– Senedd Cymru am 6:06 pm ar 14 Mawrth 2018.
Symudwn ni nawr i'r ail ddadl fer, a galwaf ar Vikki Howells i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Diolch, Lywydd dros dro.
Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am ystyried y problemau a achosir gan fancio tir. Byddaf yn archwilio sut y gallai cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer treth ar dir gwag fynd i'r afael â'r rhain, a byddaf yn defnyddio enghreifftiau o fy etholaeth i ddangos beth a allai ymddangos fel egwyddorion aruchel yn ymwneud â pherchnogaeth tir a chyllid. Byddaf hefyd yn rhoi munud o fy amser i David Melding.
Beth yw bancio tir? Un diffiniad o fancio tir yw'r arfer o brynu tir fel buddsoddiad, a'i gadw i'w ddefnyddio yn y dyfodol heb wneud unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer ei ddatblygiad. Mae'r Cambridge Dictionary yn awgrymu beth yw'r cymhelliant sy'n sail i hyn. Disgrifia ei ddiffiniad fancio tir fel ffordd o wneud elw drwy brynu tir. Yna caiff ei werthu am bris uwch o lawer ar gyfer ei ddatblygu. Mae gwefan datblygu eiddo flaenllaw yn nodi bod bancio tir yn strategaeth a ddefnyddir gan nifer o ddatblygwyr eiddo proffesiynol.
Caiff safleoedd eu bancio fel bod datblygwyr yn sicrhau bod ganddynt stoc digonol o dir ar gyfer datblygiadau eiddo yn y dyfodol.
Mae pentyrru tir yn y modd hwn wedi helpu llawer o ddatblygwyr i wneud elw mawr mewn marchnad esgynnol.
Ar raddfa lai, caiff safleoedd tir llwyd ac adeiladau mewn cyflwr adfeiliedig eu cadw gan ddatblygwyr eraill at yr un diben sef elw hapfasnachol.
Gall bancio tir fod yn broffidiol iawn i unigolion a chwmnïau sy'n gallu fforddio gwneud hynny, ond mae ei effaith ehangach ar gymdeithas yn negyddol tu hwnt. I ddechrau, ceir yr egwyddor sylfaenol fod tir y gellid ei ddefnyddio at ddibenion buddiol yn cael ei gronni. Er enghraifft, tai. Rydym wedi cael llawer o ddadleuon yn y Cynulliad hwn ynglŷn â'r prinder tai sy'n ein hwynebu fel gwlad. Rydym yn gwybod y gallai fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd arnom bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.3 biliwn dros dymor y Cynulliad hwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae tai cymdeithasol ar gynnydd, er nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym i ateb y galw, ac mae tir sy'n cael ei fancio yn dir nad yw'n cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r angen hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu nad oes unrhyw weithgaredd yn digwydd ar 25 y cant o'r tir a glustnodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer tai. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn nodi nad yw bron 11,000 o gartrefi ledled Cymru y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer yn cael eu hadeiladu. Mae ffigurau gan y Swyddfa Masnachu Teg yn awgrymu nad oes caniatâd cynllunio wedi'i roi i 82 y cant o'r tir a ddelir gan ddatblygwyr. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol, ond yn fwy na hynny, maent yn ffigurau ag iddynt ganlyniadau dynol iawn, yn yr ystyr fod pobl yn byw mewn tai annigonol neu anaddas, neu hyd yn oed heb gartref o gwbl.
Gall bancio tir atal tir rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu economaidd hefyd, neu ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, neu gyfleoedd hamdden a chwaraeon. Yn ogystal, rhaid inni gydnabod yr effaith ar fywydau pobl sy'n byw wrth ymyl tir wedi'i fancio. Mae hyn yn arbennig o wir lle rydym yn cyfeirio at safleoedd tir llwyd diffaith sy'n gallu bod mewn cyflwr gwirioneddol echrydus.
Cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Tir yn ddiweddar, a buont yn archwilio rhai o effeithiau byw wrth ymyl safleoedd trefol diffaith ar y gymuned, lle nad oes gan y perchennog unrhyw ddiddordeb mewn datblygu mewn gwirionedd. Gall byw drws nesaf i safle diffaith effeithio ar les. Gall achosi salwch corfforol a meddyliol. Gall ysgogi gweithgareddau gwrthgymdeithasol a meithrin patrymau ymddygiad problemus. Yn ogystal â bod yn ddolur llygad, ar ei fwyaf dramatig, gall beri i gymuned chwalu.
Rwyf wedi gweld effaith bancio tir yn uniongyrchol mewn rhannau o Gwm Cynon, yr etholaeth lle y cefais fy magu a lle rwy'n ei gynrychioli bellach. Hoffwn ddyfynnu un o fy etholwyr, sy'n byw wrth ymyl safle o'r fath:
Ar ôl 11 mlynedd o uffern gan berchennog tir wrth ymyl fy eiddo, rwy'n arswydo wrth ddarganfod nad oes unrhyw amddiffyniad i'r rheini sy'n gorfod dioddef problemau diddiwedd sy'n effeithio ar ansawdd bywyd, iechyd, difrod i eiddo a'r effaith ar werth yr eiddo cyfagos.'
Er mwyn tynnu sylw at y pwynt rwy'n ei wneud, hoffwn ddangos ffilm fer yn awr sy'n cynnwys lluniau o bedwar safle o'r fath yn fy etholaeth.
Diolch i Clixx Photography, Aberdâr am eu gwaith yn llunio'r ffilm. Y safle cyntaf, ac mewn llawer o ffyrdd y safle mwyaf amlwg, yw safle Phurnacite. Mae wedi'i leoli yn Abercwmboi, ac mae wedi'i wasgaru dros ardal enfawr o 168 erw. Efallai y bydd y craffaf o'ch plith wedi sylwi ar y cae pêl-droed ar ochr dde'r sgrin ychydig eiliadau wedi i'r ffilm gychwyn. Credaf ei fod yn ddefnyddiol i ddangos maint y tir rydym yn sôn amdano. Mae hefyd yn llythrennol yng nghanol fy etholaeth, twll tebyg i doesen yng nghanol cwm Cynon.
Am 50 mlynedd, tan ei gau a'i ddymchwel ym 1991, cynhyrchodd Phurnacite danwydd di-fwg ar ffurf brics glo. Ar ei anterth, cynhyrchai dros filiwn o'r rhain bob blwyddyn. Arweiniodd newidiadau yn y defnydd at gau'r safle Phurnacite, ond nid cyn iddo achosi difrod annioddefol i iechyd ei weithlu a'i gymdogion, ac i'r amgylchedd lleol. Eto, mae gwaith adfer yn ystod y degawd diwethaf yn golygu bellach ei fod yn safle strategol allweddol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Trafodwyd cynigion uchelgeisiol ar gyfer tai, cyfleusterau hamdden a seilwaith. Ond 27 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r safle hwn sy'n eiddo preifat yn parhau i fod heb ei ddefnyddio na'i werthfawrogi.
Yr ail safle yn y ffilm yw hen neuadd a sefydliad y gweithwyr yn Abercynon. Perthynai i oes aur clybiau'r gweithwyr, ac fe'i agorwyd yn 1905. Cafodd ei gynllunio a'i adeiladu gan bobl leol, ac roedd ei ffryntiad pedwar llawr yn ymgodi uwchlaw'r nenlinell leol ar un adeg. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel, fel llawer yn y cyfnod hwnnw, ar ôl tân yn y 1990au. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae ei ôl troed yn parhau i fod ynghanol rhwydwaith o strydoedd teras y Cymoedd, fel y dangosai'r fideo. Eto, mae'n eiddo i landlord absennol, nad yw, yn wahanol i'r trigolion lleol, yn gorfod byw wrth ymyl y safle diffaith hwn, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ceir sefyllfa debyg yn y trydydd clip, lle mae'r tir segur hefyd yn gorwedd fel amlinelliad sialc ar safle trosedd. Mae ynghanol Aberpennar ar Stryd Rhydychen, gerllaw'r cerflun o Guto Nyth Brân sy'n ganolbwynt sylw. Cafodd adeilad adfeiliedig a hyll ei dynnu i lawr yno oddeutu degawd yn ôl, ond mae'r safle segur yno o hyd. Bu'n rhaid i'r awdurdod lleol osod rheiliau o amgylch y plot hyd yn oed, am resymau diogelwch. Fodd bynnag, mae'r perchennog yn gwrthod gwerthu'r safle, er gwaethaf apeliadau gan gyngor Rhondda Cynon Taf.
Y safle terfynol yn fy fideo yw hen ysbyty Aberdâr. Agorodd yn 1917 ac yn ei dro, rhoddodd driniaeth i filoedd o gleifion bob blwyddyn. Trosglwyddwyd hen safle'r ysbyty ar gyfer ei ddymchwel yn 2012, wrth i'w wasanaethau drosglwyddo i'r Ysbyty Cwm Cynon newydd sbon. Er bod y tir wedi'i glustnodi ar gyfer tai yn y cynllun datblygu lleol ac er iddo gael ei brynu gan ddatblygwr a ddywedodd ei fod yn bwriadu ei ddefnyddio at y diben hwnnw, efallai y byddwch wedi sylwi mai cartref i ddiadell o ddefaid ydyw ar hyn o bryd, a chredaf fod hynny'n eithaf symbolaidd.
Credaf hefyd fod y safleoedd hyn yn amlygu rhai o'r problemau a achosir gan y bancio tir a grybwyllais yn gynharach. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y safle cyntaf, yr hen safle Phurnacite, i ddangos hyn. Yn gyntaf, mae'r ffaith bod y safle'n cael ei gadw yn ei gyflwr presennol yn ei atal rhag cael ei ailddatblygu. Mae'n golygu na ellir adeiladu 500 o gartrefi newydd. Mae'n golygu na ellir mynd ar drywydd cynlluniau i ddatblygu'r tir at ddibenion economaidd ac i ddarparu ysgol gynradd newydd. Mae'n golygu na ellir gwireddu gweledigaeth o gyfleusterau hamdden newydd, gan gynnwys adfer llynnoedd. Ond mae cyflwr gwael y safle hefyd yn cael effaith go iawn ar les y gymuned leol. Rwy'n ddyledus i gynghorydd ward leol, Tina Williams, a ddywedodd wrthyf am rai o'r rhain. Ceir problemau iechyd y cyhoedd yn sgil fermin, ceir heriau seilwaith ar lonydd cefn, ceir problemau gwrthgymdeithasol, gyda thipio anghyfreithlon a thresmasu ar y safle—a'r cyfan yn effeithio ar les trigolion lleol.
Ar ôl amlinellu rhai o broblemau bancio tir, rwyf am droi yn awr at atebion. Yn yr Almaen, mae gwerth tir yn rhewi ar ôl i'r awdurdodau cynllunio bennu ardal ar gyfer adeiladu preswyl. Gall banciau tir cyhoeddus neu gymunedol sy'n caffael tir ar werthoedd presennol gyflawni canlyniadau tebyg. Ond rwyf am awgrymu heddiw fod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer treth ar dir gwag yn cynnig yr ateb sydd ei angen arnom.
Mae hyn yn hynod o gyffrous. Yn gyntaf, bydd y cynlluniau hyn yn caniatáu i ni brofi ein pwerau trethu newydd, i ddyfeisio trethi newydd arloesol yng Nghymru i ddatblygu'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau—nid yn unig i godi arian, y bydd croeso iddo bob amser ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd mor annwyl i ni, ond hefyd i newid ymddygiad ac adeiladu Cymru well. Yn ail, dylai'r dreth ar dir gwag weithio i unioni'r union broblemau a ddisgrifiais. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
'Gall pawb ohonom ni ddychmygu sut y mae'n teimlo gorfod byw yn rhywle lle mae, o'ch cwmpas chi, adeiladau heb eu meddiannu, lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd, a lle nad oes teimlad o gwbl fod cariad at y lle yr ydych yn byw ynddo na dyfodol cadarnhaol.'
Mae mynd i'r afael â diffeithdra trefol a'i wneud yn iawn ar gyfer cymunedau lleol yn rhywbeth y gallai'r dreth hon ei gyflawni. Ar ben hynny, byddai'n lleihau'r cymhellion i brynu tir at ddibenion hapfasnachol, gan ei gwneud yn ddrutach i grynhoi tir, ac annog defnydd effeithlon o dir yn lle hynny. Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn syml. Byddai awdurdodau cynllunio yn sefydlu cofrestr o dir gwag. Ar ôl blwyddyn ar y cofrestr, byddai ardoll yn dod yn daladwy. Byddai awdurdodau cynllunio lleol yn ei chasglu'n flynyddol, a chaiff ei phennu fel canran o werth y safle. Bydd yr ardoll yn 3 y cant yn y flwyddyn gyntaf, ac yn codi i 7 y cant yn yr ail flwyddyn. Bydd y cynllun yn niwtral o ran cost a chaiff arian dros ben ei sianelu ar gyfer adfywio i fynd i'r afael â rhai o'r problemau y mae bancio tir wedi'u hachosi. Yn syml iawn, bydd y dreth dir yn ei gwneud yn ddrutach i ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi fel tir sy'n addas ar gyfer datblygu.
Gwn mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y bydd y diffiniad o dir gwag yn allweddol i weithrediad y dreth a chyflawni'r effaith polisi. Gwneir ymdrechion i osgoi canlyniadau anfwriadol, a bydd angen gwneud rhagor o waith ar ddiffinio tir gwag yng nghyd-destun Cymru. Bydd angen meddwl hefyd am yr achosion lle mae rhwystrau'n atal datblygwyr rhag gweithredu ar eu cynlluniau. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi ymateb i'r pwynt hwn mewn Cyfarfod Llawn blaenorol. Fel y dywedodd, bydd y dreth ar dir gwag yn daladwy pan na wneir unrhyw ymdrech i wneud defnydd pwrpasol o dir. Ni chaiff ei defnyddio i gosbi pobl sy'n gweithio'n galed i wneud defnydd o'r caniatadau a roddwyd. Ar y pwynt hwn, er na all Ysgrifennydd y Cabinet fod gyda ni heddiw, hoffwn dalu teyrnged i'w weledigaeth a gweledigaeth ei dîm yn bwrw ymlaen â hyn.
Un o gryfderau'r dreth ar dir gwag yw nad ni fyddai'r wlad gyntaf i ddefnyddio hyn fel ateb. Gwn fod Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei defnyddio fel enghraifft yn aml, er fy mod yn nodi sylwadau gan Fianna Fáil y dylid dyblu'r gyfradd Wyddelig. Rhaid inni wneud yn siŵr fod unrhyw dreth yn cael ei gosod ar lefel briodol ar gyfer cyflawni'r newid rydym ei eisiau. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sôn am fynd i ryfel yn erbyn bancwyr tir, a bu trafodaethau ynghylch pwerau 'ei ddefnyddio neu ei golli' yn Llundain yn benodol.
Gyda chonsensws pwerus yn dod i'r amlwg o blaid y syniad o dreth ar dir gwag, mae'n amlwg y gallai gynnig ateb ymarferol i fancio tir a fyddai, yn ei dro, yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y maes hwn fel y'u nodwyd ym maniffesto Llafur Cymru 2016 ac yn sicrhau manteision ar gyfer Cwm Cynon a chymunedau ledled Cymru.
A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am ddefnydd mor rhagorol o'r ddadl fer? Dyma'n union y dylem fod yn ei drafod, ac fe'i gwnaed yn fwy eglur byth gan y ffilm ragorol honno. Mae hwn yn fater pwysig iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae yna gonsensws trawsbleidiol. Mae angen inni adeiladu mwy, fel y mae Vikki wedi amlinellu. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod yna deimlad ledled y DU, a'ch atgoffa bod y Canghellor yn ei ddatganiad y gwanwyn ddoe wedi siarad am waith Syr Oliver Letwin i edrych ar y gyfradd adeiladu yn y farchnad dai? Er bod Oliver Letwin wedi nodi amryw o broblemau—gwe o gyfyngiadau masnachol a diwydiannol, fel y dywedodd, gan gynnwys argaeledd llafur medrus, argaeledd cyfyngedig cyfalaf, weithiau, a seilwaith trafnidiaeth lleol a rhesymau eraill—fe ddywedodd nad oedd yr un o'r rhain i'w gweld yn sylfaenol. Mae gennym broblem sylfaenol iawn o ran cyflenwad tir ac mae angen inni gymryd mwy o reolaeth ar hyn ein hunain. Efallai mai system dreth yw'r ffordd; rwy'n agored i ystyried. Ond pan glustnodir tir ar gyfer adeiladu arno, dylid ei adeiladu'n gyflym, gyda'r angen cymdeithasol enfawr am dai ac fel y dangosodd Vikki mor fedrus, mae'n effeithio'n fawr ar gymunedau. Rydym wedi bod yn aros am 25, 30 mlynedd gyda rhai o'r safleoedd hyn, pan allai fod cartrefi teuluol gwych neu amrywiaeth o gartrefi mewn safleoedd mawr yng Nghwm Cynon. Rwy'n credu o ddifrif fod angen gweithredu, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i weithredu yn y maes hwn.
Diolch yn fawr. Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Rwyf am ddiolch yn fawr iawn i Vikki Howells am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac am gyfraniad David Melding, y cytunaf yn llwyr ag ef. Mae dal tir heb unrhyw reswm heblaw gwneud elw o'r cynnydd yng ngwerth tir yn amlwg yn annerbyniol o ystyried prinder tir da ar gyfer codi tai a nifer o ddefnyddiau buddiol eraill a nodwyd gan yr Aelodau. Heddiw mae'r ddadl wedi amlygu rhai o ganlyniadau gadael i dir y gellid ei ddefnyddio'n gynhyrchiol fod yn segur. Nid yn unig y mae'n ein rhwystro rhag gwireddu'r cyfle y gallai'r tir ei gynnig ar gyfer darparu tai mawr eu hangen neu i gyfrannu at ffyniant economaidd, ond fe all, fel y dangosodd ffilm Vikki yn fedrus, beri malltod pellach i gymunedau, gan gyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal ag afiechyd meddyliol a chorfforol i'r rhai sy'n byw gerllaw.
Nid yw'r broblem rydym wedi'i thrafod heddiw yn unigryw i Gymru, fel y mae pawb wedi'i nodi. Mae'n broblem ar draws y DU, ac yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Prif Weinidog newidiadau i system gynllunio Lloegr er mwyn gwella'r cyflenwad o dai. Nid yw cynigion y DU yn mynd mor bell â systemau ychwanegol penodol, ond byddwn yn monitro datblygiadau i roi ystyriaeth lawn i unrhyw effeithiau trawsffiniol posibl. Fe wnaeth y Canghellor ymhelaethu ychydig ddoe ar rai o'r pethau a ddywedodd yn ogystal.
Yng Nghymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wrthi'n ymgynghori ar ddrafft diwygiedig o bolisi cynllunio cenedlaethol, sy'n ceisio sicrhau bod materion hyfywedd a'r gallu i gyflawni yn cael eu hymgorffori'n fwy effeithiol ar ddechrau proses y cynllun datblygu lleol, rhywbeth y mae gwaith ymchwil diweddar wedi'i nodi fel ffactor allweddol wrth i safleoedd gael eu cyflwyno ar gyfer eu datblygu. Ond rydym hefyd yn mynd ymhellach i edrych ar ysgogiadau y tu hwnt i bolisi cynllunio er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae datganoli pwerau treth yn gyfle gwirioneddol i ni feddwl yn arloesol ynglŷn â sut y gellir defnyddio treth i'n helpu i gyflawni ein hamcanion ar gyfer Cymru. Gellir gwneud hyn drwy newid ymddygiad, codi refeniw i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, neu'r ddau. Mae trethiant yn ddull pwysig, ac mae'n iawn inni ystyried yn awr sut i wneud y defnydd gorau o'n pwerau newydd dros drethiant.
Gyda'r trethi Cymreig cyntaf yn cael eu casglu o fis Ebrill ymlaen, rydym wedi rhoi llawer o amser ac ystyriaeth i sicrhau bod y trethi hyn yn diwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru. Wrth inni ddatblygu ein system drethu, mae angen inni edrych y tu hwnt i'r cyfleoedd y mae'r trethi datganoledig cyntaf hyn yn eu darparu. Dyna pam y dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sgwrs gyda'r cyhoedd yng Nghymru y llynedd ynghylch trethi newydd yng Nghymru. Ers dechrau'r sgwrs honno gyda dadl yn y Siambr hon, fe'n calonogwyd gan ba mor eang yr ymgysylltwyd â phobl Cymru, a nifer y syniadau newydd ar gyfer trethi newydd a ddaeth i law.
Un o'r syniadau hynny oedd treth ar dir gwag, a'r mis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai'n bwrw ymlaen â'r syniad hwn i roi prawf ar fecanwaith Deddf Cymru 2017 ar gyfer datganoli trethi newydd, a gwn ei fod wedi cael nifer o sgyrsiau gyda chi am hynny hefyd, Vikki. Drwy gynyddu cost dal gafael ar dir sy'n addas ar gyfer datblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i newid cydbwysedd cymhellion i annog datblygu. Diben treth ar dir gwag fyddai ysgogi newid ymddygiad, yn hytrach na chreu refeniw ychwanegol. Wrth geisio sicrhau bod tir gwag yn cael ei ddatblygu, mae'n iawn inni archwilio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni, gan gynnwys treth.
Fel y nododd Vikki, yn ddiweddar cyflwynodd Gweriniaeth Iwerddon ardoll ar safleoedd gwag i fynd i'r afael â'r problemau rydym ninnau hefyd am fynd i'r afael â hwy yng Nghymru, ac mae'n darparu pwynt cyfeirio defnyddiol ar gyfer sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. O dan y model hwn, pan fydd safle cymwys wedi bod yn wag am flwyddyn, caiff ei gofrestru gan yr awdurdod lleol perthnasol. Os na chyflawnir unrhyw ddatblygu ystyrlon wedyn o fewn 12 mis, gosodir yr ardoll a'i chasglu bob blwyddyn mewn perthynas â'r flwyddyn flaenorol nes y bydd y datblygiad yn dechrau. Yn achos y weriniaeth, mae'r ardoll ar safleoedd gwag yn daladwy ar dir a nodwyd fel tir sy'n addas ar gyfer datblygu tai ac adfywio. Wrth ddatblygu treth ar dir gwag yng Nghymru, byddwn eisiau archwilio sut y gallai helpu i gyflawni amcanion ym maes tai ac adfywio. Yn wir, Vikki, rwy'n meddwl eich bod wedi crybwyll amcanion hamdden a thwristiaeth yn ogystal, ac rydym yn bendant yn awyddus i edrych ar y rheini.
Nid ydym am gosbi'r rheini sy'n mynd ati i ddatblygu o fewn amserlenni'r broses arferol, na'r rhai sy'n cael eu hatal rhag datblygu gan bethau megis halogi. Rydym yn mynd ati'n benodol i ddatrys y broblem rydym wedi ei thrafod heddiw sef tirfeddianwyr yn dibynnu ar y farchnad i godi prisiau ac ymelwa ar gynnydd heb ei ennill yng ngwerth tir. Er mwyn cyflawni ein hamcanion polisi, bydd angen inni ystyried yn ofalus sut y byddai gosod a strwythuro treth o'r fath, ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio dull o weithredu trethiant a fydd yn cymell rhag ymddygiad nad ydym ei eisiau heb ganlyniadau anfwriadol.
Fodd bynnag, ni allwn ystyried cyflwyno treth ar dir gwag heb i'r pwerau gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn gyntaf. Yn gwbl briodol, nid yw proses Ddeddf Cymru yn gyflym nac yn hawdd. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys—mae llawer o ysgrifenyddion yma—ynglŷn â sut y bydd y broses yn gweithio'n ymarferol. Felly, bydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i gychwyn y broses honno. Pan fydd cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag wedi'i ddatganoli, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn parhau wedyn i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion polisi manwl i'r Cynulliad hwn wneud gwaith craffu arnynt.
Nid yw pob ymddygiad bancio tir yn gysylltiedig â safleoedd gwag. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cychwyn ar drafodaeth ehangach am dreth gwerth tir a pha un a ellid cymhwyso'r ffordd hon o godi refeniw i drethi eiddo sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru—er enghraifft, trethi lleol. Mae nifer o wledydd eraill wedi arbrofi gyda threthi lleol yn seiliedig ar ryw fesur o werth tir, ond yn y gorffennol, mae'r goblygiadau gweinyddol wedi atal cynnydd.
Rhaid imi ddweud nad yw'r tir yn aml yn wag yn fy etholaeth yn Abertawe mewn gwirionedd, ond mae'n cynnwys adeiladau sydd wedi cael eu gadael i ddirywio heibio i'r pwynt lle y gellir eu hadnewyddu ac maent yn ddolur llygaid pur ac yn llawn cymaint o broblem â thir sy'n wag go iawn ond bod nifer o broblemau eraill ynghlwm wrthynt. Felly, mae gennym nifer fawr o fuddsoddwyr preifat sydd wedi buddsoddi mewn adeiladau hen a hanesyddol weithiau sy'n eu gadael fel y maent wedyn, ac mae un adeilad o'r fath yng nghanol dinas Abertawe ac mae wedi bod yn adfail llwyr ers nifer o flynyddoedd, gyda'r holl stwff yn tyfu allan ohono, ac mae'r buddsoddwr yn gwrthod gwerthu ar y sail y bydd, yn y pen draw, yn cynyddu yn ei werth. Felly, mae gennyf ddiddordeb etholaethol mewn gweld sut y gallwn ymestyn hynny i gynnwys dod ag adeiladau adfeiliedig yn ôl i ddefnydd buddiol hefyd.
Felly, yn ystod oes y Cynulliad, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn mynd i brofi dichonoldeb treth gwerth tir fel dewis posibl yn lle'r defnydd o ardrethi annomestig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cyhoeddi asesiad o hyn i lywio'r ddadl ehangach cyn y Cynulliad nesaf ac wedi hynny. Fel y dywedodd David Melding, mae dadleuon fel hyn yn sicrhau bod syniadau o'r fath yn cael eu cyflwyno ar y llawr lle y gallwn edrych arnynt o ddifrif. Diolch.
Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.