Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 14 Mawrth 2018.
Diolch. Rwyf am ddiolch yn fawr iawn i Vikki Howells am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac am gyfraniad David Melding, y cytunaf yn llwyr ag ef. Mae dal tir heb unrhyw reswm heblaw gwneud elw o'r cynnydd yng ngwerth tir yn amlwg yn annerbyniol o ystyried prinder tir da ar gyfer codi tai a nifer o ddefnyddiau buddiol eraill a nodwyd gan yr Aelodau. Heddiw mae'r ddadl wedi amlygu rhai o ganlyniadau gadael i dir y gellid ei ddefnyddio'n gynhyrchiol fod yn segur. Nid yn unig y mae'n ein rhwystro rhag gwireddu'r cyfle y gallai'r tir ei gynnig ar gyfer darparu tai mawr eu hangen neu i gyfrannu at ffyniant economaidd, ond fe all, fel y dangosodd ffilm Vikki yn fedrus, beri malltod pellach i gymunedau, gan gyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal ag afiechyd meddyliol a chorfforol i'r rhai sy'n byw gerllaw.
Nid yw'r broblem rydym wedi'i thrafod heddiw yn unigryw i Gymru, fel y mae pawb wedi'i nodi. Mae'n broblem ar draws y DU, ac yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Prif Weinidog newidiadau i system gynllunio Lloegr er mwyn gwella'r cyflenwad o dai. Nid yw cynigion y DU yn mynd mor bell â systemau ychwanegol penodol, ond byddwn yn monitro datblygiadau i roi ystyriaeth lawn i unrhyw effeithiau trawsffiniol posibl. Fe wnaeth y Canghellor ymhelaethu ychydig ddoe ar rai o'r pethau a ddywedodd yn ogystal.
Yng Nghymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wrthi'n ymgynghori ar ddrafft diwygiedig o bolisi cynllunio cenedlaethol, sy'n ceisio sicrhau bod materion hyfywedd a'r gallu i gyflawni yn cael eu hymgorffori'n fwy effeithiol ar ddechrau proses y cynllun datblygu lleol, rhywbeth y mae gwaith ymchwil diweddar wedi'i nodi fel ffactor allweddol wrth i safleoedd gael eu cyflwyno ar gyfer eu datblygu. Ond rydym hefyd yn mynd ymhellach i edrych ar ysgogiadau y tu hwnt i bolisi cynllunio er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae datganoli pwerau treth yn gyfle gwirioneddol i ni feddwl yn arloesol ynglŷn â sut y gellir defnyddio treth i'n helpu i gyflawni ein hamcanion ar gyfer Cymru. Gellir gwneud hyn drwy newid ymddygiad, codi refeniw i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, neu'r ddau. Mae trethiant yn ddull pwysig, ac mae'n iawn inni ystyried yn awr sut i wneud y defnydd gorau o'n pwerau newydd dros drethiant.
Gyda'r trethi Cymreig cyntaf yn cael eu casglu o fis Ebrill ymlaen, rydym wedi rhoi llawer o amser ac ystyriaeth i sicrhau bod y trethi hyn yn diwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru. Wrth inni ddatblygu ein system drethu, mae angen inni edrych y tu hwnt i'r cyfleoedd y mae'r trethi datganoledig cyntaf hyn yn eu darparu. Dyna pam y dechreuodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sgwrs gyda'r cyhoedd yng Nghymru y llynedd ynghylch trethi newydd yng Nghymru. Ers dechrau'r sgwrs honno gyda dadl yn y Siambr hon, fe'n calonogwyd gan ba mor eang yr ymgysylltwyd â phobl Cymru, a nifer y syniadau newydd ar gyfer trethi newydd a ddaeth i law.
Un o'r syniadau hynny oedd treth ar dir gwag, a'r mis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai'n bwrw ymlaen â'r syniad hwn i roi prawf ar fecanwaith Deddf Cymru 2017 ar gyfer datganoli trethi newydd, a gwn ei fod wedi cael nifer o sgyrsiau gyda chi am hynny hefyd, Vikki. Drwy gynyddu cost dal gafael ar dir sy'n addas ar gyfer datblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i newid cydbwysedd cymhellion i annog datblygu. Diben treth ar dir gwag fyddai ysgogi newid ymddygiad, yn hytrach na chreu refeniw ychwanegol. Wrth geisio sicrhau bod tir gwag yn cael ei ddatblygu, mae'n iawn inni archwilio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni, gan gynnwys treth.
Fel y nododd Vikki, yn ddiweddar cyflwynodd Gweriniaeth Iwerddon ardoll ar safleoedd gwag i fynd i'r afael â'r problemau rydym ninnau hefyd am fynd i'r afael â hwy yng Nghymru, ac mae'n darparu pwynt cyfeirio defnyddiol ar gyfer sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. O dan y model hwn, pan fydd safle cymwys wedi bod yn wag am flwyddyn, caiff ei gofrestru gan yr awdurdod lleol perthnasol. Os na chyflawnir unrhyw ddatblygu ystyrlon wedyn o fewn 12 mis, gosodir yr ardoll a'i chasglu bob blwyddyn mewn perthynas â'r flwyddyn flaenorol nes y bydd y datblygiad yn dechrau. Yn achos y weriniaeth, mae'r ardoll ar safleoedd gwag yn daladwy ar dir a nodwyd fel tir sy'n addas ar gyfer datblygu tai ac adfywio. Wrth ddatblygu treth ar dir gwag yng Nghymru, byddwn eisiau archwilio sut y gallai helpu i gyflawni amcanion ym maes tai ac adfywio. Yn wir, Vikki, rwy'n meddwl eich bod wedi crybwyll amcanion hamdden a thwristiaeth yn ogystal, ac rydym yn bendant yn awyddus i edrych ar y rheini.
Nid ydym am gosbi'r rheini sy'n mynd ati i ddatblygu o fewn amserlenni'r broses arferol, na'r rhai sy'n cael eu hatal rhag datblygu gan bethau megis halogi. Rydym yn mynd ati'n benodol i ddatrys y broblem rydym wedi ei thrafod heddiw sef tirfeddianwyr yn dibynnu ar y farchnad i godi prisiau ac ymelwa ar gynnydd heb ei ennill yng ngwerth tir. Er mwyn cyflawni ein hamcanion polisi, bydd angen inni ystyried yn ofalus sut y byddai gosod a strwythuro treth o'r fath, ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio dull o weithredu trethiant a fydd yn cymell rhag ymddygiad nad ydym ei eisiau heb ganlyniadau anfwriadol.
Fodd bynnag, ni allwn ystyried cyflwyno treth ar dir gwag heb i'r pwerau gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn gyntaf. Yn gwbl briodol, nid yw proses Ddeddf Cymru yn gyflym nac yn hawdd. Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cytuno â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys—mae llawer o ysgrifenyddion yma—ynglŷn â sut y bydd y broses yn gweithio'n ymarferol. Felly, bydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i gychwyn y broses honno. Pan fydd cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag wedi'i ddatganoli, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn parhau wedyn i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion polisi manwl i'r Cynulliad hwn wneud gwaith craffu arnynt.
Nid yw pob ymddygiad bancio tir yn gysylltiedig â safleoedd gwag. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cychwyn ar drafodaeth ehangach am dreth gwerth tir a pha un a ellid cymhwyso'r ffordd hon o godi refeniw i drethi eiddo sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru—er enghraifft, trethi lleol. Mae nifer o wledydd eraill wedi arbrofi gyda threthi lleol yn seiliedig ar ryw fesur o werth tir, ond yn y gorffennol, mae'r goblygiadau gweinyddol wedi atal cynnydd.
Rhaid imi ddweud nad yw'r tir yn aml yn wag yn fy etholaeth yn Abertawe mewn gwirionedd, ond mae'n cynnwys adeiladau sydd wedi cael eu gadael i ddirywio heibio i'r pwynt lle y gellir eu hadnewyddu ac maent yn ddolur llygaid pur ac yn llawn cymaint o broblem â thir sy'n wag go iawn ond bod nifer o broblemau eraill ynghlwm wrthynt. Felly, mae gennym nifer fawr o fuddsoddwyr preifat sydd wedi buddsoddi mewn adeiladau hen a hanesyddol weithiau sy'n eu gadael fel y maent wedyn, ac mae un adeilad o'r fath yng nghanol dinas Abertawe ac mae wedi bod yn adfail llwyr ers nifer o flynyddoedd, gyda'r holl stwff yn tyfu allan ohono, ac mae'r buddsoddwr yn gwrthod gwerthu ar y sail y bydd, yn y pen draw, yn cynyddu yn ei werth. Felly, mae gennyf ddiddordeb etholaethol mewn gweld sut y gallwn ymestyn hynny i gynnwys dod ag adeiladau adfeiliedig yn ôl i ddefnydd buddiol hefyd.
Felly, yn ystod oes y Cynulliad, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn mynd i brofi dichonoldeb treth gwerth tir fel dewis posibl yn lle'r defnydd o ardrethi annomestig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cyhoeddi asesiad o hyn i lywio'r ddadl ehangach cyn y Cynulliad nesaf ac wedi hynny. Fel y dywedodd David Melding, mae dadleuon fel hyn yn sicrhau bod syniadau o'r fath yn cael eu cyflwyno ar y llawr lle y gallwn edrych arnynt o ddifrif. Diolch.