododd Estyn fod ganddi ddull gwych o ddatblygu'r sgiliau hyn yn y plant ieuengaf oll. Mae angen inni ddefnyddio'r rhwydwaith i sicrhau bod yr arferion gorau a welwn mewn lleoliadau fel Sandycroft ar gael ledled Cymru.
Bydd rhwydwaith rhagoriaeth y cyfnod sylfaen a'i blatfform ar-lein yn darparu cefnogaeth allweddol i ddatblygiad proffesiynol. Mae hyn yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol—yr hyn y soniwyd amdano'n gynharach, o ran dysgu proffesiynol. Rwyf wedi'i ddweud yn y ddadl yn gynharach heddiw, ac fe'i dywedaf eto yn awr: ein nod yw codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu gwasanaeth addysg sy'n ffynhonnell i falchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd, ond ni fydd ond cystal â'r bobl sy'n cyflawni hynny mewn ystafelloedd dosbarth a sefydliadau o flaen ein plant.
Fodd bynnag, fe wyddom mai amgylchedd y cartref yw'r ffactor unigol mwyaf mewn cyrhaeddiad addysgol ar ôl ansawdd yr addysgu, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Dyna pam, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi rhoi cymaint o bwyslais arno wrth ddatblygu cyfres o raglenni ar draws llawer o bortffolios. Mae ymgysylltu â rhieni yn hynod o bwysig ac mae'n nodwedd amlwg iawn o raglen llafaredd y cyfnod sylfaen ar gyfer 2017-18.
Soniodd Llyr ein bod wedi lansio ymgyrch genedlaethol ar y cyfryngau ym mis Ionawr eleni o'r enw 'Mae 'na Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae', sy'n annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i dreulio amser gyda'u plant. Mae'n eu hannog i siarad â hwy, gwrando arnynt, ac i chwarae. Os darllenwch bapurau academaidd, fe fyddwch yn gwybod bod chwarae yn elfen hanfodol o ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae'n ymwneud â helpu plant i wella eu datblygiad iaith, ac mae'r ymgyrch yn rhoi awgrymiadau ymarferol i rieni allu helpu plant—nid plant sydd eisoes mewn addysg ffurfiol yn unig, Llyr, ond mewn gwirionedd, cynlluniwyd y rhaglen i gynorthwyo rhieni yn y grŵp oedran tair i saith; felly, eu paratoi i fynd i'r ysgol. Fel y gwyddom, awgrymiadau ymarferol sydd eu hangen gan amlaf ar rieni os ydym yn mynd i chwalu peth o'r effaith sy'n pontio'r cenedlaethau ar dlodi, gan fod sgiliau cyfathrebu gwael, yn wir, yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn aml.
Wrth gwrs, ers dod i rym, rwyf wedi dyblu'r swm o arian sy'n mynd tuag at grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar. Unwaith eto, cymorth ychwanegol yw hwn ar gyfer plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ar y cam cynharaf posibl yn eu gyrfa addysgol. Rydym wedi gallu gwneud hyn er ei bod yn adeg anodd tu hwnt i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol, ond rydym yn cydnabod, fel y gwnaethoch chi, Llyr, y byddai buddsoddi'n gynnar yn awr i gefnogi profiadau addysgol y plant hyn o fudd mawr iddynt hwy ac i gymdeithas yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Lywydd dros dro, mae yna ddimensiwn arall hefyd i'r gwaith hwn a wnawn i fynd i'r afael â rhai o'r ffactorau sy'n arwain at ddatblygiad iaith a chyfathrebu gwael yn gynnar. Bydd ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 uchelgeisiol yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai y nodwyd bod eu sgiliau lleferydd ac iaith wedi'u hoedi. Rwy'n falch o ddweud bod y Ddeddf yn sefydlu rôl newydd, sef swyddog arweiniol ADY blynyddoedd cynnar, yn benodol ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddynodi unigolyn i gydlynu ei swyddogaethau yn y maes hwn o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn golygu y gellir nodi problemau cyfathrebu yn gynnar a gosod camau ymyrryd priodol ar waith. Wrth gwrs, gallai hyn gynnwys atgyfeirio at therapi lleferydd ac iaith. Yn bwysig, bydd y rôl newydd hon yn helpu i greu cysylltiad gwell rhwng ysgolion, cylchoedd meithrin, awdurdodau lleol a'r GIG. Bydd cysylltiad gwell yn arwain at ragor o ymyriadau amserol i bobl ifanc heb y frwydr y mae llawer o rieni, rwy'n cydnabod, yn ei hwynebu o bryd i'w gilydd.
Nid wyf yn bychanu maint y dasg o geisio gwella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu rhai o'n plant mwyaf difreintiedig. Yn wir, yr wythnos diwethaf, bûm yn siarad ag addysgwyr proffesiynol am eirfa haen 2 a diffyg geirfa haen 2 a sut y gallai hynny rwystro gallu plant tlotach i ateb papurau arholiad ar lefel TGAU—y gallu i ddeall beth y mae gofyn iddynt ei wneud yn y cwestiwn, i allu cael yr eirfa well honno fel eu bod yn gwybod sut i ateb y cwestiwn yn y ffordd orau, yn hytrach na nodi cysyniad allweddol ac ysgrifennu popeth y maent yn ei wybod am y cysyniad allweddol hwnnw am nad ydynt yn deall go iawn beth y mae'r cwestiwn yn ei ofyn. Felly, mae'r rhaglen hon yn rhan o'n hymrwymiad i godi safonau yn nes ymlaen ar daith addysgol person ifanc.
Llyr, nid ydych yn anghywir: mae cost ddynol, gymdeithasol ac economaidd i beidio â gwneud pethau'n iawn. Gwyddom y gall canlyniadau peidio â chefnogi sgiliau iaith cynnar plant arwain at amrywiaeth o ganlyniadau negyddol yn nes ymlaen mewn bywyd, fel rydych wedi nodi heddiw, a dyna pam y mae cymaint o'n rhaglenni a'n hadnoddau'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â hyn. Ac fel y dywedais, er bod cyllidebau dan bwysau, rydym yn rhoi arian tuag at gynnal y rhaglenni hyn, a chredaf y byddwn, drwy wneud hynny, yn trawsnewid cyfleoedd bywyd y plant hyn ac yn ein helpu i ddatblygu fel cenedl.
Diolch yn fawr.