Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch i Clixx Photography, Aberdâr am eu gwaith yn llunio'r ffilm. Y safle cyntaf, ac mewn llawer o ffyrdd y safle mwyaf amlwg, yw safle Phurnacite. Mae wedi'i leoli yn Abercwmboi, ac mae wedi'i wasgaru dros ardal enfawr o 168 erw. Efallai y bydd y craffaf o'ch plith wedi sylwi ar y cae pêl-droed ar ochr dde'r sgrin ychydig eiliadau wedi i'r ffilm gychwyn. Credaf ei fod yn ddefnyddiol i ddangos maint y tir rydym yn sôn amdano. Mae hefyd yn llythrennol yng nghanol fy etholaeth, twll tebyg i doesen yng nghanol cwm Cynon.
Am 50 mlynedd, tan ei gau a'i ddymchwel ym 1991, cynhyrchodd Phurnacite danwydd di-fwg ar ffurf brics glo. Ar ei anterth, cynhyrchai dros filiwn o'r rhain bob blwyddyn. Arweiniodd newidiadau yn y defnydd at gau'r safle Phurnacite, ond nid cyn iddo achosi difrod annioddefol i iechyd ei weithlu a'i gymdogion, ac i'r amgylchedd lleol. Eto, mae gwaith adfer yn ystod y degawd diwethaf yn golygu bellach ei fod yn safle strategol allweddol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Trafodwyd cynigion uchelgeisiol ar gyfer tai, cyfleusterau hamdden a seilwaith. Ond 27 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r safle hwn sy'n eiddo preifat yn parhau i fod heb ei ddefnyddio na'i werthfawrogi.
Yr ail safle yn y ffilm yw hen neuadd a sefydliad y gweithwyr yn Abercynon. Perthynai i oes aur clybiau'r gweithwyr, ac fe'i agorwyd yn 1905. Cafodd ei gynllunio a'i adeiladu gan bobl leol, ac roedd ei ffryntiad pedwar llawr yn ymgodi uwchlaw'r nenlinell leol ar un adeg. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel, fel llawer yn y cyfnod hwnnw, ar ôl tân yn y 1990au. Ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae ei ôl troed yn parhau i fod ynghanol rhwydwaith o strydoedd teras y Cymoedd, fel y dangosai'r fideo. Eto, mae'n eiddo i landlord absennol, nad yw, yn wahanol i'r trigolion lleol, yn gorfod byw wrth ymyl y safle diffaith hwn, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ceir sefyllfa debyg yn y trydydd clip, lle mae'r tir segur hefyd yn gorwedd fel amlinelliad sialc ar safle trosedd. Mae ynghanol Aberpennar ar Stryd Rhydychen, gerllaw'r cerflun o Guto Nyth Brân sy'n ganolbwynt sylw. Cafodd adeilad adfeiliedig a hyll ei dynnu i lawr yno oddeutu degawd yn ôl, ond mae'r safle segur yno o hyd. Bu'n rhaid i'r awdurdod lleol osod rheiliau o amgylch y plot hyd yn oed, am resymau diogelwch. Fodd bynnag, mae'r perchennog yn gwrthod gwerthu'r safle, er gwaethaf apeliadau gan gyngor Rhondda Cynon Taf.
Y safle terfynol yn fy fideo yw hen ysbyty Aberdâr. Agorodd yn 1917 ac yn ei dro, rhoddodd driniaeth i filoedd o gleifion bob blwyddyn. Trosglwyddwyd hen safle'r ysbyty ar gyfer ei ddymchwel yn 2012, wrth i'w wasanaethau drosglwyddo i'r Ysbyty Cwm Cynon newydd sbon. Er bod y tir wedi'i glustnodi ar gyfer tai yn y cynllun datblygu lleol ac er iddo gael ei brynu gan ddatblygwr a ddywedodd ei fod yn bwriadu ei ddefnyddio at y diben hwnnw, efallai y byddwch wedi sylwi mai cartref i ddiadell o ddefaid ydyw ar hyn o bryd, a chredaf fod hynny'n eithaf symbolaidd.