13. Dadl Fer — gohiriwyd o 28 Chwefror: Bancio tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 6:06, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd dros dro.

Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am ystyried y problemau a achosir gan fancio tir. Byddaf yn archwilio sut y gallai cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer treth ar dir gwag fynd i'r afael â'r rhain, a byddaf yn defnyddio enghreifftiau o fy etholaeth i ddangos beth a allai ymddangos fel egwyddorion aruchel yn ymwneud â pherchnogaeth tir a chyllid. Byddaf hefyd yn rhoi munud o fy amser i David Melding.

Beth yw bancio tir? Un diffiniad o fancio tir yw'r arfer o brynu tir fel buddsoddiad, a'i gadw i'w ddefnyddio yn y dyfodol heb wneud unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer ei ddatblygiad. Mae'r Cambridge Dictionary yn awgrymu beth yw'r cymhelliant sy'n sail i hyn. Disgrifia ei ddiffiniad fancio tir fel ffordd o wneud elw drwy brynu tir. Yna caiff ei werthu am bris uwch o lawer ar gyfer ei ddatblygu. Mae gwefan datblygu eiddo flaenllaw yn nodi bod bancio tir yn strategaeth a ddefnyddir gan nifer o ddatblygwyr eiddo proffesiynol.

Caiff safleoedd eu bancio fel bod datblygwyr yn sicrhau bod ganddynt stoc digonol o dir ar gyfer datblygiadau eiddo yn y dyfodol.

Mae pentyrru tir yn y modd hwn wedi helpu llawer o ddatblygwyr i wneud elw mawr mewn marchnad esgynnol.

Ar raddfa lai, caiff safleoedd tir llwyd ac adeiladau mewn cyflwr adfeiliedig eu cadw gan ddatblygwyr eraill at yr un diben sef elw hapfasnachol.

Gall bancio tir fod yn broffidiol iawn i unigolion a chwmnïau sy'n gallu fforddio gwneud hynny, ond mae ei effaith ehangach ar gymdeithas yn negyddol tu hwnt. I ddechrau, ceir yr egwyddor sylfaenol fod tir y gellid ei ddefnyddio at ddibenion buddiol yn cael ei gronni. Er enghraifft, tai. Rydym wedi cael llawer o ddadleuon yn y Cynulliad hwn ynglŷn â'r prinder tai sy'n ein hwynebu fel gwlad. Rydym yn gwybod y gallai fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd arnom bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.3 biliwn dros dymor y Cynulliad hwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae tai cymdeithasol ar gynnydd, er nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym i ateb y galw, ac mae tir sy'n cael ei fancio yn dir nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r angen hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu nad oes unrhyw weithgaredd yn digwydd ar 25 y cant o'r tir a glustnodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer tai. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi nad yw bron 11,000 o gartrefi ledled Cymru y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer yn cael eu hadeiladu. Mae ffigurau gan y Swyddfa Masnachu Teg yn awgrymu nad oes caniatâd cynllunio wedi'i roi i 82 y cant o'r tir a ddelir gan ddatblygwyr. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol, ond yn fwy na hynny, maent yn ffigurau ag iddynt ganlyniadau dynol iawn, yn yr ystyr fod pobl yn byw mewn tai annigonol neu anaddas, neu hyd yn oed heb gartref o gwbl.

Gall bancio tir atal tir rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu economaidd hefyd, neu ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, neu gyfleoedd hamdden a chwaraeon. Yn ogystal, rhaid inni gydnabod yr effaith ar fywydau pobl sy'n byw wrth ymyl tir wedi'i fancio. Mae hyn yn arbennig o wir lle rydym yn cyfeirio at safleoedd tir llwyd diffaith sy'n gallu bod mewn cyflwr gwirioneddol echrydus.

Cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Tir yn ddiweddar, a buont yn archwilio rhai o effeithiau byw wrth ymyl safleoedd trefol diffaith ar y gymuned, lle nad oes gan y perchennog unrhyw ddiddordeb mewn datblygu mewn gwirionedd. Gall byw drws nesaf i safle diffaith effeithio ar les. Gall achosi salwch corfforol a meddyliol. Gall ysgogi gweithgareddau gwrthgymdeithasol a meithrin patrymau ymddygiad problemus. Yn ogystal â bod yn ddolur llygad, ar ei fwyaf dramatig, gall beri i gymuned chwalu.

Rwyf wedi gweld effaith bancio tir yn uniongyrchol mewn rhannau o Gwm Cynon, yr etholaeth lle y cefais fy magu a lle rwy'n ei gynrychioli bellach. Hoffwn ddyfynnu un o fy etholwyr, sy'n byw wrth ymyl safle o'r fath:

Ar ôl 11 mlynedd o uffern gan berchennog tir wrth ymyl fy eiddo, rwy'n arswydo wrth ddarganfod nad oes unrhyw amddiffyniad i'r rheini sy'n gorfod dioddef problemau diddiwedd sy'n effeithio ar ansawdd bywyd, iechyd, difrod i eiddo a'r effaith ar werth yr eiddo cyfagos.'

Er mwyn tynnu sylw at y pwynt rwy'n ei wneud, hoffwn ddangos ffilm fer yn awr sy'n cynnwys lluniau o bedwar safle o'r fath yn fy etholaeth.